Newyddion

Diwrnod ym mywyd yr adran Codi Arian

27 Mai 2021

Fel rhan o'n cipolwg rheolaidd y tu ôl i lenni Opera Cenedlaethol Cymru, cawsom sgwrs gyda Corinne Cox, Swyddog Ymddiriedolaethau a Sefydliadau, i gael gwybod ychydig mwy am y Tîm Datblygu, sy'n gyfrifol am godi arian.

Oeddech chi'n gwybod bod WNO yn elusen gofrestredig? Ein pwrpas sylfaenol yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a chyfoethogi bywyd diwylliannol ein cymunedau, drwy ddod â gwaith gan leisiau a safbwyntiau newydd i gynulleidfa genedlaethol, gan ddarparu rhaglen helaeth o brosiectau cyfranogol creadigol ar hyd a lled Cymru a Lloegr, a meithrin a datblygu y genhedlaeth nesaf o gynulleidfaoedd, artistiaid a chefnogwyr opera.

Ar wahân i werthiannau tocynnau a'r cyllid sylweddol a gawn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England, mae codi arian yn gyfrifol am 8-10% o incwm blynyddol WNO. Rydw i'n gweithio yn adran Codi Arian WNO, sy'n gweithio i gael cyfraniadau gan y cyhoedd, gan noddwyr corfforaethol, drwy roddion mewn ewyllysiau, drwy galâu, a thrwy grantiau gan ymddiriedolaethau a sefydliadau.

Mae fy swydd i'n canolbwyntio'n benodol ar ddatblygu'r berthynas gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau, sy'n cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau WNO, boed yn berfformiadau lwyfan mawr, swyddi o fewn y Cwmni, neu ein gweithgareddau ieuenctid a chymuned. 

Fel WNO, mae ymddiriedolaethau a sefydliadau yn elusennau cofrestredig, a'u pwrpas yw rhoi arian i achosion elusennol. Mae gan bob sefydliad ei set ei hun o amcanion, a'r rhan o fy swydd sy'n dod â'r boddhad mwyaf i mi yw canfod sefydliadau sy'n rhannu nod WNO o wneud gwahaniaeth mewn cymunedau, a datblygu'r berthynas gyda'r rhain. Mae fy swydd yn cynnwys llawer iawn o waith ymchwil, ac mae'r ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n cefnogi WNO ar hyn o bryd yn cynnwys sefydliadau sydd wedi cefnogi'r Cwmni am fwy nag 20 mlynedd ac ymddiriedolaethau newydd sbon sy'n cefnogi WNO am y tro cyntaf.

Un enghraifft o'r gefnogaeth a gaiff WNO gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yw'r grant hael iawn gan y Garfield Weston Foundation, un o gefnogwyr hirdymor WNO. Mae'r grant tair blynedd ganddynt yn ein cefnogi i ddarparu ein rhaglen Rhaglenni ac Ymgysylltu. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu ystod eang o weithgareddau dylanwadol, gan gynnwys ymarferion côr wythnosol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia yng nghefn gwlad gorllewin Cymru; gweithdai creu cerddoriaeth gyda ffoaduresau a'u plant yn Birmingham; grwpiau Opera Ieuenctid yn Ne Cymru, Gogledd Cymru a Birmingham; cyngherddau ysgol sy'n cyflwyno miloedd o bobl ifanc i opera; a datblygu profiad cyngerdd operatig newydd ar gyfer pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.

Mae pandemig Coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar ein gweithgarwch. Gan fod perfformiadau wedi'u gohirio a llawer o'n prosiectau Rhaglenni ac Ymgysylltu yn cael eu cyflawni arlein erbyn hyn, rydym wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o gynnal diddordeb ein cefnogwyr yn y gwaith a wnawn yn ystod y cyfnod hwn drwy Zoom a gwahanol ddigwyddiadau digidol. Rydym yn hynod ddiolchgar am y nifer fawr o negeseuon gan ein rhoddwyr yn mynegi eu cefnogaeth a ffyddlondeb i WNO, a chariad amlwg tuag at y Cwmni. Er bod blaengynllunio wedi bod yn anodd, rydym hefyd yn ddiolchgar tu hwnt i'r rhai sydd wedi dangos dealltwriaeth o werth WNO i'n cymunedau yn ystod y cyfnod hwn ac sy'n parhau i gefnogi ein gweledigaeth.