Newyddion

Canllaw i Jenůfa

21 Ionawr 2022

Roedd Leoš Janáček (1854-1928) yn 62 oed pan fu i'w opera Jenůfa ennill cydnabyddiaeth ryngwladol annisgwyl yn gynnar yn y 20fed ganrif. Bu'n help iddo selio ei enw da fel un o'r cyfansoddwyr Tsiecaidd gorau wrth ochr Dvořák a Smetana.  Mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o'r opera boblogaidd hon yn seiliedig ar ddwy gymeriad cryf: Jenůfa a'i llysfam Kostelnička; mewn stori lle maen nhw'n brwydro â chyfrinachau, cenfigen a chwerwedd cyn-berthnasau teuluol yn erbyn gwirioneddau garw ac anoddefgarwch gormesol bywyd mewn pentref yn ystod y 19eg ganrif. Mae'n hanes torcalonnus yn seiliedig ar y ddrama ddadleuol Her Stepdaughter, gan Gabriela Preissová. Mae'r ddrama a'r opera yn adlewyrchu bywyd ym mhentrefi yng nghyffiniau Morafia, ac yn cymryd ysbrydoliaeth gan straeon a themâu gwerin y cyfnod. Bu i realaeth a chreulondeb y ddrama ei gwneud hi'n destun siarad wedi ei pherfformiad cyntaf yn 1890, cymaint felly fel bod Preissová yn gyndyn i Janáček osod y stori i gerddoriaeth. Fel Preissová, cafodd Janáček ei ysbrydoli gan straeon a cherddoriaeth werin Morafaidd a Slafig drwy gydol ei fywyd cerddorol, a theimlodd y byddai Her Stepdaughter yn stori berffaith ar gyfer opera fyddai'n gallu cyfuno'r dylanwadau hyn.

Bu i Janáček gadw at y ddrama yn y libreto ar gyfer Jenůfa, ond gwnaeth rai newidiadau er mwyn cynnal cyflymder dramatig - megis hepgor stori gefndirol rhwystredig Kostelnička, llysfam Jenůfa, sy'n tynnu sylw at pam ei bod hi'n ymddwyn mewn ffordd benodol at Jenůfa, ac fel mae teitl y ddrama’n awgrymu - y llysfam yw'r brif gymeriad, nid Jenůfa.

Mae cynhyrchiad WNO o Jenůfa gan Janáček yn gyfareddol ac yn enwog am ei osodiad syml, hyfryd a themâu parhaol megis cariad, anobaith a rhyddhad. I Janáček, roedd llwyddiant yr opera yn dod gyfochr â thristwch i'r cyfansoddwr. Bu iddo gwblhau'r opera tra roedd ei ferch annwyl, Olga, ar ei gwely angau. Bu iddi farw cyn y perfformiad cyntaf yn Brno yn 1904, a chyflwynodd Janáček yr opera, Jenůfa i gofio am ei ferch.