Newyddion

Canllaw i Tosca

28 Awst 2025

Mae Tosca gan Puccini yn eiconig, un o lwyddiannau mwyaf opera. Mae'n opera gyffro sy'n llawn emosiwn dynol dwfn a drama risg uchel sy'n dal i ddenu heddiw, gan barhau i fod yn fodern o afaelgar, hyd yn oed 125 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf. Ond nid oedd Tosca yn llwyddiant o’r dechrau, gan gael ei hystyried gan feirniaid fel un â phlot rhy dreisgar a cherddoriaeth rhy newydd. Darllenwch ein canllaw cyflym i ddysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am yr opera bwerus hon. 

Mae Tosca yn opera mewn tair act, yn seiliedig ar y ddrama La Tosca gan y dramodydd Ffrengig, VictorienSardou. Perfformiwyd Tosca am y tro cyntaf yn Rhufain ym 1900, mewn cyfnod pan oedd yr Eidal yn profi aflonyddwch cymdeithasol a gwleidyddol. Er nad oedd Puccini yn adnabyddus am safbwyntiau gwleidyddol, roedd y stori yn ormod o demtasiwn iddo – yr angerdd, y pŵer a'r twyll, yn y bôn, y ddrama! Wedi'i lleoli yn Rhufain o dan lywodraeth orthrymus, mae Tosca yn adrodd hanes dau gariad, cantores annwyl Rhufain, FloriaTosca a'r artist Mario Cavardossi. Ond mae'r Barwn Scarpia, y Prif Swyddog Heddlu didrugaredd, eisiau Toscaiddo'i hun. Mae Cavaradossi yn helpu CesareAngelotti, ffoadur gwleidyddol sydd wedi dianc, ac, wrth sylweddoli bod Cavaradossi yn rhan o hyn, mae Scarpia'n manteisio ar y cyfle i flacmelioTosca gyda chanlyniadau dinistriol.  

Hyrwyddodd Pucciniverismo (realaeth) yn ei operâu yn hytrach na mytholeg, perthnasolrwydd a chymhlethdod cymeriadau Tosca sydd, i ryw raddau, wedi arwain at ei boblogrwydd parhaol. Mae Tosca yn fregus ac yn gryf, Cavaradossi yn ddyn o gywirdeb, ac mewn cyferbyniad llwyr, dyma Scarpia, un o ddihirod mwyaf drwg-enwog opera. Mae cynulleidfaoedd wedi'u sugno i mewn i'r ddrama ac yn buddsoddi'n emosiynol yn y cymeriadau, wrth iddynt wylio digwyddiadau'n datblygu.  

Gan roi'r stori afaelgar hon o'r neilltu am eiliad, rhaid i ni beidio anghofio'r gerddoriaeth. Te Deum yw'r darn corws pwerus ar ddiwedd Act 1, gyda chlychau eglwys a’r canonau'n tanio, wrth i Scarpia gynllwynio tranc Cavaradossi. Yna, mae'r Vissid’artedirdynnol iawn a ganir gan Toscamewn eiliad o anobaith a phrotest am ei sefyllfa, ac E lucera le stelle, ffarwel torcalonnus Cavaradossi â bywyd yn yr act olaf. Wedi'i ganu yn Eidaleg, mae sgorau pwerus Puccini, gan gynnwys ariâu esgynnol ac alawon cofiadwy, yn ychwanegu hyd yn oed mwy o ddyfnder at y ddrama.  

Ond y cyfuniad o’r stori a'r gerddoriaeth sydd wedi smentio Tosca mewn hanes fel clasur oesol a dylanwadol. Roedd Puccini yn berffeithydd, yn ddi-baid yn ei ymgais am berffeithrwydd cerddorol a dramatig, wedi ymrwymo i integreiddio'r gerddoriaeth a'r ddrama'n ddi-dor. 

Rydym wrth ein bodd i gyflwyno cynhyrchiad clodwiw Edward Dick o Tosca i chi gyda chast clodwiw sy'n cynnwys y soprano o Wcreinaidd Cymreig, NatalyaRomaniw, yn y brif ran ochr yn ochr â thîm creadigol o fri rhyngwladol sy'n cynnwys yr Arweinydd GergelyMadaras, a enwyd yn Arweinydd y Flwyddyn 2025 yng Ngwobrau Radio Bartok, a'r Dylunydd Set, Tom Scott, a ddechreuodd ei yrfa yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac sydd wedi cydweithio â phobl fel Alexander McQueen, yn ogystal â dod â Chlwb KitKatCabaret yn fyw. Mae Tosca yn agor yng Nghaerdydd ar 14 Medi cyn teithio i Southampton, Llandudno a Bryste.