Crëwyd yng Nghymru
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno opera a chyngherddau o'r radd flaenaf, ond oeddech chi'n gwybod bod ein holl setiau a'n gwisgoedd yn cael eu gwneud yng Nghymru? Neu ein bod wedi bod yn cefnogi artistiaid newydd ers 20 mlynedd drwy Opera Ieuenctid WNO? Hyn oll wrth lwyfannu gweithiau epig fel Death in Venice yn ystod Gwanwyn 2024, perfformiad a ddenodd adolygiadau pum seren ac yna yr Haf yma, ar ôl hir aros, opera Il trittico.
Mae angen eich cefnogaeth arnom yn fwy nag erioed i barhau i gyflawni'r gwaith uchelgeisiol hwn, a wneir yng Nghymru.
Beth fydd eich rhodd yn helpu i sicrhau:
- Cynyrchiadau uchelgeisiol parhaus, a adeiladir ac a gynhyrchir yng Nghymru.
- Datblygu artistiaid a chynulleidfaoedd y dyfodol.
- Rhagoriaeth artistig a phrofiadau gwefreiddiol am genedlaethau i ddod.
Sut y gallwch chi gefnogi
- Gallai £10 heddiw helpu i ddarparu colur canwr mewn perfformiad.
- Gallai rhodd o £15 brynu het galed, gan sicrhau bod ein timau technegol hanfodol yn ddiogel.
- Gallai £25 brynu cyflenwad o edau am fis, gan gefnogi gwisgoedd WNO.
- Gallai £50 dalu am MOT ar gyfer faniau ein criw sy'n ein galluogi i deithio o amgylch y wlad.
- Gallai £60 dalu am sesiynau i ganwr ifanc am dymor fel rhan o Opera Ieuenctid WNO
- A llawer mwy!