Newyddion

Canllaw i Don Giovanni

28 Ionawr 2022

Perfformiwyd opera Mozart, Don Giovanni am y tro cyntaf ym mis Hydref 1787, yn Prague (ni chafodd ei pherfformio yn y DU tan 1817). Yn seiliedig ar chwedl Don Juan, mae’n adrodd hanes merchetwr drwg-enwog, diedifar, wrth i’w ffyrdd anfoesol ei arwain at ei ddinistr. Hwn oedd ail ddarn Mozart ar y cyd â’r libretydd Da Ponte (ar ôl The Marriage of Figaro a chyn Così fan tutte). Yn opera o ddwy act, caiff ei hystyried yn aml fel yr opera orau i gael ei chyfansoddi erioed. Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru ddechrau paratoi ar gyfer ein perfformiadau Tymor y Gwanwyn 2022 o Don Giovanni, darllenwch ymlaen am fwy o bytiau am yr opera enwog a phoblogaidd hon.

Yn gomedi llawn drama, trasiedi, a hyd yn oed elfennau goruwchnaturiol, mae’n anodd gosod Don Giovanni o fewn un genre penodol o opera. Roedd Mozart yn ei hystyried fel dramma giocoso, sef, yn llythrennol, drama â chomedi. Mae’r opera yn dilyn diwrnod ym mywyd merchetwr o fri. Fodd bynnag, mae’r diwrnod hwn yn wahanol: mae’n methu ag ennill serch rhywun. Mae popeth fel petai’n mynd o ddrwg i waeth ar ôl y llofruddiaeth (gan ei wneud yn gomedi tywyll yn iaith heddiw, siŵr o fod?)

Nid oes gan y prif gymeriad, Don Giovanni, unrhyw foesau – nid yw’n poeni am unrhyw beth, hyd yn oed pan mae merch mae’n ei hudo’n marw – ond rhyw sut neu’i gilydd, mae’n llwyddo i swyno merched dro ar ôl tro. Fel cynulleidfa, rydym yn cwestiynu sut nad yw’n cael ei ddal, ai ei safle cymdeithasol sy’n ei warchod?

Gellir ystyried cymeriad Don Ottavio fel cyferbyniad llwyr i Don Giovanni – yn debyg o ran safle cymdeithasol, ond sy'n ymddwyn fel gŵr bonheddig da. Ef yw’r unig denor yn yr opera, sef y math o lais sydd gan yr arwr fel arfer. Sylw arall gan Mozart, efallai? Mae cymeriadau arall yn cynnwys Leporello, gwas Don Giovanni; Donna Elvira, sef gwraig Don Giovanni yn ôl sôn, ond gan fod hyn yn digwydd cyn yr opera, oll rydym wir yn ei wybod yw ei bod hi’n un o’r merched fu iddo ennill ei bryd. Mae’i ddioddefwyr eraill (gwirioneddol a’r rhai y mae’n eu ceisio) rydym yn cwrdd â nhw yn ystod y cynhyrchiad yn cynnwys Donna Anna, sef merch y Commendatore, y mae ef ei hun yn gymeriad pwysig ym mhlot yr opera; Zerlina, merch werinol, y mae’r stori’n digwydd ar ddiwrnod ei phriodas; yn ogystal â morwyn Elvira, nad yw’n cael ei henwi. Y prif gymeriadau eraill yw Masetto, sef gŵr/darpar ŵr Zerlina; ynghyd â’r Commendatore, tad Donna Anna a’r unigolyn sy’n cael ei lofruddio.

Ysgrifennwyd Don Giovanni yn ystod yr Oes Oleuedig, a phrin ddwy flynedd cyn y Chwyldro Ffrengig, felly a yw’n bosibl bod Mozart yn gwneud sylw ar yr anghydraddoldebau amlwg yn y system dosbarthiadau cymdeithasol? Wedi’r cwbl, cymeriadau’r werin, sef Zerlina a Masetto, yw'r unig rai sy’n gorffen yr opera yn gwbl hapus: Mae Donna Anna yn gohirio ei phriodas â Don Ottavio; mae Donna Elvira yn ymuno â lleiandy, yn hytrach na chwilio am ddyn gwell; mae Leporello yn dod o hyd i feistr newydd yn hytrach na byw ei fywyd ei hun yn rhydd.

Yn stori foesegol amwys – yn y pen draw, y gynulleidfa sy’n penderfynu: a yw Don Giovanni’n ddihiryn i’r carn, neu’n ganlyniad o’i amgylchiadau? Ceisiwch roi eich hun yn ei esgidiau ef, a fyddech chi’n manteisio ar y cyfle a’r addewid i newid eich ffyrdd er mwyn achub eich hun, neu a fyddech yn marw fel y gwnaethoch fyw, yn gwrthod edifarhau?