Newyddion

Canllaw i Alice's Adventures in Wonderland

14 Mehefin 2021
Edrycha Alice a'r Cwningen wen draw at y byd hudolus

Mae clasur poblogaidd Lewis Carroll, Alice's Adventures in Wonderland yn adrodd hanes merch ifanc o’r enw Alice, sy'n dilyn cwningen wen i lawr twll cwningen ac i fyd ysblennydd Brenhines y Calonnau, yr Hetiwr Hurt a Chath Hapus. Mae tartenni jam, darnau gwyddbwyll sy’n fyw, gyrdd croquet fflamingo a photel o rywbeth dirgel, i gyd yn gynhwysion hanfodol yn y byd rhyfeddol gwreiddiol. Gwlad hud sydd bellach wedi ei throi’n opera 65 munud gan Will Todd (cyfansoddwr) a Maggie Gottlieb (libretydd) y mae WNO yn ei llwyfannu, yn yr awyr agored, ddiwedd mis Mehefin.

Fe’i crëwyd yn wreiddiol ar gyfer Opera Holland Park gan y cyfarwyddwr Martin Duncan gyda’r dylunydd Leslie Travers a’r coreograffydd Adam Scown, mae’r opera deuluol hon yn cynnwys cerddoriaeth sy’n cymryd ysbrydoliaeth o jazz, blues, a sioeau cerdd yn ogystal â’r opera ddisgwyliedig. Mae'r stori’n dechrau ar ddiwrnod diflas yn y dref pan fydd cawod drom o law yn gorfodi Alice a'i theulu i chwilio am loches mewn siop anifeiliaid anwes. Yn y siop mae Alice yn dechrau sgwrs gyda chwningen wen...

Mae hyn yn arwain, fel y gwyddom, at daith i lawr y twll cwningen lle, yn y fersiwn hudolus hon, rydym yn cwrdd â’r prif gymeriadau: Brenhines y Calonnau, yr Hetiwr Hurt, Cath Hapus, Lindys, yr Ysgyfarnog, y Dduges, y Pathew a Tweedledum a Tweedledee, ochr yn ochr ag Alice a'i theulu, a'r gwningen wen, wrth gwrs - mae yna hyd yn oed ymddangosiad gan botel arbennig. Ond nid yw'r cyfan yn fendigedig yn y byd hwn, mae'r Frenhines yn ddig ac yn gwneud i bawb dalu gyda chymorth ei chynorthwywyr, yr efeilliaid gwirion. Rhaid i Alice achub y dydd.

Mae’r gynulleidfa yn mynd ar daith hefyd, yn y perfformiad promenâd hwn, lle mae’r darnau set rhyfeddol sy’n dod â byd rhyfeddod Carroll yn fyw yn cynnwys byddin y cardiau chwarae, trigolion yr ardd flodau a the parti’r Hetiwr Hurt. Mae’r cyfan yn ychwanegu at y teimlad o daith ddirgel hudol y cynhyrchiad hwyliog hwn a fydd yn plesio rhieni a phlant, cymaint â chynulleidfa o oedolion yn unig. Fel gwnaeth y Telegraph ei ddisgrifio wrth adolygu perfformiadau Opera Holland Park:

‘Yr opera fwyaf swynol, lleiaf nawddoglyd i blant i mi ei gweld. Mae offeryniaeth Todd yn gelfydd hefyd, ac yn caniatáu i bob gair o libreto clyfar Maggie Gottlieb gael ei glywed dros y band o ddwsin mewn acwsteg awyr agored.’

Yn sicr o swyno cynulleidfaoedd o dair oed i neiniau a theidiau, mae hon yn opera i'r teulu cyfan. Mae’r lluniau hyn yn rhoi blas i chi cyn i chi weld yr opera drosoch chi'ch hun.