Grŵp Britten WNO

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf bydd WNO yn llwyfannu dau gynhyrchiad newydd o operâu gan Benjamin Britten: Death in Venice a gyfarwyddir gan Olivia Fuchs (2024) a Peter Grimes dan arweiniad Tomáš Hanus (2025).

Mae angen buddsoddiad ariannol sylweddol i lwyfannu’r operâu hyn a mynd â hwy ar daith. O ystyried hyn, rydym wedi ffurfio Grŵp Britten gyda’r nod o godi o leiaf £100,000 tuag at y costau cynhyrchu. Byddem wrth ein boddau pe byddech yn ymuno â ni i lwyfannu’r gweithiau diddorol a heriol hyn.

I ddod yn rhan o’r Grŵp Britten, rydym yn chwilio am gyfraniadau o £3,500 ac uwch am bob cynhyrchiad neu £6,000 i dalu am y ddau (gellir gwneud taliadau dros dair blynedd ariannol). Mae cyfleoedd hefyd am gefnogaeth gyda rôl.

Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech ymuno â’r Grŵp Britten neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â sally.bird@wno.org.uk | 029 2063 5015 | 07395 245800