Death in Venice Britten
Archived: 2023/2024Trosolwg
A fyddech chi’n dilyn cariad i gael ysbrydoliaeth?
Wrth chwilio am brydferthwch ac ystyr, mae’r awdur enwog Gustav von Aschenbach yn mynd ar daith fympwyol i Fenis. Yn awyrgylch drymaidd yr epidemig colera, gyda’r gwynt scirocco yn chwythu, mae’n disgyn mewn cariad â Tadzio, aristocrat ifanc sy’n aros yn yr un gwesty gyda’i deulu. Wrth i Aschenbach daflu ei unigrwydd a’i chwant arno, mae ffantasi a dychymyg yn cydgymysgu â bodolaeth. Mae ei obsesiwn yn datblygu’n ferw gwyllt wrth iddo ymbellhau fwyfwy oddi wrth realedd.
Wedi’i hysbrydoli gan y nofel fer wreiddiol gan Thomas Mann, mae opera llawn awyrgylch Britten yn dod yn fyw yn y cynhyrchiad newydd hwn gan WNO, gan greu delweddau o brydferthwch cyfareddol, yn ogystal ag archwilio’r grotésg sy’n gudd o dan geisio’r aruchel. Wrth i fydau barddonol y dychymyg wrthdaro â realedd, mae dechrau’r 20fed ganrif yn gweithredu fel drych i’n cyfnod ni.
The Telegraph
The Guardian
The Stage
The Times
Bachtrack
Archebu rhaglen
Archwiliwch tu ôl i'r llenni
Mae cynyrchiadau a chomisiunau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation. Daw cefnogaeth cynhrychu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust a Grŵp Britten WNO. Cefnogir gan Dunard Fund a Rhoddwyr WNO.
Er cof am John Crisp
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
*gan eithrio 9 Mawrth
Synopsis
Mae'r awdur enwog Gustav von Aschenbach yng nghanol ei bumdegau. Mae ei wraig wedi marw, ac mae ei unig ferch yn briod, felly mae'n byw ar ei ben ei hun. Mae wedi ymdaflu i’w waith ac wedi derbyn nifer o anrhydeddau, ond mae ei ddychymyg yn hesb ac mae'n teimlo ei fod wedi'i ddatgysylltu o'r byd.
Act I
Y tu allan i fynwent ym Munich, mae Aschenbach yn gweld dieithryn dirgel. Caiff ei ysbrydoli i deithio i Fenis. Ar y cwch i Fenis, mae Aschenbach wedi'i amgylchynu gan griw o bobl ifanc ac mae wedi’i ffieiddio o weld henwr hunandybus mewn colur.
Ar ei daith i'r gwesty mewn gondola ar y Lido, mae'n ystyried amwysedd Fenis a natur synhwyrus y lle. Mae’r gondolïwr rhyfedd yn ychwanegu at ei bryder.
Yn ei westy, croesawir Aschenbach gan y rheolwr a'i ddangos i'w ystafell gyda golygfa o'r môr. Mae'n myfyrio ar ei ymdrech i ganfod harddwch a sut y bydd Fenis yn dylanwadu ar ei broses artistig. Ar ei ffordd i ginio, mae'n gweld dyn ifanc Pwylaidd, aristocrataidd ac yn cael ei daro gan ei harddwch.
Mae Aschenbach yn eistedd ar y traeth yn darllen. Mae'r tywydd yn ormesol, ac mae'n pendroni a ddylai aros yn Fenis. Mae'n dod o hyd i ychydig o heddwch wrth syllu ar y môr. Mae'r llanc ifanc Pwylaidd yn cyrraedd ac unwaith eto mae Aschenbach yn cael ei daro gan berffeithrwydd ei harddwch. Mae'n darganfod mai enw'r llanc yw Tadzio.
Mae Aschenbach yn cymryd gondola i Fenis. Mae'n ei chael yn ormesol ac yn ddrewllyd ac mae’n cael ei blagio gan gardotwyr a gwerthwyr. Mae'n mynnu bod yn rhaid iddo adael ac mae’n rhuthro yn ôl i'r gwesty. Mae'n cael cipolwg sydyn ar Tadzio. Mae Aschenbach yn gadael y gwesty, ond mae ei fagiau yn cael eu hanfon ar y trên anghywir, felly mae'n rhaid iddo ddychwelyd. Mae'n penderfynu mai tynged sy'n gwneud iddo aros ac wrth weld Tadzio unwaith eto mae’n amharod i adael.
Y diwrnod wedyn, mae Aschenbach yn gwylio Tadzio a phobl ifanc eraill yn chwarae gemau. Mae Tadzio yn ennill. Mae Aschenbach yn teimlo ei greadigrwydd yn dychwelyd wedi'i ysbrydoli gan Tadzio. Mae'n ceisio siarad ag ef, ond pan ddaw'r amser, ni all Aschenbach siarad. Mae'n cyfaddef ei deimladau gyda 'Rwy’n dy garu di' ond dim ond unwaith i Tadzio fynd.
Act II
Mae Aschenbach yn diawlio’i hun am ei anallu i siarad â Tadzio. Mae'n cydnabod ei deimladau ac yn ildio iddynt.
Mae barbwr y gwesty yn sôn am 'y salwch' ond yn gwrthod egluro ymhellach wrth Aschenbach. Mae'n mynd i mewn i'r ddinas wag ac yn gweld rhybuddion. Mewn papur newydd Almaeneg mae'n darllen am sïon am golera yn Fenis. Mae'n gweld y teulu Pwylaidd, ond eto, yn hytrach na'u rhybuddio, mae'n eu dilyn i Eglwys Sant Marc. Mae'n sylwi bod Tadzio yn ymwybodol ohono, ond nid yw'r naill yn cydnabod presenoldeb y llall. Mae Aschenbach yn argyhoeddi ei hun bod ei deimladau'n anrhydeddus.
Mae grŵp o berfformwyr yn llwyfannu stori garu grotesg ar gyfer gwesteion y gwesty. Nid yw Aschenbach, na Tadzio wedi’u difyrru.
Mae clerc Seisnig yn cael ei amgylchynu gan westeion sy'n ceisio gadael Fenis. Mae'n dweud wrth Aschenbach bod y gwir am y colera a’r ffigurau marwolaeth yn cael ei gelu, a bod cymdeithas Fenis yn datgymalu, ac mae’n awgrymu y dylai adael.
Er bod Aschenbach yn gwybod y dylai rybuddio mam Tadzio, ni all wynebu gwneud hynny. Mae'n breuddwydio amdano fe a Tadzio fel yr unig ddau i oroesi, a'r duwiau Dionysus ac Apollo yn ymladd drosto.
Mae Aschenbach yn gwylio Tadzio ar y traeth ac yn ildio i'w dynged. Yn y gwesty, mae'r barbwr yn lliwio gwallt Aschenbach ac yn rhoi colur amdano. Mae'n parhau i ddilyn Tadzio a'i deulu trwy Fenis.
Mae gwesteion y gwesty i gyd yn gadael a bydd teulu Tadzio yn gadael y prynhawn hwnnw. Mae Aschenbach yn mynd i'r traeth i wylio Tadzio gyda'i ffrindiau. Mae'r lleill yn gadael ac mae Tadzio yn cerdded allan i'r môr. Mae Tadzio yn troi ac yn gwahodd Aschenbach, ond mae wedi sigo yn ei gadair – yn farw.