Roedd yr adolygiad papur newydd gwreiddiol yn 1924 yn addo, ‘it will be a dream, a fairy tale that will warm your heart’ ac mae'n parhau i gynnig hynny heddiw. Yn ôl yr hanes, clywed ei wraig cadw tŷ yn chwerthin yn y gegin a ysbrydolodd Janáček i addasu'r stribed comig o'r papur newydd; dywedir ei bod hi wedi awgrymu ‘Oni fyddai’n gwneud opera ryfeddol!’.
Mae’r stori'n dilyn hanes cenau cadno ifanc sy’n cael ei mabwysiadu gan goedwigwr, ar y fferm mae hi’n ceryddu’r ci, yn brathu meibion y coedwigwr ac yn llowcio'r ieir i gyd; nid eich anifail anwes delfrydol. Yna mae'r Llwynoges yn dianc i'r goedwig, yn dod o hyd i gymar ac yn dechrau teulu. Mae popeth yn mynd yn dda nes iddynt gael ffrwgwd tyngedfennol gyda photsiwr.
Mae'n atgoffa rhywun o glasuron adnabyddus megis The Fox and the Hound, Chicken Run a Fantastic Mr Fox, fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu nad oes myfyrdod dyfnach i'w wneud fel yn achos pob ffilm wych i blant. Dyna sy'n gwneud i genedlaethau o fileniaid heidio i weld y ffilm Toy Story newydd neu pam nad oes ots gennych o gwbl wylio Zootropolis, eto. Mae'r islais o anghyfiawnder hiliol trwy lens gynnil yn ei gwneud yn stori fwy dwys nag sy'n ymddangos ar yr wyneb yn gyntaf.
Mae'r syniad o roi nodweddion dynol i anifeiliaid yn mynd y tu hwnt i unrhyw rwystr i'r stori; mae'n dileu hil, crefydd a dosbarth ac yn rhoi naratif syml o frwydr dros ryddid a'r cylch bywyd diddiwedd. Wrth archwilio’r berthynas rhwng bodau dynol a’r amgylchedd, mae’n hawdd gweld barn Janáček am y pwnc; yn gefnogwr natur brwd, treuliodd lawer o'i amser yn yr awyr agored yn astudio anifeiliaid, llwyddodd hyd yn oed i ddysgu i'w ieir sut i neidio ar orchymyn.
Mae'r cymeriadau dynol yn yr opera yn ymddangos yn llawer mwy gorthrymedig na'r Llwynoges sy'n llamu i ffwrdd o'i hualau; a oedd Janáček yn ceisio awgrymu y dylem i gyd gofleidio ein hanifail mewnol? Ysgrifennodd Anthony Tommasini yn The New York Times, ‘the human characters are troubled souls, especially a drunken priest who has never lived down the false accusation that he seduced a woman in his youth, and a mopey schoolmaster who loves a villager from afar.’ Wedi'u rhwymo gan gyfyngiadau cymdeithas, nid ydynt yn cofleidio eu cariad na'u cyfle i fod yn hapus. Yn wahanol i'r Llwynoges ddireidus sy'n mynd ar drywydd yr hyn y mae hi ei eisiau, ac yn y pendraw, yn llwyddo i'w gael. Ymddengys mai neges Janáček yw mentrwch a byw bywyd i'r eithaf; a oedd o bosibl yn ffordd o annog ei gariad digydnabod i adael ei gŵr a chofleidio anialwch y galon ddynol.
Yn anarferol i opera nid oes yna uchafbwynt mawr ar y diwedd, yn lle hynny cawn olygfa ingol a myfyriol a'r cyfle i fyfyrio ar eiriau Socrates, ‘the unexamined life is not worth living.’ Dewch i gael eich cludo i goedwig heulog sy'n llawn swyn a meddyliwch am beth fyddai'n eich gwneud chi'n hapus; gan fyfyrio ar hyfrydwch natur.