Newyddion

Mae WNO yn cyflwyno La mamma morta ar Ddiwrnod AIDS y Byd.

1 Rhagfyr 2023

Eleni, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn nodi Diwrnod AIDS y Byd drwy ryddhau trydedd rhan ein prosiect Tair Llythyren - dehongliad anhygoel o La mamma morta o’r opera Andrea Chénier.

Cyhoeddwyd prosiect Tair Llythyren yn 2021, pan aeth y Cwmni ati i weithio ar y cyd â Fast Track Cymru i godi ymwybyddiaeth o HIV, a mynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm â HIV, wrth gefnogi taith uchelgeisiol Caerdydd at gyrraedd statws o sero trosglwyddiad HIV erbyn 2030.

Eleni, cawsom ein hysbrydoli gan y film garreg filltir, Philadelphia, a dderbyniodd ganmoliaeth dda 30 mlynedd yn ôl, ac aethom ati i gydweithio â seren It’s a Sin, Nathaniel J Hall. Y ffilm o 1993 oedd un o’r ffilmiau mawr cyntaf i bortreadu pobl ynghlwm ag AIDS mewn ffordd gadarnhaol, ac yn ystod un o olygfeydd emosiynol y ffilm, rydym yn clywed yr aria La mamma morta yn chwarae. Er nad yw’r ffilm yn portreadu HIV mewn ffordd feirniadol, mae’n un o ganeuon o ffilmiau sy’n arddangos HIV fel salwch sy’n cyfyngu ar fywyd. Nod ein dehongliad o La mamma morta yw ail-lywio’r naratif o gwmpas HIV, a dangos y cynnydd a realiti bywyd gyda HIV yn 2023.

Mae Philadelphia yn adrodd stori Andrew Beckett, dyn sy’n cael ei ddiswyddo ar gam o’i weithle oherwydd amheuaeth ynghylch ei rywioldeb a’r tebygrwydd ei fod yn dioddef o AIDS. Mae Beckett yn ceisio erlyn y cwmni am yr ymddygiad gwahaniaethol, wrth i’w gyflwr waethygu drwy gydol y ffilm. Mae’r ffilm ei hun yn cynnwys nifer o enghreifftiau o’r stigma cymdeithasol a’r diffyg dealltwriaeth ynghylch HIV ac AIDS. 

Mae La mamma morta yn aria o’r opera Andrea Chénier gan Umberto Giordano yn 1896. Mae’r aria’n cael ei chanu gan gymeriad Maddalena di Coigny, wrth iddi egluro sut cafodd ei mam ei lladd yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Er bod yr aria’n hynod o drist, mae’n cynnwys negeseuon o obaith hefyd, ac mae ei chynnwys yn Philadelphia yn cyfoethogi’r olygfa.

Aethom ati i weithio â Fast Track Cymru i gynhyrchu’r fideo newydd hwn, ac mae’n cynnwys Nathaniel J Hall yn darllen testun llafar newydd gan Andrew Loretto mewn lleoliadau o gwmpas Caerdydd, gan gynnwys y dafarn Golden Cross enwog yng nghanol Caerdydd. Dywedodd Nathaniel: ‘Mae Philadelphia yn bodoli mewn canon o waith am HIV ac AIDS - ynghyd ag Angels in America a Rent - ac er bod y rhain yn ddarnau anhygoel o waith, maent yn canolbwyntio ar HIV fel rhywbeth sy’n cyfyngu ar fywyd oherwydd y cyfnod o amser maent yn eu cwmpasu. Mae’n bwysig nawr ein bod yn defnyddio’r grefft o adrodd straeon a cherddoriaeth i ddathlu pa mor bell rydym wedi dod ac i godi ymwybyddiaeth o wirioneddau’r byd modern mewn perthynas â byw â HIV. Yn anffodus, mae pobl yn dal i wynebu stigma, gwahaniaethu ac yn cael eu gwrthod gan eraill oherwydd y feirws hwn, ac mae hynny’n gwbl annheg.’

Rydym yn parhau i gefnogi Fast Track Cymru wrth godi ymwybyddiaeth o AIDS a HIV, ac rydym yn parhau yn ymrwymedig i leihau’r stigma cymdeithasol ynghylch y pynciau hyn. Archwiliwch ein prosiect Tair Llythyren yma.