Newyddion

Canllaw Dechreuwyr i Verdi

9 Tachwedd 2023

Yn aml caiff Verdi ei ystyried fel prif gyfansoddwr y byd opera. Mae’n ffefryn arbennig i ni yn Opera Cenedlaethol Cymru, a ninnau wedi perfformio 17 o’i 28 o operâu dros y blynyddoedd, a’r cyntaf ohonynt oedd La traviata ym 1948. Ond os nad ydych chi’n nabod rhyw lawer ar Verdi, yna dyma'r wybodaeth bwysicaf i chi. Gadewch i ni daro golwg ar Verdi...

Cyfansoddwr Blaenllaw

Giuseppe Verdi (1813-1901) oedd cyfansoddwr opera mwyaf blaenllaw yr Eidal yn y 19eg ganrif. Sicrhaodd ei allbwn cerddorol anferthol ei amlygrwydd blaenllaw yn y byd opera am dros dri degawd, a daeth y rhan fwyaf o’i waith o ddyddiau cynnar ei yrfa yn ystod y 1840au a’r 1850au. Erbyn diwedd ei fywyd, roedd Verdi yn fyd-enwog a pherfformiwyd ei operâu ledled y byd.

Wrth feddwl am sut y byddai opera ‘draddodiadol’ yn edrych ac yn swnio, mae operâu Verdi yn aml yn dod i’r meddwl: unawdwyr penigamp, cyfaddefiadau dramatig o gariad, dihirod dychrynllyd, gwisgoedd mawreddog, straeon gafaelgar a dialedd mileinig.

Cymeriadau Beiddgar a Straeon Dadleuol

Yn y 19eg ganrif, yn draddodiadol roedd operâu Eidaleg yn canolbwyntio ar bynciau hanesyddol, chwedlau neu hanesion adnabyddus – ond roedd Verdi wrth ei fodd â llenyddiaeth gyfoes a theatr lafar ac roedd yn awyddus i ysgrifennu operâu am straeon difyr a oedd yn adlewyrchu’r byd modern yr oedd yn byw ynddo. 

Weithiau gallai ei ddewisiadau artistig fod yn destun dadleuol i'r cyhoedd a oedd yn mynychu operâu, ond arweiniodd ‘cyfnod canol’ ei yrfa at ei operâu mwyaf adnabyddus, sydd wedi eu perfformio fwyaf. Roedd y rhain yn cynnwys La traviata o La dame aux camélias gan Alexandre Dumas fils, Rigoletto ar ôl drama Le roi s’amuse gan awdur Les Misérables, sef Victor Hugo, ac Il trovatore sydd wedi’i seilio ar ddrama gan Antonio García Gutiérrez, sef El trovador.

Corysau a Gwladgarwch

Yn ogystal â’i ariâu hynod feistrolgar ar gyfer prif rolau, ysgrifennodd Verdi ddarnau gwych ar gyfer corau operâu dros y blynyddoedd. Rhai o’r enwocaf yw Brindisi (Cân Yfed) Libiamo, ne’ lieti calici o La traviata a’r Witches’ Chorus o Macbeth

Aeth rhai corysau ymlaen i fod yn hynod boblogaidd a symbolaidd. O lwyddiant opera gyntaf Verdi, Nabucco (1841), daeth Chorus of the Hebrew Slaves Va, Pensiero (Fly, thought, on wings of gold) yn boblogaidd ar unwaith gydag Eidalwyr ar dir rhanedig. Ar yr adeg hon, nid oedd ‘Yr Eidal’ yn bodoli fel ei gwlad ei hun, ac yn fuan cafodd y corws ei gysylltu â'r mudiad Risorgimento (Atgyfodiad) i uno penrhyn yr Eidal fel un genedl. Er nad oedd Verdi yn ddadleuwr blaenllaw dros y mudiad, roedd ef a’i gerddoriaeth yn cael eu gweld fel cynrychiolaeth ar gyfer achos yr uniad Eidalaidd a gyflawnwyd yn ddiweddarach ym 1871.

Ydych chi eisiau gweld hud operâu Verdi drwy eich llygaid eich hun? Peidiwch â cholli eich cyfle olaf i weld La traviata gan Verdi, sy’n cael ei pherfformio yn Birmingham, Milton Keynes a Southampton ym mis Tachwedd 2023.