Gan eistedd yn gyfforddus yn rhengoedd uchaf hanes opera, mae The Magic Flutegan Mozart wedi swyno cynulleidfaoedd ers ei pherfformiad cyntaf yn Fienna ar 30 Medi 1791. Stori am gariad, defosiwn a goruchafiaeth goleuni dros dywyllwch yn y pen draw, yn seiliedig ar lên gwerin a bellach wedi'i thrwytho mewn hanes, mae'r opera hon wedi'i pherfformio, teithio a'i haddasu droeon ers ei chreu. Mae ein cynhyrchiad newydd, sydd wedi’i gyfieithu a’i gyfarwyddo gan Daisy Evans, yn cymryd agwedd newydd at opera olaf Mozart, ac yn mynd ar daith yn Nhymor y Gwanwyn eleni.
Wedi’i hysgrifennu yn y ffurf ‘Singspiel’ a oedd yn boblogaidd mewn theatrau ledled Ewrop, gweithiodd Mozart gydag Emanuel Schikaneder i ysgrifennu The Magic Flute. Mae’r opera’n cynnwys nifer fawr o olygfeydd a gosodiadau, profodd i fod yn llwyddiant ysgubol, ond yn anffodus ni fyddai Mozart yn gweld ei chynnydd mewn poblogrwydd - bu farw dau fis yn unig ar ôl y perfformiad cyntaf.
Yn y stori, mae ein prif gymeriad, Tamino, yn cael Ffliwt Hud i’w gadw’n ddiogel, ac mae Papageno yn ymuno ag ef ar daith i achub Pamina, merch Brenhines y Nos, o deyrnas y goleuni, teyrnas Sarastro. Ym mhalas Sarastro, mae ei was Monastatos yn erlid Pamina nes iddo gael ei ddychryn gan ymddangosiad Papageno. Yn y cyfamser, mae Tamino yn canfod mai Brenhines y Nos sy’n ddrwg mewn gwirionedd a bod Pamina yn ddiogel. Mae Tamino yn chwarae ei ffliwt yn y gobaith y bydd y sŵn yn arwain Pamina ato, ond mae sŵn pibellau Papageno yn tynnu ei sylw ac mae’n rhuthro i chwilio amdano. Wrth i Tamino a Papageno fynd i mewn i’r deml, mae Pamina yn cael cip ar y tywysog ifanc, ac yn cael ei swyno ganddo.
Rhaid i Tamino a Papageno wneud tair tasg - tân, dŵr a thawelwch. Nid yw Papageno yn llwyddo i gydymffurfio â’r llw o dawelwch ac nid yw’n cael parhau â’r tasgau. Mae Tamino, fodd bynnag, yn llwyddo i aros yn dawel, hyd yn oed wrth i Pamina fynd yn flin ag ef. Mae difaterwch ymddangosiadol Tamino yn gwneud iddi anobeithio ac mae ar fin cyflawni hunanladdiad cyn i dri ysbryd ymyrryd. Mae hi'n penderfynu cerdded gyda Tamino trwy’r tasgau o dân a dŵr, ac maen nhw’n cael eu hamddiffyn gan y ffliwt hud.
Tra bo Tamino yn cwblhau ei brofion, cwympodd Papageno mewn cariad â Papagena, ond yn ddiweddarach mae’n ei cholli hi. Yn ei drallod, mae’n ystyried hunanladdiad, ond caiff ei achub gan yr ysbrydion fel Pamina. Maen nhw’n ei atgoffa i ganu ei glychau hud, ac wrth iddo wneud hynny mae Papegna yn dychwelyd ato.
Cyn i frwydr nerthol rhwng Nos a Dydd ddechrau, mae Tamino a Pamina yn galw ar y brwydrwyr i edrych o fewn eu hunain a datrys eu hanghytundebau. Maen nhw’n gadael i ddechrau eu teyrnas eu hunain gyda’i gilydd.
Roedd ein perfformiad diwethaf o The Magic Flute yn 2019, ac yn Nhymor y Gwanwyn eleni mae gennym gynhyrchiad newydd, yn cynnwys cyfieithiad newydd o’r libreto, a ysgrifennwyd gan y cyfarwyddwr Daisy Evans, sy’n gwneud yr opera’n fwy cyfoes. Mae cynllun y set yn gosod teyrnasoedd y Dydd a’r Nos yn yr oes ddigidol, wrth i bypedwyr ddod â’r stori’n fyw ochr yn ochr â’n hartistiaid. Gallwch weld stori werin Mozart o fuddugoliaeth cariad ar daith yng Nghaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, Southampton a Plymouth rhwng 5 Mawrth a 27 Mai.