
Opera yw’r adrodd stori ar ei orau, ac yn ein barn ni, mae’n un o’r ffyrdd gorau o ymgysylltu â theuluoedd a phobl ifanc. Mae adran Rhaglenni ac Ymgysylltu Opera Cenedlaethol Cymru yn gweithio’n ddiflino drwy’r flwyddyn i gynhyrchu profiadau hwyliog ac addysgiadol ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oedran a chefndir, gan agor y drws i hud y byd opera. Cawsom sgwrs gydag Imogen Llewellyn, Cynhyrchydd ar gyfer yr adran Rhaglenni ac Ymgysylltu i ganfod rhagor am ei gwaith.
‘Bûm yn mynychu cyngherddau teuluol ers pan oeddwn yn blentyn a does dim byd tebyg i’r wefr o weld awditoriwm gorlawn gyda cherddorfa lawn ar lwyfan, yn rhoi o’i gorau. Mae fy Nhad yn arweinydd, a gwyddwn yn fuan iawn nad oeddwn eisiau bod ar y llwyfan fel e (er fy mod yn parhau wrth fy modd yn canu’r piano am hwyl). Roedd fy sgiliau’n fwy addas ar gyfer y proffesiynau cefn llwyfan. Rwy’n gyfrifol am weithgareddau teuluol Opera Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys Chwarae Opera YN FYW a Chyngherddau i Ysgolion yng Nghaerdydd a ledled y DU.
Cychwynnodd Chwarae Opera yn ystod pandemig y coronafeirws er mwyn galluogi teuluoedd i fwynhau straeon a cherddoriaeth opera o’u cartrefi. Ers hynny mae’r rhaglen ryngweithiol ar-lein i deuluoedd wedi datblygu’n gyfres o gyngherddau byw a bu’n brofiad gwbl arbennig i weld cynulleidfaoedd byw yn mwynhau ein perfformiadau wyneb yn wyneb unwaith eto. Rwyf wastad yn teimlo’n emosiynol yn edrych ar bobl ifanc yn ymgysylltu â cherddoriaeth glasurol. Prin yw swildod plant ac maent yn hollol agored gyda’u teimladau.

Gyda Chwarae Opera YN FYW rydym nid yn unig yn arddangos yr ochr berfformio’r Cwmni (Cerddorfa, Corws ac unawdwyr WNO) ond hefyd yr adrannau cefn llwyfan yn WNO, gan ddangos y gwaith sydd ynghlwm â llwyfannu opera. Rydym yn gwneud hynny drwy gynnig gweithgareddau blaen tŷ am ddim cyn y cyngerdd - gweithdai creu propiau a gwisgoedd, arddangosiadau colur a wigiau gan enwi dim ond ychydig ohonynt. Rydym hefyd yn ceisio gwneud y cyngerdd ei hun mor theatraidd â phosib, drwy gynnwys set a goleuadau, ynghyd ag unawdwyr mewn gwisgoedd a wigiau. Gobeithiwn wneud y cyngherddau mor addysgiadol â phosib fel bod teuluoedd yn meithrin gwell dealltwriaeth o’r gelfyddyd a’r hyn yr ydym yn ei wneud fel Cwmni.
Rwyf wastad wrth law ar ddiwrnod y cyngerdd. Fel Cynhyrchydd, fi yw’r pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw beth a phopeth. Golyga hyn y gallaf fod mewn ymarfer yn penderfynu ar giwiau dod i mewn a dyluniadau goleuo, yn cynorthwyo gyda gosod y gweithgareddau blaen tŷ, cyn mwynhau’r cyngerdd o’r awditoriwm.
Un o fy hoff rannau o’r profiad Chwarae Opera YN FYW yw ymateb y gynulleidfa i’r cyngerdd, a’r gwir effaith a gaiff ar aelodau Cwmni WNO. Mae aelodau Cerddorfa WNO yn treulio llawer o’u bywyd gweithio yn ‘y pwll’, ond gyda’r math hwn o gyngerdd, mae’r perfformwyr yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gynulleidfa. Mae’r ffordd mae’r gynulleidfa’n ymateb i’r gerddorfa - y gweiddi hwyliog, hwpian, cymeradwyo, a’r sgrechian - yn ein rhyfeddu bob un tro.
Rwyf eisoes wedi dechrau cynllunio’r gyfres nesaf o gyngherddau Chwarae Opera YN FYW, sy’n agor yng Nghaerdydd ym Medi 2022 a byddwn yn dychwelyd yng ngwanwyn 2023 gyda thaith Cyngherddau i Ysgolion. Y bwriad yw perfformio mewn mwy o leoliadau a chyrraedd mwy o bobl yn y blynyddoedd i ddod.’