Newyddion

Rhestr chwarae Calan Gaeaf clasurol

31 Hydref 2023

Mae’n debyg nad ‘Opera' yw’r peth cyntaf i ddod i’r meddwl wrth sôn am Galan Gaeaf... ond rydym yma i newid hynny'r tymor brawychus hwn. O gathod i wrachod, i ffilmiau arswyd eiconig, mae Opera Cenedlaethol Cymru yma i drafod y cyfan. Gadewch ini gyfrif ein pum hoff ddarn clasurol i ychwanegu i’ch rhestr chwarae Calan Gaeaf. 

Mae Macbeth gan Verdi yn opera sydd wedi’i seilio ar drasiedi Shakespeare o’r un enw.  Mae’n adrodd hanes esgyniad gwaedlyd Macbeth i orsedd yr Alban, gyda chefnogaeth dyheadau ei wraig, sy’n arwain at drychineb i’r ddau ohonynt. Mae’r opera’n adlewyrchu obsesiwn Verdi â themâu rhyddid a gormes, ac roedd yn arloesol o ran y gerddoriaeth.   

Cafodd y stori dylwyth teg glasurol, Hansel and Gretel, ei throi’n opera gan Englebert Humperdinck ac mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru yn ddehongliad hyfryd o dywyll o’r stori boblogaidd, a berfformiwyd ddiwethaf yn ein Tymor 2013/2014. Ar ôl canfod tŷ wedi'i wneud o fara sinsir yn y goedwig, a bwyta tameidiau ohono, mae Hansel a Gretel yn cael eu swyno gan wrach ddrwg, a rhaid iddynt ddefnyddio eu natur gyfrwys i osgoi tynged ddychrynllyd.  

Mae gan bob gwrach ei chyfoed ffyddlon wrth ei hochr, a pha ffordd well o ddathlu cathod mewn cerddoriaeth glasurol na gyda Deuawd Cathod Rossini (Duetto buffo di due gatti - Deuawd ddoniol ar gyfer dwy gath). Cafodd y ddeuawd ei hysgrifennu fel darn i ddwy soprano a phiano, a’r unig beth mae'n ei gynnwys yw’r gair miau (“miaw”) wedi’i ganu drosodd a throsodd.   

A oes unrhyw beth yn fwy brawychus na gwaith tŷ allan o reolaeth? Mae darn Paul Dukas yn cyfeilio’r ysgubau a’r bwcedi mop afreolus yn The Sorcerer’s Apprentice yn ennill lle haeddiannol ar ein rhestr chwarae. Dyma’r unig ddarn o gerddoriaeth sydd wedi'i chynnwys yn fersiwn 1940 a fersiwn 2000 o Fantasia. Yn fersiwn 2000, mae’r olygfa’n cael ei chyflwyno gan yr hudolus Penn a Teller ac, fel yn fersiwn 1940 o’r ffilm, mae’n adrodd stori Mickey Mouse wrth iddo ymladd ag ysgubau sy’n dod yn fyw wrth iddo geisio ail-afael yn ei alluoedd hudolus. 

Mae In the Hall of the Mountain King yn ddarn o gerddoriaeth gerddorfaol, wedi’i chyfansoddi gan Edvard Grieg yn 1875 ar gyfer drama 1867 Henrik Ibsen, Peer Gynt. Mae ellyll a choblynnod yn canu am ladd ‘mab y dyn Cristion’ ac eisiau ei ‘frathu yn ei glun’ i gyfeiliant y gerddoriaeth ar ôl iddo ‘hudo merch harddaf Brenin y Mynydd’. Mae'n un o'r darnau mwyaf adnabyddus o gerddoriaeth, ac mae wedi’i ddefnyddio mewn sioeau teledu a ffilmiau, fel House MD a Mad Men, ac mae wedi’i samplo a’i fenthyg gan nifer o artistiaid, gan gynnwys The Who, The Offspring a hyd yn oed The Wombles. Mae hefyd yn adnabyddus fel arwyddgan Alton Towers, gan fod y parc thema wedi defnyddio'r gerddoriaeth yn rheolaidd ers 1992 ar ôl agor yr Haunted House.  

Gobeithio bod ein Corws a'n Cerddorfa wedi codi’ch awydd yn barod ar gyfer Calan Gaeaf, ac wedi rhoi ychydig o syniadau ichi wrth ichi fynd ati i lunio eich rhestr chwarae arswydus eich hun.