The Prisoner | Fidelio (Act II) Dallapiccola | Beethoven
Archived: 2018/2019Trosolwg
Dyma berfformiad dwbl, unigryw sy’n dod â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Corws WNO a Chorws Cymunedol WNO ynghyd
Dyma berfformiad dwbl, unigryw sy’n dod â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Corws WNO a Chorws Cymunedol WNO ynghyd.
Opera radio un act oedd The Prisoner yn wreiddiol, wedi ei seilio ar stori fer, La torture par l’espérance (‘Artaith gan Obaith’). Yma, caiff ei pharu ag Act II o unig opera Beethoven, sef Fidelio, gan fod ei phwnc yn thema sy’n agos iawn at galon y cyfansoddwr: trechu gormes drwy ddymuniad cynhenid dyn am ryddid.
Bydd yr operâu hyn yn cael eu cyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney a’u harwain gan gyn-Gyfarwyddwr Cerdd WNO Lothar Koenigs.
The Guardian
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg | Almaeneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Synopsis
The Prisoner
Mae mam yn ymweld â'i mab yn y carchar. Caiff weledigaeth frawychus o'r Brenin Philip o Sbaen sy'n trawsnewid yn rhagargoel o farwolaeth.
Mae'r carcharor yn cofio'r foment wyrthiol pan alwodd ei geidwad carchar ef yn 'Frawd', a wnaeth ennyn gobaith ynddo. Gweddïa ei fam am ei oroesiad.
Mae'r ceidwad carchar yn ei alw yn 'Brawd' eto, ac yn ei annog i ddal ati i obeithio er mwyn aros yn fyw. Dywed wrtho am y gwrthryfel yn Fflandrys yn erbyn gorthrwm Philip o Sbaen, ac mae'r carcharor unwaith eto'n credu bod ganddo obaith o gael ei ryddhau.
Ar ôl i'r ceidwad carchar ddiflannu, mae'r carcharor yn synnu i weld pelydryn o olau, ac yn raddol sylweddola fod drws ei gell ar agor.
Mae'r carcharor yn dechrau sleifio ar hyd y coridor y tu allan i'w gell. Ar ôl llawer o betruso, o'r diwedd mae'n dod allan i ardd fendigedig sydd yng nghysgod cedrwydden, gyda golygfa o'r mynyddoedd yn y cefndir. Mae'r carcharor yn orfoleddus ac yn credu ei fod wedi dod o hyd i ryddid.
Ond yn sydyn mae'r Uchel Chwilyswr yn ymddangos, a sylweddola'r carcharor mai 'Gobaith yw'r artaith fwyaf'.
Fidelio (Act II)
Mae Don Pizarro, Llywodraethwr y Carchar, wedi carcharu ei elyn gwleidyddol, Don Florestan, heb reswm ac yn anghyfreithlon.
Mae Léonore, gwraig Florestan, trwy wisgo fel dyn wedi llwyddo i gael swydd yn y carchar, yn gweithio i Rocco, y ceidwad carchar. Ar ôl dod i wybod bod y llywodraeth ar fin dechrau ymchwiliad i'r carchar, mae Pizarro yn penderfynu llofruddio Florestan. Mae Rocco yn cael gorchymyn i fynd i'r ddaeargell gyda'i gynorthwyydd Léonore (mewn cuddwisg), i agor y tanc dwˆr a fydd yn gweithredu fel bedd i Florestan.
Agora Rocco a Léonore y tanc dwˆ r, ac mae hi'n dod i ddeall mai ei gwˆr Florestan yw'r carcharor. Mae Pizarro yn cyrraedd, ond pan mae'n mynd i lofruddio Florestan, mae Léonore yn estyn am ei phistol i'w rwystro.
Mae swˆn trymped yn cyhoeddi bod y Gweinidog, Don Fernando, wedi cyrraedd i archwilio'r carchar. Caiff Florestan a'r carcharorion eraill eu rhyddhau, ac mae pawb yn dod at ei gilydd i ddathlu dewrder Léonore.
Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.