A ydych chi erioed wedi meddwl sut mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod o hyd i gantorion, cael gafael ar blant, penderfynu ar ddawnswyr ar gyfer ei operâu? Fel cwmnïau cynhyrchu eraill, mae gan WNO adran Gastio, sy'n disgyn o dan faner yr adran Weinyddu Artistig ehangach. Fel rhan o'n cyfres barhaus yn edrych ar y rolau gwahanol o fewn WNO, cawsom gipolwg ar yr adran gan Lisa Turner, un o'n dau Swyddog Castio.
Fel Swyddog Castio mae Lisa yn helpu i ddod o hyd i gantorion posib ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol. Gan weithio gydag asiantaethau, mae hi a'i chydweithiwr yn darganfod pa artistiaid sydd ar gael ar gyfer cynhyrchiad penodol - gan wneud yn siŵr bod yn rhaid i hyn gynnwys argaeledd ar gyfer yr amserlen ymarfer lawn hefyd, yn ogystal â dyddiadau yma yng Nghaerdydd ac yna ar ein taith. Yna maent yn pasio'r wybodaeth ymlaen i'r Pennaeth Gweinyddu Artistig a'r Pennaeth Cerdd ar gyfer clyweliadau posib.
Unwaith y maent wedi castio, maent yn helpu i negodi manylion y contractau. Maent hefyd yn arwain ar y gwaith o ddod o hyd i ddawnswyr, actorion a phlant a all fod yn angenrheidiol ar gyfer cynhyrchiad; popeth o'r galwadau (math o hysbyseb swydd ar gyfer y rolau), i drefnu a mynychu clyweliadau, a gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng y panel clyweld a'r ymgeiswyr.
Eglura Lisa sut mae Pennaeth Gweinyddu Artistig WNO yn llywio'r clyweliadau ar gyfer y prif gast: gan gysylltu â'r timau artistig ar gyfer pob opera, ac ymgynghori â Chyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO yn ôl yr angen. Aiff ymlaen i egluro sut mae'r Pennaeth hefyd yn gweithio'n agos â'r timau cynhyrchu ar eu contractau, gan ddelio â'u hanghenion ac ymholiadau; ac, ar y cyd â'n Pennaeth Cerddoriaeth, yn chwilota am y genhedlaeth nesaf o dalent, boed yn gantorion, arweinwyr neu gyfarwyddwyr. Gwelodd ein Rhaglen Artist Cyswllt newydd, a lansiwyd y llynedd, 130 o gantorion yn cymryd rhan mewn clyweliadau mewn pedwar lleoliad gwahanol ar draws y wlad.
Fel y noda Lisa, mae'n hanfodol bod cyfathrebu rhwng y tîm, gweddill WNO ac artistiaid a'u hasiantaethau, yn gyson a dywed mai'r cyswllt allweddol yw'r Cynorthwyydd Castio a Chlyweliadau. Os oes gan unrhyw un yn WNO ymholiad, nhw yw'r pwnt cyswllt cyntaf. Mae'r cynorthwyydd hefyd yn gweithio'n agos â'r adran Wisgoedd, yn sicrhau eu bod yn cael mesuriadau'r cast gyn gynted ag sy'n bosibl, fel y gallant ddechrau ar y gwisgoedd.
Gyda chlyweliadau i'w trefnu; artistiaid o bob math i'w canfod a chontractau i'w llunio; yn ogystal â datrys problemau a darparu cymorth, byddech yn disgwyl o'r hyn a ddywed Lisa, i bob diwrnod fod yn wahanol: 'ni allwn fyth ragweld pa bleserau y bydd theatr yn eu taflu atom.'
Fodd bynnag, mae'n cofio'r profiad o weithio ar From the House of the Dead yn 2017 fel un tra gwahanol; cafodd y tîm y dasg o 'gastio' eryr, gan ddod o hyd i un yn y pen draw drwy gwmni opera arall. Roedd y llu o ofynion cytundebol, technegol, a diogelwch (yr anifail a phobl) yn ddiddiwedd, ond bu bron iddynt lwyddo hyd nes i bethau fynd o chwith - torrodd yr eryr ei droed ac ni allai berfformio, yn hytrach bu'n rhaid defnyddio tafluniad digidol i efelychu ei hediad.
Gall yr adran gastio fod lle yn le gwerth chweil, os nad gwyllt iawn i weithio, ar adegau, ac ni ddylai neb synnu bod y tîm bellach yn cytuno i'r carn â'r dywediad: ni ddylech fyth weithio ag anifeiliaid.