Don Giovanni Mozart
Archived: 2021/2022Trosolwg
Bydd chwarae â thân yn eich llosgi yn y diwedd
Mae merchetwr mwyaf y byd opera’n ei ôl ac yn ymddwyn yn eithriadol o ddrwg. Mae’r Don Giovanni carismataidd yn hudo ei ffordd o amgylch Ewrop, yn cymryd yr hyn y mae ei eisiau ac yn byw am chwant, heb gydwybod. Pan mae un o’i goncwestau’n gorffen mewn llofruddiaeth, mae’n edrych fel bod ei lwc am newid. Mae’n canfod ei hun ar ffo, yn cael ei ddilyn gan hen gariadon a dyweddïau anfodlon a grym o du hwnt i’r bedd. Ond pan mae’n gwrthod dangos edifeirwch, mae ei orffennol yn dal i fyny ag ef ac yn arwain at ei ddiwedd.
Yn seiliedig ar chwedl Don Juan, mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru wedi’i leoli yn Oes Aur Sbaen. Mae Mozart yn adlewyrchu comedi a thrasiedi yn wych yn y sgôr, sy’n cynnwys yr aria ‘Catalogue’ sy’n manylu ar 2065 o gariadon Giovanni, yr aria ‘Champagne’ befriog a drama fawr y diweddglo gwefreiddiol.
#WNOgiovanni
Opera Mag…the darkness and demonic forces of the director John Caird and designer John Napier’s concept continue to make an impact
Cefnogir yr arweinydd gan D Morgan
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Am ganllawiau diogelwch yn ein lleoliadau, cliciwch yma
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Act Un
Yn nhŷ’r Commendatore, mae Don Giovanni’n ceisio treisio Donna Anna, merch y Commendatore. Mae'r Commendatore yn camu i mewn ac mae Giovanni yn ei ladd cyn dianc gyda’i was, Leporello. Pan mae Anna a’i darpar ŵr, Don Ottavio, yn dod o hyd i’r corff, maent yn addo dial.
Mae Elvira, gwraig Giovanni, y mae wedi’i gadael, wedi bod yn chwilio amdano, ond pan mae hi’n ei wynebu, mae Don Giovanni’n dweud wrth Leporello i ddangos ei restr hir o ferched mae wedi’u hudo iddi.
Yn sgwâr y pentref, mae dathliadau priodas Zerlina a Masetto wedi dechrau. Tra bod Leporello yn cadw Masetto o'r ffordd, mae Giovanni’n ceisio hudo Zerlina, ond mae Elvira’n eu tarfu ac yn rhybuddio Zerlina amdano.
Mae Ottavio ac Anna yn gofyn i Giovanni am ei help i ddial am lofruddiaeth ei thad. Mae Elvira’n ymddangos eto ac yn eu rhybuddio am Giovanni, gan wneud i Anna sylweddoli mai ef oedd yr un a oedd wedi’i threisio a lladd ei thad. Mae Anna yn dweud wrth Ottavio beth ddigwyddodd, gan fynnu ei fod yn dial drosti.
Yn ôl yn nhŷ Giovanni, mae Leporello a Giovanni’n myfyrio ar lwyddiannau a methiannau’r dydd. Mae Giovanni’n gwneud cynlluniau i ychwanegu 10 merch arall i’w restr drwy gynnal gwledd.
Mae Masetto a Zerlina’n dadlau ynghylch ei hanffyddlondeb; mae Giovanni’n gwahodd y ddau i’r parti. Gan ddefnyddio’r dawnsio fel ffug-esgus, mae’n cipio Zerlina, ond mae Masetto, ynghyd ag Anna, Elvira ac Ottavio, sydd mewn cudd-wisgoedd, yn ei chlywed yn sgrechian am help. Maent yn dadorchuddio eu cudd-wisgoedd ac mae’r pump ohonynt yn condemnio Giovanni. Mae’n dianc.
Act Dau
Ar ôl i Giovanni berswadio Leporello i barhau i weithio iddo, maent yn cyfnewid eu dillad, er mwyn i Giovanni fentro gyda morwyn Elvira, gan ddefnyddio Leporello i fwydro Elvira.
Mae Masetto, ynghyd â grŵp o bentrefwyr wedi’u harfogi, yn dod i ladd Giovanni, ond, wedi gwisgo fel Leporeollo, mae’n eu hanfon i bob mathau o gyfeiriadau gwahanol. Mae Zerlina’n cysuro Masetto.
Mae Anna ac Ottavio, ynghyd â Zerlina a Masetto, yn bygwth lladd Leporello, yn meddwl mai Giovanni ydyw. Mae’n tynnu ei guddwisg ac yn ymbil am drugaredd. Mae’n dianc.
Mewn mynwent, mae Giovanni yn brolio i Leporello ei fod wedi hudo ei gariad; o’r tywyllwch, mae cerflun y Commendatore yn ei geryddu. Wedi’i ddychryn yn llwyr, mae Leporello’n darllen yr arysgrifiad ar y bedd sy’n addo dial. Mae’r cerflun yn derbyn gwahoddiad Giovanni i swper. Yn y cyfamser, mae Anna’n ceisio oedi ei phriodas ag Ottavio.
Mae Giovanni’n bwyta ei swper pan mae Elvira’n tarfu arno, yn erfyn arno i newid ei ffordd. Mae’n ei gwawdio. Mae'r Commendatore yn ei herio. Mae Giovanni yn gwrthod edifarhau. Mae’n cael ei lusgo drwy gatiau Uffern; mae corws o ddiafoliaid yn galw am ei gondemniad.
Mae Leporello’n dweud wrth bawb arall beth sydd wedi digwydd. Mae cynlluniau priodas Anna ac Ottavio yn mynd rhagddynt. Mae Elvira yn penderfynu ymuno â lleiandy. Mae Zerlina a Masetto’n mynd adref. Mae Leporello’n penderfynu dod o hyd i feistr newydd, gwell. Gyda'i gilydd, maent yn canu'r diweddglo: bydd pobl ddrwg bob amser yn dod i ddiwedd drwg, a rhaid i bechaduriaid farw yn yr un ffordd ag y maent wedi byw.