War and Peace Prokofiev
Archived: 2018/2019Trosolwg
Mae cynhyrchiad newydd David Pountney yr un mor uchelgeisiol ac ar raddfa mor epig â’r nofel ei hun gan gynnwys fersiwn unigryw o’r sgor.
Yn seiliedig ar nofel Leo Tolstoy, mae naratif War and Peace yn dilyn trallodion cymdeithas Rwsia wrth i Napoleon agosáu at ffiniau'r wlad.
Maer Natasha afieithus a'i dyweddi Andrei yn gweld eu cariad ifanc yn cael ei herio gan demtasiwn, tra bod Pierre, bonheddwr idealistig eisiau newid bywyd yn Rwsia er gwell. Wrth i dynged y tri ymblethu yn ystod ymosodiad 1812, maen nhw'n darganfod bod eu straeon yn datblygu yn ystod cyfnod pan fyddai bywyd yn Rwsia yn newid am byth.
Mae cynhyrchiad newydd David Pountney yr un mor uchelgeisiol ac ar raddfa mor epig â’r nofel ei hun. Gyda set enfawr, tafluniadau fideo a’r gwisgoedd trawiadol yn portreadu urddas cymdeithas Rwsia yn yr 1800au. Bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus yn arwain fersiwn unigryw o'r sgôr, yn seiliedig ar argraffiad newydd gan Katya Ermolaeva ac Rita McAllister o waith gwreiddiol Prokofiev, gyda dawnsiau ac ariâu gwych, ac alawon cyffrous.
The Telegraph
The Guardian
The Stage
Opera Now
The ObserverCrisply conducted by WNO music director Tomáš Hanus, cast, chorus and orchestra dazzled
Bachtrack
Noddwr Anrhydeddus, Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad Rwsia
Cefnogir gan
Partneriaid WNO
Derek Hill Foundation
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Cyd-gynhyrchiad gyda Theater Magdeburg
Ffeithiau
Gwynaethpwyd y recordiad cyntaf erioed gan Prokofiev yn stwidio Abbey Road, Llundain, ym mis Mehefin 1932. Arweiniodd ei drydydd Piano Concerto gyda London Symphony Orchestra.
Llwyddodd buddugoliaeth Rwsia yn erbyn Napoleon i greu argraff mor gryf ar ysbryd cenedlaethol Rwsia nes pan ymosododd Hitler ar yr Unbed Sofietaidd yn 1941 bod Stalin wedi troi at wraith gwych Tolstoy i hyrwyddo amddiffynaid cenedlaetholgar o'r Famwlad.
Synopsis
Y cefndir i’r stori yw’r frwydr barhaus ar draws Ewrop yn erbyn Napoleon, a daeth Rwsia yn rhan o’r frwydr yn 1805. Gyda 500,000 o filwyr o Ffrainc yn ymosod ar Rwsia ym 1812, daw’r rhyfel yn amlwg iawn. Cyfansoddwyd opera Prokofiev yn y 1940au gyda’r gyflafan frawychus o ganlyniad i ymosodiad y Natsïaid ar Rwsia Sofietaidd yn dylanwadu’n fawr ar gwrs ei chyfansoddiad.
HEDDWCH
Arysgrif: Mae pobl Rwsia yn paratoi i amddiffyn eu hunain.
Mae’r Tywysog Andrei Bolkonsky yn ymweld â stad Iarll Rostov, ac yn cwrdd â’I ferch, Natasha.
Mewn dawns yn St Petersburg, mae perthynas Andrei a Natasha yn dyfnhau.
Mae Natasha a’i thad yn cael derbyniad oeraidd gan dad Andrei y tywysog Bolkonsky a oedd yn adnabyddus am fod yn grintachlyd, ac a oedd yn wrthwynebus i berthynas Natasha â’i fab. Anfonir Andrei dramor.
Mae Pierre Bezukhov wedi etifeddu teitl ei dad a’i ffortiwn helaeth, ond mae’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’w hunaniaeth foesol ac i ddeall ei gyfrifoldebau. Mewn cyferbyniad, mae Hélène, ei wraig, yn byw bywyd afradlon yn y steil Ffrengig gyffredin, ac ynghyd â’i brawd afradlon, Anatole, mae hi’n mwynhau hudo eraill i’w ffyrdd gwyllt. Wedi ei drysu gan ymateb y teulu Bolkonsky llym, mae Natasha wedi’i hannog gan Hélène yn ildio i swyn Anatole, ac yn fyrbwyll yn cytuno i redeg i ffwrdd i briodi ag ef.
