Carmen Bizet
Archived: 2019/2020Trosolwg
Ni all yr un dyn wrthsefyll swynion hudoles fwyaf y byd opera, Carmen.
Ni all yr un dyn wrthsefyll swynion hudoles fwyaf y byd opera, Carmen. Yn ddibryder ac yn llawn bywyd, mae hi'n benderfynol o gadw ei hannibyniaeth, felly pan mae hi'n swyno'r milwr, Don José sy'n aberthu ei hen fywyd iddi, nid yw hi wedi paratoi ar gyfer y digwyddiadau a fydd yn datblygu. Wedi diflasu, mae hi'n troi ei sylw at y golygus Escamillo, ac mae cenfigen Don José yn peri diweddglo cyffrous.
Bydd cynhyrchiad newydd Jo Davies, sydd wedi ei osod yng Nghanolbarth America’r 1970au, yn cyflwyno'r holl angerdd a drama sy'n ddisgwyliedig o'r opera eiconig hon. Mae cerddoriaeth hudolus Bizet, o'r enwogToreador Songi Habanera pryfoclyd Carmen, yn datgelu emosiwn y cymeriadau i greu tensiwn a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd.
The Sunday TimesDavies’s staging is a model of how to make an update of a classical masterpiece unpretentious and accessible, yet bursting with energy.
Cefnogir gan
WNO Friends
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Ffrangeg, gydag uwchdeitlau Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)
Mae WNO yn darparu disgrifiad sain a theithiau cyffwrdd ar gyfer rhai perfformiadau. Gweler y tab lleoliadau a thocynnau am ragor o wybodaeth.
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
16-29 mlwydd oed
£10 (yn amodol ar argaeledd). Ni fydd ar gael ar docynnau o’r ddau bris uchaf na’r pris isaf
Synopsis
Act un
Mae Moralès a’r milwyr eraill yn aros yn eiddgar am egwyl merched y ffatri. Cyn bo hir mae Zuniga a José yn cyrraedd yn union o flaen Carmen, sy’n taflu blodyn i José. Mae José yn synnu braidd o weld Micaëla, sef y ferch y mae ei fam yn dymuno iddo’i phriodi – mae hi wedi dod i chwilio amdano. Yn ddisymwth, mae ysgarmes yn cychwyn, a chaiff José ei anfon i dawelu’r dyfroedd. Mae Carmen wedi ymosod ar ddynes arall. Yn absenoldeb Zuniga, mae Carmen yn perswadio José i’w helpu i ddianc.
Act dau
Cafodd José ei anfon i’r carchar am helpu Carmen, ond mae ar fin cael ei ryddhau erbyn hyn. Mae Zuniga a Carmen yn mynd i far Lillas Pastia lle y mae’r ymladdwr teirw Escamillo yn creu argraff fawr ar Carmen. Mae Dancaïre a Remendado yn ceisio perswadio Frasquita, Mercédès a Carmen i helpu’r milisia i smyglo gynnau. Ond gwrthod a wnaiff Carmen, gan ei bod yn aros am José. Pan ddaw José, mae Carmen yn dawnsio iddo. Mae José yn clywed yr alwad i ymarfogi ac mae’n ceisio gadael. Yna, mae Zuniga yn dychwelyd, ac yn llawn cenfigen oherwydd Carmen, mae’n ymosod ar José. Gan na all bellach ddychwelyd i’r fyddin, caiff José ei orfodi i ymuno â phenaethiaid y favela.
EGWYL
Act tri
Mae Carmen wedi diflasu ar José gan ragweld y bydd eu perthynas yn arwain at ei marwolaeth. Wrth chwilio am José, mae Micaëla yn ei weld yn ymladd ag Escamillo. Yna, mae Carmen a’r milisia’n cyrraedd ac yn eu gwahanu. Mae Escamillo yn eu gwahodd i gyd i’w ymladdfa deirw nesaf. Caiff Micaëla ei darganfod ac mae’n erfyn ar José i fynd i weld ei fam sydd ar ei gwely angau.
Act pedwar
Daw Carmen i’r ymladdfa deirw fraich ym mraich ag Escamillo. Mae Mercédès a Frasquita yn ei rhybuddio eu bod wedi gweld José, gan ddweud wrthi am fod yn ofalus. Daw José i’r fei ac mae’n erfyn arni i ddychwelyd ato. Ond nid yw Carmen yn fodlon ildio’i rhyddid. Wrth i’r dorf roi cymeradwyaeth i Escamillo, mae José yn ei lladd.