Wedi’i ddylunio a’i gyflwyno ar y cyd â Fast Track Cymru, mae Tair Llythyren Opera Cenedlaethol Cymru yn defnyddio cerddoriaeth a pherfformiad i geisio mynd i’r afael â stigma cymdeithasol ynghylch HIV er mwyn cefnogi Cymru i gyflawni’r targed o ddim trosglwyddiadau HIV erbyn 2030.
Gan dynnu ysbrydoliaeth o’r prosiect AIDS Quilt Songbook a ddechreuodd yn America yn 1992, mae Tair Llythyren yn gronicl cerddorol o orffennol, presennol a dyfodol HIV Cymru, gan ddefnyddio grwpiau ysgol, grwpiau cymunedol ac artistiaid lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fywyd gyda HIV yn y byd cyfoes.
Dechreuwyd y prosiect ym mis Medi 2021 gyda gweithdy creadigol gyda thros 160 o ddisgyblion blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Cafwyd sesiynau gyda’r awdur a’r ymgyrchydd Mercy Shibemba, y dramodydd a’r actor Nathaniel J Hall (It’s A Sin, First Time, Toxic), a chynrychiolwyr o Fast Track Cardiff a'r Fro. Yn dilyn hyn, fe wnaeth grŵp llai o fyfyrwyr o’r ysgol cydweithio â Mercy, y cyfansoddwr Michael Betteridge a’r gantores Siân Cameron, i greu We learn, we know, we understand.
Ar gyfer yr ail randaliad gwelwyd Mercy Shibemba yn cydweithio gyda’r gantores gyfansoddwraig o Gymru Eädyth Crawford ac Intern Lleisiol WNO Aliyah Wiggins i greu All These Dreams, sy’n ymwneud â dod o hyd i'ch llais a darganfod eich hun.
Wedi’i hysbrydoli gan y ffilm nodedig Philadelphia, mae’r drydydd randaliad yn ddehongliad anhygoel o La mamma morta o’r opera Andrea Chénier gan Umberto Giordano. Yma, cydweithiodd Cerddorfa WNO â'r soprano Camilla Roberts a Nathaniel J Hall sy'n adrodd testun gair llafar newydd gan Andrew Loretto.