Mae Anatole yn gwneud y trefniadau. Mae’n amlwg nad yw Natasha yn fwy na choncwest egotistaidd iddo ef.
Caiff y cynlluniau i redeg i ffwrdd eu hatal ar y funud olaf, ond mae Natasha wedi’i chywilyddio. Mae Pierre yn ei chysuro a’i chynghori, ond mae’n cael ei anesmwytho pan sylweddola bod ganddo ef deimladau cryf tuag ati hefyd.
Mae Pierre yn taclo Anatole ac yn ei gyhuddo o fod yn gachgi ac yn ferchetwr. Mae’n gorfodi Anatole i gytuno i fynd dramor i osgoi sgandal i Natasha. Yn sydyn, mae’r newyddion yn cyrraedd bod Napoleon wedi croesi ffin Rwsia. Mae’n Rhyfel.
EGWYL
RHYFEL
Mae gwirfoddolwyr a phartisaniaid yn paratoi i amddiffyn Moscow. Myfyria Andrei, sydd bellach yn swyddog ar wasanaeth, ar golli Natasha. Yn y cyfamser, mae Pierre yn gweld y rhyfel fel y foment i ddod o hyd i’w hun. Mae’r ddau yn cyfarfod ymhlith yr anhrefn a’r panig o wrthdaro sy’n nesáu.
Mae’r cadfridog Rwsiaidd, Kutuzov, yn adolygu ei filwyr. Gofynna i Andrei ymuno ag ef ar y staff, ond mae’n well gan Andrei ymladd gyda’i filwyr. Mae ergyd canon yn cyhoeddi bod y frwydr am Foscow wedi dechrau.
Yn ei rhag-gaer, mae Napoleon yn gwylio cynnydd y frwydr. Ond nid yw’n mynd yn ei blaen fel y byddai wedi arfer gwneud. Mae Napoleon mewn penbleth ac yn ansicr, ac mae’n amlwg na fydd y frwydr yn arwain at fuddugoliaeth glir i’r naill ochr na’r llall.
Yn dilyn y frwydr, mae Kutuzov a’i gadfridogion yn ystyried eu dewisiadau, ac mae Kutuzov yn dod i’r casgliad anfodlon bod rhaid iddo adael Moscow, a thrwy hynny ddenu’r gelyn i drap gaeaf yn Rwsia a llinellau cyflenwi bregus.
O dan ymosodiadau dyddiol gan y partisaniaid, mae disgyblaeth y fyddin Ffrengig yn dechrau gwanhau, ac mae’n well gan ddinasyddion Moscow losgi eu dinas yn hytrach na’i chaniatáu i ddiogelu a maethu’r gelyn.
Mae gan Pierre gynllun cyfrinachol a braidd yn hurt i lofruddio Napoleon. Mae’n clywed bod Tywysog Andrei wedi cael ei anafu, a bod Natasha yn gofalu amdano yn y wlad. Caiff Pierre ei arestio gan y Ffrancwyr a’i gyhuddo o losgi bwriadol. Caiff ei ddedfrydu i farwolaeth, ond yn hytrach mae’n dod yn garcharor. Wrth weld y newyn a’r trais ofnadwy mae’r Rwsiaid cyffredin yn wynebu, mae’n dechrau deal ei hunaniaeth a’i bwrpas ei hun. Mae Moscow yn llosgi.
Mae Andrei yn ddryslyd ac yn marw. Mae Natasha yn ei nyrsio. Mewn marwolaeth maent yn dod o hyd i ddealltwriaeth ac yn cymodi.
Cilia’r Ffrancwyr trwy’r eira, wedi’u haflonyddu gan bartisaniaid ar bob ochr. Caiff Pierre ei lusgo gyda nhw fel carcharor rhyfel. Mae ei gyfaill yn marw wrth ei ymyl, ond mae’r partisaniaid yn ei achub ef mewn union bryd.
Mae’r Ffrancwyr wedi mynd ac i’r Rwsiaid mae’r hunllef drosodd. Goroesodd Pierre, ac mae’n meddwl tybed a fydd Natasha, ar ôl popeth, yn rhan o’I ddyfodol. Mae’r Cadfridog Kutuzov, yn ddiymhongar ac yn hunanfychanol fel arfer, yn dod â’r cyfan i ben gyda gwên a jôc.