Jenůfa Janáček
Archived: 2021/2022Trosolwg
Mae gan bob teulu eu cyfrinachau
Mae gan Jenůfa gyfrinach. Wedi ymgartrefi mewn cymuned fach, ble mae pawb yn gwybod eich busnes, mae Jenůfa ar fin codi cywilydd arni hi ei hun a'i theulu drwy gael plentyn y tu allan i briodas. Mae hi’n gobeithio priodi'r tad, Števa, dyn meddw sy'n hoff o fercheta, cyn i'r gyfrinach gael ei datguddio, ond mae gan ei llysfam fusneslyd, Kostelnička, gynlluniau eraill mewn golwg. Mewn cais i ddiogelu Jenůfa rhag cywilydd, mae hi'n rhoi moddion cysgu iddi ac yn mynd â’r babi. Gan gredu fod y babi wedi marw mae Laca yn cynnig achub enw da Jenůfa trwy ei phriodi, ond ar ddiwrnod eu priodas mae'r gwirionedd tywyll am yr hyn a ddigwyddodd yn cael ei ddatguddio.
Yn stori dorcalonnus am obaith, cariad ac anobaith, mae Jenůfa wedi swyno cynulleidfaoedd am ganrif gyfan. Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, sy'n arwain cynhyrchiad llwyddiannus Katie Mitchell, a ddisgrifiwyd fel 'y mwyaf pwerus eto' pan aeth y cynhyrchiad ar daith ddiwethaf.
#WNOjenufa
Cefnogir gan Gylch Janáček WNO a Phartneriaid WNO. Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO gan Marian a Gordon Pell
Defnyddiol i wybod
Cenir mewn Tsieceg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Am ganllawiau diogelwch yn ein lleoliadau, cliciwch yma
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Mae gan Sacristan y pentref (Kostelnička) lysferch, Jenůfa. Er bod Kostelnička yn gwybod fod Jenůfa mewn cariad â Števa o'r felin, nid yw'n gwybod bod Jenůfa yn feichiog â'i blentyn. Mae Jenůfa yn gweddïo na fydd Števa yn cael ei wysio i'r fyddin fel y gallant briodi. Mae'n ofni damnedigaeth ei henaid a chael ei chywilyddio a'i chosbi gan y pentrefwyr.
Mae hanner brawd, llai poblogaidd Števa, Laca wedi bod mewn cariad â Jenůfa erioed ac mae gafael Števa arni yn dân ar ei groen. Pan mae Števa yn dychwelyd yn feddw ar ôl osgoi gorfodaeth filwrol, mae Kostelnička yn ei gondemnio ac yn gwrthod caniatáu iddo briodi ei lysferch. Mae Jenůfa yn torri ei chalon. Mae Laca yn ei gwawdio ac yn ei wylltineb, yn torri ei hwyneb â chyllell.
Mae Kostelnička yn benderfynol o guddio cywilydd beichiogrwydd Jenůfa ac mae'n ei chuddio rhag pawb. Unwaith y caiff y bachgen bach ei eni, mae Kostelnička yn galw ar Števa. Mae hi wedi rhoi cyffuriau i Jenůfa fel nad yw'n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd. Mae Števa yn cytuno i gefnogi'r plentyn ond nid yw eisiau neb wybod ei fod yn dad gan ei fod wedi dyweddïo â merch y Maer, Karolka. Yn ddiweddarach mae Laca yn cyrraedd ac mae Kostelnička yn dweud wrtho fod Jenůfa wedi cael plentyn Števa, ond ei fod wedi marw. Yna mae hi'n lladd babi Jenůfa. Pan mae Jenůfa yn deffro, mae Kostelnička yn egluro wrthi fod ei babi wedi marw tra'r oedd hi wedi bod dan dwymyn. Mae Laca yn dychwelyd ac yn gofyn a gaiff briodi Jenůfa, ac mae Kostelnička yn rhoi ei sêl bendith ac yn melltithio Števa, gwraidd eu hanlwc.
Ddeufis yn ddiweddarach, mae'r pentrefwyr yn cwrdd ar gyfer priodas Jenůfa a Laca. Mae Kostelnička ar fin bendithio'r cwpl pan glywir bloeddiadau. Mae corff babi Jenůfa wedi cael ei ganfod yn yr afon rewedig. Mae'r pentrefwyr yn bygwth ei pheledu â cherrig am ladd babi. Mae Laca yn ceisio eu hatal nes mae ei llysfam, Kostelnička yn cyfaddef. Wrth i Kostelnička gael ei harwain i ffwrdd, mae Jenůfa yn dweud wrthi ei bod yn deall pam ei bod wedi lladd y babi ac mae'n maddau i'w llysfam. Mae Jenůfa yn rhoi caniatâd i Laca fynd hefyd, ond mae'n aros gyda hi gan ei fod yn ei charu o hyd.