Newyddion

Cerddoriaeth Gyfrinol Death in Venice

1 Chwefror 2024

Mae opera olaf un Benjamin Britten, Death in Venice, yn meddu ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth archwiliol, afaelgar a gwefreiddiol. Ac yma, yn Opera Cenedlaethol Cymru y Gwanwyn hwn, rydym yn methu disgwyl i gael cyflwyno’r darn arbennig hwn mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Ymunwch â ni wrth i ni ymgolli ein hunain ym myd seiniau operatig Fenis y 1910au, ac archwilio rhai o’i uchafbwyntiau mwyaf cofiadwy.

My Mind Beats On…. 

Fel un o’r operâu dwysaf a ysgrifennwyd erioed o safbwynt seicolegol, a hithau heb Agorawd i ddechrau’r darn, cawn ein lansio’n syth i fyd seiniau meddyliau anniddig Gustav von Aschenbach. A hwnnw’n brin o syniadau ar gyfer ei waith llenyddol nesaf, mae ei feddwl yn rhygnu ymlaen (‘beats on’) yn barhaus i gyfeiliant nodau unigol ailadroddus y chwythbrennau a’r offerynnau pres, gyda glissandi’r delyn yn torri ar eu traws, sy’n dangos undonedd ei ymson mewnol arteithiol.

Dyma’r peth agosaf a gawn i aria cymeriad ffurfiol, gan fod Death in Venice yn enghraifft o’r hyn a elwir yn opera ddi-dor (‘through-composed opera’), lle mae’r gerddoriaeth yn llifo heb ymyriad o’r dechrau i’r diwedd – hynny yw, heb unrhyw ddarnau neu ariâu unigol yn cael eu perfformio gan y cymeriadau neu’r gerddorfa.  

Dwyreinioldeb Tadzio

Ar ôl cyrraedd Fenis ac ymlacio ar y traeth, mae Aschenbach yn cael ei daro gan harddwch dyn ifanc Pwylaidd, Tadzio, sy’n aros yn yr un gwesty ag ef. Defnyddir pum offerynnwr taro, a’r rheiny’n chwarae offerynnau wedi’u tiwnio a heb eu tiwnio, i greu seinwedd arianllais, unigryw Tadzio. Wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth ‘ddwyreiniol’ teithiau Britten i Ddwyrain Asia yn ystod 1950au, ymhlith offerynnau taro eraill, mae’r fibraffon yn nodwedd amlwg i bortreadu Tadzio fel bod anghyffyrddadwy, tebyg i ddyw, sy’n beryglus o hudolus i Aschenbach. 

Gemau Apollo

Yn ddiweddarach, ar y traeth, mae Aschenbach yn eistedd i wylio Tadzio a’i ffrindiau’n cael cystadleuaeth chwaraeon. Caiff Tadzio ei gymharu ag Apollo, duw Groegaidd yr Haul, ac mae Aschenbach yn cadw’n dawel trwy gydol yr amser, gyda’r Corws yn rhoi llais i’w feddyliau.

Wrth godi’r tensiwn hyd at y gystadleuaeth reslo olaf, mae’r Corws yn annog y ddau ddyn ifanc i ymladd, ac mae peiriant gwynt uchel yn chwythu’n giaidd ar yr olygfa. Mae Tadzio yn ennill y gemau ac mae harddwch ei symudiadau’n crisialu teimladau Aschenbach tuag ato. Mae ei lif angerddol o ysbrydoliaeth yn gwneud iddo sylweddoli sut y mae wedi bod yn teimlo tuag at Tadzio ar hyd yr amser, gan ganu I love you, ac wrth wneud hynny, roedd ei dynged yn anochel.

Caneuon Gwerin y Cerddorion Crwydrol

Yn Act II, mae Aschenbach yn anesmwyth yn Fenis ac yn gwybod fod rhywbeth o’i le - mae si ar led bod salwch angheuol yn ymledu i bob cwr o’r ddinas.

Ym mwyty’r gwesty mae band o gerddorion crwydrol di-chwaeth yn tarfu ar bryd bwyd Aschenbach. Gyda chaniad trwmped yn ei gyflwyno, mae Arweinydd y cerddorion yn canu cân fach anweddus, La mia nonna, sy’n gwawdio anffyddlondeb merched, gyda’r falsetto creulon yn dynwared llais ei nain. Parodi Britten o gân werin Eidalaidd yw hon, i gyfeiliant ymdeithio’r drwm, llinynnau pizzicato a’r biano.

Gallwch brofi cerddoriaeth wefreiddiol ac atgofus Britten eich hunain mewn cynhyrchiad cwbl newydd o Death in Venice WNO sy’n ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham rhwng 7 Mawrth i 11 Mai 2024.