

Tosca Puccini
–Trosolwg
Lle mae angerdd yn gryf, mae pŵer yn dinistrio
Mewn dinas dan ormes llwyr, daw tri bywyd ynghyd drwy angerdd, pŵer a thwyll. Prif gantores boblogaidd yw Floria Tosca, sydd wedi’i dal mewn gwe o gelwyddau. Mae ei chariad, Mario Cavaradossi, artist gwrthryfelgar â chanddo gydwybod, yn cuddio ffoadur sydd â Phennaeth Heddlu didostur y Dinas, Scarpia, yn chwilio amdano, gyda’i fryd ar ddau beth: y ffoadur - a Tosca ei hun. Wrth i densiynau gynyddu, rhaid i Tosca lywio drwy labrinth o lwgrwobrwyo a brad, gan wneud penderfyniadau amhosib rhwng cariad a goroesi.
Opera iasol a chyffrous yw Tosca ac mae cerddoriaeth fythgofiadwy Puccini yn gwneud yn fawr o bob eiliad o ddrama, o’r aria iasol Te deum i harddwch pur Vissi d’arte. Dyma opera ar ei mwyaf gafaelgar ac wrth i'r nodau olaf bylu, byddwch yn ysu i gael mwy ac yn pendroni pa mor bell fyddech chi’n mynd er mwyn cariad?

lluniau gan Richard Hubert Smith. Cynhyrchiad gwreiddiol Opera North
Prif gefnogaeth y cynhyrchiad gan y Colwinston Charitable Trust
Cefnogir gan Dunard Fund and Sheila & Richard Brooks
Pricing
Under 16s
£10 when accompanied by a full price adult tickets (subject to availability)
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr a 40 munud gyda dwy egwyl
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Ffeithiau
Cynhyrchiad gwreiddiol Opera North
Synopsis
Crynodeb
Act I
Mae Rhufain o dan reolaeth llywodraeth awdurdodaidd. Mae pennaeth yr heddlu, y
Barwn Scarpia, yn atal pob gwrthsafiad. Pan fydd Angelotti, carcharor gwleidyddol sydd wedi dianc, yn ceisio lloches mewn eglwys, mae’n cwrdd â’r artist Mario Cavaradossi, sy’n cytuno i’w helpu. Cariad Cavaradossi yw Floria Tosca, un o gantorion mwyaf poblogaidd Rhufain. Mae Scarpia wedi bod ag obsesiwn amdani ers tro byd. Gan amau bod Cavaradossi yn gysylltiedig â diahangfa Angelotti, mae’n gweld cyfle i ganlyn ei chwant am Tosca.
Act II
Caiff Cavaradossi ei arestio. Aiff Tosca I chwilio am Scarpia gan erfyn arno i adael i’w chariad fynd. Yn ei hanobaith mae hi’n datgelu lleoliad Angelotti, ond mae hyn yn awgrymu bod ei chariad yn euog o drosedd ddifrifol. Mae gan Scarpia gynnig i Tosca. Bydd yn arbed bywyd ei chariad, ond rhaid iddi roi ei hun iddo. Heb unman i droi, mae Tosca yn cytuno ac mae Scarpia yn anfon gorchymyn at y sgwad saethu i lwytho eu reifflau â bwledi gweigion. Yna mae’n cofleidio Tosca, ond mae hi’n gafael mewn cyllell ac yn ei drywanu i farwolaeth.
ACT III
Mae Tosca yn mynd at Cavaradossi yn ei gell ac yn dweud wrtho fod yn rhaid iddo chwarae ei ran yn y dienyddiad ffug, ac wedi hynny cânt ffoi o Rufain. Mae Cavaradossi yn cael ei dywys ymaith, mae’r sgwad saethu yn llwytho eu reifflau, yn anelu ac yn tanio. Mae corff Cavaradossi yn cwympo i’r llawr. Mae Tosca yn sylweddoli bod Scarpia wedi ei bradychu. Yn sydyn mae dynion Scarpia yn cyrraedd ar ôl darganfod corff y Barwn. Maen nhw’n rhuthro i arestio Tosca ond mae hi’n ffoi rhag eu gafael ac yn neidio oddi ar barapet I’w marwolaeth.