Yn ystod Gwanwyn 2024, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno opera olaf Benjamin Britten, Death in Venice, i lwyfannau yng Nghymru a Lloegr. Mae hanes y condemniedig Aschenbach, a adroddwyd yn wreiddiol yn y nofel fer dan yr un teitl gan Thomas Mann, yn meddu ar rai o gymeriadau a sgorau mwyaf cymhleth Britten, ac yn defnyddio rhannau o fywyd personol y cyfansoddwr yn ei sgil.
Wedi’i eni yn Suffolk ym mis Tachwedd 1913, daeth Britten yn hoff o gerddoriaeth yn gyflym, gan gael gwersi piano gan ei fam tan yr oedd yn saith mlwydd oed. Yn 13 mlwydd oed, cyflwynwyd Britten i'r cyfansoddwr Frank Bridge, a wahoddodd y cerddor ifanc i gael gwersi gydag ef yn Llundain. Llywiodd addysg gerddorol Britten dan Bridge natur fanwl gywir ei gyfansoddiadau, a bu i Britten barhau â’i astudiaethau cerddorol yn ystod ei addysg.
Yn 1937, daeth Britten, a oedd yn heddychwr drwy gydol ei oes, yn aelod gweithredol o Undeb yr Addewid Heddwch, a chyfansoddodd ei glasur poblogaidd cyntaf, Variations on a Theme of Frank Bridge.
Yn 1937 cyfarfu â’r tenor Peter Pears hefyd, a ffurfiodd gyfeillgarwch agos gydag ef ac erbyn 1939, roeddent wedi dechrau perthynas gyfrinachol. Gyda’r rhyfel yn Ewrop yn y cefndir, teithiodd Britten a Pears i Ogledd America, ac arhoson nhw yno fel llysgenhadon artistig tan 1942, pan ddychwelasant i Brydain a gwneud cais am gydnabyddiaeth fel gwrthwynebwyr cydwybodol.
Yn fuan ar ôl hynny, yn 1944, dechreuodd Britten waith ar ei opera ar raddfa fawr gyntaf, Peter Grimes. Wedi’i ysbrydoli gan stori pysgotwr ym marddoniaeth epig George Crabbe, The Borough (1810) ac wedi’i osod ar arfordir Suffolk, byddai opera gyntaf Britten yn ailagor cartref cwmni Sadler’s Wells Opera Company yn Llundain yn 1945, gyda Peter Pears yn y brif rôl. Roedd y perfformiad agoriadol yn llwyddiant, ac aeth Peter Grimes ymlaen i fwynhau perfformiadau rheolaidd, ac mae wedi parhau fel un o’r operâu cyfrwng Saesneg gorau a ysgrifennwyd erioed.
Aeth Britten ymlaen i gyfansoddi nifer o operâu, gan gynnwys The Rape of Lucretia, Billy Budd, The Turn of the Screw, A Midsummer Night’s Dream,Death in Venice, a Gloriana, a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd i ddathlu coroni’r Frenhines Elizabeth II. Byddai cyfansoddiadau amlwg Britten yn sicrhau ei fod yn ennill ei enw da fel cyfansoddwr Prydeinig mwyaf blaenllaw ei oes. Perfformiwyd un o’i weithiau mwyaf adnabyddus, War Requiem, am y tro cyntaf yn 1962, i goffáu’r bywydau a gollwyd yn y ddau Ryfel Byd.
Daeth Death in Veniceyn magnum opus i Britten, ac ynghyd â’i waith blaenorol, mae’n adrodd hanes dieithryn alltud, yn unig mewn cymdeithas ddigroeso. Mae'n pwysleisio datblygiad cyfansoddiadau Britten, gyda defnydd o ddigyweiriaeth ac offerynnau gamelan, yn ogystal â llwyddiant ei gydweithrediad artistig gyda’r libretwr o Gymru, Myfanwy Piper.
Death in Venicefyddai opera olaf Britten, oherwydd yn fuan ar ôl dechrau ei gyfansoddiad, cynghorwyd Britten ei fod angen llawdriniaeth frys ar y galon er mwyn ymestyn hyd ei oes. Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus, a pharhaodd i gyfansoddi hyd at ddiwedd ei fywyd, er bod ei yrfa berfformio wedi dod i ben. Bu farw Benjamin Britten ar 4 Rhagfyr 1976, yn 63 oed. Er ei fod wedi cael cynnig cael ei gladdu yn Abaty Westminster, gwrthododd Britten gan ddewis cael ei gladdu yn Eglwys Blwyf Aldeburgh, fel y gallai orffwys mewn heddwch ger Peter Pears. Y Gwanwyn hwn, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnal taith o gynhyrchiad newydd sbon o Death in Venice, dan gyfarwyddyd Olivia Fuchs (The Makropulos Affair).
Profwch opera olaf Britten, nad yw’n cael ei pherfformio’n aml, ac ymunwch â ni yng Nghaerdydd, Llandudno, Southampton, Rhydychen a Bryste.