Newyddion

Cyflwyniad i The Black Spider

26 Mai 2022

Wedi'i seilio'n rhannol ar nofel fer 1842 Jeremias Gotthelf, ysgrifennwyd The Black Spider gan y cyfansoddwr Prydeinig, Judith Weir, ym 1984, yn arbennig ar gyfer cantorion ifanc, boed yn fyfyrwyr ysgol neu aelodau o grwpiau megis Opera Ieuenctid WNO. Mae perfformiadau Opera Cenedlaethol Cymru yn ddigwyddiad sy’n dod a’n grwpiau Operau Ieuenctid ynghyd ac yn eu gweld yn dychwelyd i'r llwyfan cyhoeddus am y tro cyntaf ers y pandemig, a'u cynhyrchiad llawn ers Brundibár yn ystod ein Tymor RHYDDID yn 2019.

Mae The Black Spider yn archwilio'r cysyniadau o dda a drwg, fel stori foesoldeb draddodiadol – thema nodweddiadol ar gyfer straeon gwerin megis y rheini a ysbrydolodd y nofel fer wreiddiol, a oedd yn dwyn yr un teitl. 

Mae dwy amserlen i'r plot. Mae'r prif ddigwyddiadau yn digwydd yn yr hen Wlad Pwyl, yn yr Oesoedd Canol mewn pentref bach lle mae landlord drwg, Count Heinrich, yn gorthrymu ei denantiaid. Un diwrnod mae Dyn Gwyrdd yn ymddangos yn y pentref, yn cynnig help llaw i gyflawni tasg amhosibl ddiweddaraf y landlord. Tasg sy'n golygu symud coedwig gyfan i frig mynydd moel, oherwydd mai dyna oedd ei ddymuniad. Ond mae gan y Dyn Gwyrdd amod, mi roiff gymorth i'r pentrefi dim ond os yw merch ifanc, Christina, sydd ar fin priodi ei chariad Carl, yn ei briodi ef yn lle. 

Mae'r Dyn Gwyrdd yn cwblhau'r dasg, ond mae Christina yn parhau gyda'i phriodas â'i chariad. Daw'r pry copyn sy'n cael ei grybwyll yn y teitl i'r amlwg o law Christina, o'r union le y cusanodd y Dyn Gwyrdd hi, yn ystod y seremoni briodas. Â'r pry copyn yn ei flaen i ledaenu pla ofnadwy ymhlith preswylwyr y pentref. Christina ei hun sy'n ei oresgyn yn y pendraw, gan ei gladdu mewn mynwent a melltith y Dyn Gwyrdd gydag ef. Neu felly yw'r gred ymysg y pentrefwyr.

Mae tair act i'r opera, wedi'u plethu â rhannau llafar, ac yn y deialogau hyn y ceir yr ail amserlen. Wedi'i gosod yn y presennol, ceir ymatebion i erthygl papur newydd. Yn yr erthygl ceir adroddiad am arteffactau rhyfedd a ganfuwyd wrth gloddio bedd hynafol – feirws dirgel yr ymddangos o fod wedi dod o safle'r cloddio yn Kraków, gan heintio'r archaeolegwyr yn gweithio yno. A oes cysylltiad rhwng y ddau?

Beth yw'r gwir tybed? Archebwch docyn i'r opera gomig hon y mae Weir ei hun wedi'i disgrifio'n 'rhywle rhwng fideo ffiaidd a chomedi Ealing' - dewch draw i'w gweld drwy eich llygaid eich hun.