Roedd cynhyrchiad blaenorol Opera Cenedlaethol Cymru o Madam Butterfly yn rhedeg yn llwyddiannus ers dros 40 mlynedd - perfformiwyd am y tro cyntaf yn New Theatre Caerdydd ar 1 Tachwedd 1978, gyda Guido Ajmone-Marsan yn arwain Cerddorfa Ffilharmonia Cymru (nid oedd ein Cerddorfa wedi’i henwi’n swyddogol tan 1979), a’r Cyfarwyddwr oedd Joachim Herz. Nawr, a WNO yn 75 oed, rydym yn cynhyrchu cynhyrchiad newydd o glasur emosiynol Puccini, a bydd y brif stori yn fwy dadleuol nag erioed a ninnau yng nghyfnod #MeToo. Drwy’r cyfan, mae cerddoriaeth bwerus, deimladwy Puccini yn tynnu sylw at y cynnwrf emosiynol a brofir gan y prif gymeriadau sef Cio-Cio-San (Butterfly) a’i chydymaith/gwas tymor hir, Suzuki.
Lindy Hume, y Cyfarwyddwr o Awstralia, fydd yn arwain y cyfan, ac fe’i hadnabyddir am ei dehongliadau cyfoes o operâu clasurol, lle mae hi’n pwysleisio ar y themâu sylfaenol sy’n eu gwneud nhw’n fwy effeithiol yn emosiynol, yn hytrach na diweddaru’r gwaith am ddim rheswm. Mae ein Madam Butterfly newydd yn edrych ar y gwaith drwy lygad gyfoes, nad yw’n seiliedig ar amser na lle penodol, ac yn canolbwyntio ar y pwnc sy’n uniaethu â byd heddiw lle mae merched a’u cyrff yn cael eu masnachu, eu defnyddio a’u trosglwyddo ymlaen, i raddau gwahanol.
Ysgrifennwyd Madam Butterfly ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac mae’n portreadu’r gwrthdaro rhwng dau ddiwylliant, sef y Dwyrain a’r Gorllewin, drwy lygaid Geisha Japaneaidd (Butterfly) ifanc a thlawd ac Is-gapten Llynges o America (Pinkerton). Roedd hi’n credu ei bod hi wedi priodi’n gyfreithlon â Pinkerton, yn hytrach na bod yn destun cytundeb ariannol a wnaed er budd eraill; roedd hi’n ystyried y briodas fel dihangfa o dlodi, o’i bywyd hyd hynny - y cyfle i ddianc a chael bywyd newydd. Ond mewn dim, caiff ei gadael yn fwy anobeithiol nag erioed ac yn gyfrifol am ei mab...
Mae’r ffordd y caiff Butterfly ei cham-drin gan yr Americanwyr, gyda chymorth y brocer priodasau Japaneaidd (Goro), sy’n llwgr yn foesol, yn ei throi hi (a sawl un arall yn ei sefyllfa) yn nwydd sy’n cael ei phrynu a’i gwerthu. Dyna oedd bwriad Puccini. Mae Lindy yn canolbwyntio ar sefyllfa Butterfly: does ganddi ddim rheolaeth, pŵer, nac arian ei hun, a phan mae hi’n cael ei gadael, mae ei bywyd yn ei harwain yn ôl at dlodi. Ar ôl cael ei thrin fel hyn, mae Butterfly yn canolbwyntio ar ei mab, i sicrhau ei fod yn gallu dianc o fywyd yn llawn tlodi. Mae ei sefyllfa yn ei gadael hi, yn ei barn hi, gydag ond un ffordd i gadw rheolaeth ac mae hi’n gwneud hynny, sef yr aberth fwyaf un i hi a’i mab.
Mae Madam Butterfly yn opera heriol i’w gwylio - mae’r pwnc yn anesmwyth, ond dyna oedd bwriad Puccini - ond mae ei gerddoriaeth, gan gynnwys aria deimladwy Butterfly, Un bel dì a’r enwog Humming Chorus, wedi gwneud yr opera yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, a chynhelir perfformiadau’n rheolaidd ledled y byd. Drwy edrych arni gyda llygaid newydd, rhoddir ystyr iddi o fewn cyfnod modern, ac mae’n gwneud i ni, fel cynulleidfa, gwestiynu cydfwriad tybiedig cymdeithas mewn ymddygiad o’r fath. Ond, dyna yw opera? Mae’n ffordd o fyfyrio ar y byd o’n cwmpas ni, cwestiynu beth rydyn ni’n ei weld, gwneud i ni feddwl, ac ar yr un pryd, cael ein hudo gan gerddoriaeth arbennig a phrofi rhywbeth y tu hwnt i fywyd dydd i ddydd.