Diweddariad ar y Coronafeirws:Mwy o wybodaeth

Rhowch opera fel rhodd y tymor hwn

Ein haelodaeth Cyfeillion WNO yw’r anrheg perffaith i unrhyw un sy’n caru opera. Bydd eich cyfaill yn cael blwyddyn gyfan o fuddion gan gynnwys blaenoriaeth archebu, mynediad i ymarferion gwisgoedd, a mewnwelediad ecsgliwsif i’r Cwmni drwy e-gylchlythyrau misol a’n Cylchgrawn O sy’n cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.

Yn fwy na hynny, bydd eich anrheg yn golygu eich bod chi a’ch ffrind yn ein helpu i greu cynyrchiadau newydd, meithrin talent a mynd ag operâu arbennig ar daith.

I brynu aelodaeth Cyfeillion fel anrheg, llenwch y ffurflen anrheg ar-lein isod, e-bostiwch friends@wno.org.uk neu ffoniwch 029 2063 5014.