Madam Butterfly Puccini
Archived: 2021/2022Trosolwg
O addewid mis mêl i frad ac anobaith
Ar yr wyneb, mae’n freuddwyd o briodas i briodfab a’i briodferch ifanc, brydferth - ond y tu ôl i’r ffasâd, mae gwirionedd creulon. A hithau ar ei phen ei hun ac wedi’i bradychu, mae byd Butterfly yn chwalu o’i chwmpas wrth i’w hunig gyfle am ryddid droi’n garchar. Mae ei hanobaith a’i phoen yn dwysáu wrth iddi frwydro i oroesi, gyda chanlyniadau difrifol.
Mae Madam Butterfly yn stori bwerus am gariad annychweledig, poen dynol a dioddefaint, gyda cherddoriaeth ogoneddus Puccini’n dwysáu’r cyfan yn rhagorol, i gynnig noson o ddrama ac emosiwn. Wedi’i ysbrydoli gan dirlun ffantasi Puccini o bleserau ecsotig, mae cynhyrchiad newydd Lindy Hume yn dehongli stori enwog Butterfly drwy lens yr 21ain ganrif.
#WNObutterfly
The Timespiercingly emotional modern-day interpretation
The Sunday Telegraph
The Guardian
Lluniau o gast Hydref 2021
Cefnogir yr arweinydd gan Colin a Sylvia Fletcher; y cyfarwyddwr gan Christopher Greene, Annmaree O’Keeffe a noddwr anhysbys; rhan Butterfly (Cio-Cio-San) gan Jo Furber a rhan Pinkerton gan Martyn Ryan
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Am ganllawiau diogelwch yn ein lleoliadau, cliciwch yma
Am ddisgrifiad clywedol, cliciwch yma
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Act Un
Mae’r paratoadau ar y gweill ar gyfer priodas y Lefftenant Pinkerton o Lynges yr Unol Daleithiau, sydd wedi cytuno i brydles ‘999 o flynyddoedd’. Madam Butterfly yw’r eneth ifanc sydd ar fin dod yn wraig iddo, a chyn iddi gyrraedd mae Pinkerton yn cael sicrwydd gan gyfryngwr y briodas, Goro, fod y brydles a chontract y briodas ill dau yn cynnwys cymalau terfynu cyfleus. Cyn y briodas, mae Pinkerton i’w weld yn ddigon di-hid wrth drafod y byd a’i bethau dros ddiod gyda’i gydwladwr, y Conswl Americanaidd Sharpless, ond mae ganddo bryderon am i Butterfly ymweld â Swyddfa Consyliaid America yn ddiweddar ac yn ymddangos fel ei bod hi o ddifrif ynghylch y briodas. Ei gyngor i Pinkerton yw y dylai fod yn bwyllog, ond nid yw Pinkerton yn cymryd dim sylw o hyn.
Mae Butterfly (Cio Cio San) yn cyrraedd, gyda’i ffrindiau a’i theulu o’i hamgylch, yn eiddgar i gwrdd â’i gŵr. Yn ddigon di-flewyn-ar-dafod, mae’n dweud hanes ei bywyd hyd yma wrth Pinkerton a Sharpless. Mae ei theulu wedi colli popeth. Roedd ei thad wedi lladd ei hun, felly mae hithau’n gweithio fel ‘croesawferch’ i gefnogi ei mam drwy’r amseroedd caled. Mae hi’n 15 oed yn union. Yn dawel bach, mae Butterfly yn rhannu ei heiddo mwyaf gwerthfawr â Pinkerton, ac mae’n dweud wrtho ei bod wedi bod yn addasu i’w ffordd Americanaidd o fyw a’i ddaliadau er mwyn plesio ei gŵr.
Mae seremoni’r briodas yn mynd rhagddi yn ddigon hwylus, ond daw Bonze i amharu ar y dathliadau. Ewythr cas Butterfly yw Bonze, ac mae’n ei herio am ei hymweliadau cyfrinachol i’r genhadaeth a swyddfa Consyliaid America. Mae Bonze yn gwbl gandryll ac mae’n condemnio Butterfly am fradychu ei chymuned a’i diwylliant. Mae ei theulu a’i ffrindiau, heblaw am y forwyn Suzuki, oll yn gegrwth, maent yn dweud wrthi nad oes arnynt eisiau dim i’w wneud â hi. Mae Pinkerton yn cysuro Butterfly â hithau bellach ar ei phen ei hun. Y noson honno, mae’r cwpwl priod yn caru dan y sêr.
Act Dau, Rhan Un
Mae tair blynedd wedi mynd heibio. Mae Butterfly a Suzuki yn dal i fyw yn nhŷ Pinkerton, ac mae arian wedi mynd yn brin. Gan fod ganddi bob ffydd y bydd Pinkerton yn dychwelyd, mae Butterfly wedi gwrthod bob tro y mae Yamadori, gŵr cyfoethog, wedi gofyn iddi ei briodi.
Mae Sharpless wedi derbyn llythyr gan Pinkerton yn gofyn iddo dorri’r newyddion i Butterfly ei fod yn bwriadu dychwelyd, ond nad yw Pinkerton yn dymuno ei gweld hi. Mae hi’n gwrthod gwrando. Wrth i Sharpless geisio ei pherswadio i droi ei golygon at Yamadori, mae hi’n dweud y byddai’n well ganddi farw ac yn datgelu ei bod wedi cael mab gyda Pinkerton. Wrth i Sharpless adael, mae’n addo y bydd yn rhoi gwybod i dad y plentyn. Clywir sŵn canon yr harbwr – arwydd bod llong Pinkerton ar fin cyrraedd. A hithau wedi cyfiawnhau ei hymroddiad i’w gŵr, mae Butterfly yn dathlu gyda Suzuki, ac yna’n aros i’w gŵr gyrraedd mewn gwylnos.
Act Dau, Rhan Dau
Y bore canlynol, mae Butterfly yn dal i aros. Mae Suzuki yn ei pherswadio i gysgu wrth i Sharpless ddychwelyd gyda Pinkerton a’i wraig Americanaidd go iawn, Kate. Maent yn gofyn i Suzuki am ei gymorth i dorri’r newyddion i Butterfly eu bod yn dymuno mabwysiadu’r plentyn. Gan dderbyn goblygiadau hyn, mae Pinkerton yn rhoi arian i Sharpless i dalu am y plentyn, ac mae’n gadael.
Pan mae Butterfly yn dihuno, caiff ei dychryn gan rywun dieithr sy’n codi ofn arni. Gan ddeall wedyn mai dyma wraig Pinkerton, mae’n cytuno i roi ei mab iddi ar yr amod bod Pinkerton yn dod i’w gasglu ei hun. Dyma ffarwelio â’i mab ifanc, a chan ddefnyddio’r arf a ddefnyddiwyd gan ei thad, mae hithau’n lladd ei hun. Daw Pinkerton yn ei ôl i ddarganfod corff difywyd Butterfly.