Newyddion

Canllaw i War and Peace

20 Gorffennaf 2018

Egyr Tymor yr Hydref gydag opera epig arall wedi’i gosod yn Rwsia – War and Peace gan Prokofiev. Mae llawer o addasiadau wedi bod o nofel Tolstoy dros y blynyddoedd, ond i’r rhai ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â’r stori, dyma ganllaw cryno.

Mae’r opera yn dechrau mewn cyfnod o heddwch, gwelwn Andrei yn sylwi ar Natasha am y tro cyntaf wrth iddi syllu drwy ei ffenestr. Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach maent yn cyfarfod mewn dawns Blwyddyn Newydd grand ac anogir Andrei i ofyn iddi ddawnsio, gan arwain at eu dyweddiad ddwy flynedd yn ddiweddarach. Fodd bynnag, nid yw tad Andrei yn cytuno â’r berthynas ac anfona Andrei i ffwrdd gan obeithio y bydd yn anghofio am Natasha. Caiff Prince Anatol ei atynu gan Natasha a chyfaddefa hynny wrth Hélène, gan ofyn iddi ei gyflwyno ef iddi.

Ymwela Count Rostov a Natasha â thŷ Prince Nikolai (tad Andrei). Erbyn hyn, mae Andrei wedi bod dramor am flwyddyn. Dyweda’r Dywysoges Marya na ddaw ei thad i’w gweld nhw, ac mae Count Rostov yn gadael. Fodd bynnag, ymddangosa’r tywysog, a sylweddola Natasha nad yw o blaid y briodas.

Dyweda Hélène wrth Natasha fod Antatole wedi’i ddenu ati, ac, ar ôl ychydig o betruster, clywa Natasha ei ddatganiad o gariad a chytuna i’w gyfarfod. Mae Dolokhov yn gwneud trefniadau i’w gyfaill Anatole gael ffoi gyda Natasha.

Cyrhaedda Pierre, gan ddatgelu fod Anatole eisoes yn briod, a chytuna i ofyn i Andrei faddau i Natasha. Cyfaddefa y byddai ef ei hun eisiau ei phriodi petai’n rhydd.

Mae Pierre yn edliw ar Anatole ac yn mynnu ei fod yn gadael Moscow ar unwaith. Cytuna, a gadewir Pierre ar ei ben ei hun i gwyno ynghylch ei sefyllfa. Cyrhaedda Denisov gyda’r newyddion bod Napoleon a’i fyddin yn dod i mewn i Rwsia. Mae rhyfel yn anochel.

Erbyn ail ran yr opera, mae ein cymeriadau wedi’u dal yn y rhyfel. Mae’n 1812 ac mae byddin Rwsia yn wynebu milwyr Napoleon ym Mrwydr Borodino. Mae Andrei wedi ymrestru ei hun fel ffordd o ddianc rhag ei deimladau ac i roi pellter rhyngddo a Natasha. Cynigir swydd wrth ddesg iddo ond yn hytrach na hynny dewisa wasanaethu ar flaen y gad. Cyrhaedda Pierre, sydd eisiau arsylwi’r olygfa, ac mae ef ac Andrei yn cofleidio, efallai am y tro olaf.

Penderfyna Kutuzov mai drwy encilio yn unig, ac o bosibl aberthu Moscow, yw’r unig obaith o fuddugoliaeth. Caiff Pierre ei ddal ymysg rhai Moscofiaid sy’n cael eu cyhuddo gan y Ffrancwyr o gynnau tân.

Mae Prince Andrei sydd wedi’i glwyfo ac yn ddryslyd wedi’i ffoi gyda’r Rostofiaid o Moscow. Âi Natasha, sy’n anymwybodol ei fod ymysg ei chyd-ffoaduriaid, i ymweld ag ef. Ceisia ymddiheuro am ei hymddygiad, ond datgana Prince Andrei eto ei gariad tuag ati. Yn drychinebus, mae’n marw yn ei gwsg.

Mae’r Ffrancwyr sy’n cilio yn arwain grŵp o garcharorion drwy storm eira. Ni all Karataev gynnal ei hun ar ei draed a chaiff ei ladd, ond achubir Pierre a’r gweddill gan bartisaniaid. Dyweda Denisov wrth Pierre fod Andrei wedi marw ond bod Natasha yn fyw ac yn iach. Llawenha Kutuzov a’i ddynion yn dilyn eu buddugoliaeth, a dathlant ystyfnigrwydd anorchfygol pobl Rwsia.

Perfformir y cynhyrchiad newydd hwn ar fersiwn o’r set sydd wedi’i ail-ddychmygu ac a ddefnyddiwyd ar gyfer cynhyrchiad 2016 o In Parenthesis. Caiff ei thrawsffurfio i sawl lleoliad gan gynnwys, gyda chymorth gan daflunwyr, dawnsfa gyfoethog a maes y frwydr.

Mae’r opera epig yn cynnwys cast mawr, gan gynnwys Lauren Michelle (a welwyd yn perfformio gyda WNO ddiwethaf yn The Merchant of Venice) fel Natasha a Jonathan McGovern (yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf â’r Cwmni) fel Andrei. Oherwydd y nifer o gymeriadau a gynhwysir, bydd llawer o’r cantorion yn perfformio mwy nag un rôl a bydd y Corws yn hafal o ran niferoedd â Khovanshchina y llynedd gyda mwy o gantorion wedi’u drafftio i mewn i ymuno â’n hensemble rheolaidd.

Mae perfformiadau cyfyngedig o War and Peace yng Nghaerdydd ac ar daith, ac mae’r gwerthiant yn hynod gryf. Os hoffech weld y gwaith uchelgeisiol hwn, peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr i archebu tocynnau.