Newyddion

Ystyriaeth Gerddorol o Peter Grimes

2 Ebrill 2025

Mae Peter Grimes yn stori eofn am unigedd a rhagfarn sy'n cynnwys amrediad o gerddoriaeth wefreiddiol a chyfoethog. Mae'r gerddoriaeth o opera eiconig Britten yn hawdd i'w hadnabod yn ôl ei hysgrifennu lleisiol trawiadol, corysau dramatig, unawdau gafaelgar a'r 'Sea Interludes' enwog. Rydym eisoes wedi ymchwilio yma i'r 'Sea Interludes', ond mae'r opera hon yn orlawn o elfennau cerddorol cyfareddol felly dyma ychydig yn rhagor o ddarnau rydym wedi'u dewis i'ch helpu i gael i'r hwyliau ar gyfer cynhyrchiad Tymor y Gwanwyn WNO. 

Mae'r gerddoriaeth yn operâu Britten yn nodweddiadol o'r 20fed ganrif ac yn wirioneddol ddiddorol, gyda harmonïau'n gwrthdaro, ysgrifennu lleisiol anarferol, ac offeryniaeth arbrofol. Yn ogystal ag adegau a all ymddangos yn gythryblus i'r rhai sy'n cefnogi opera draddodiadol, mae yna ambell i thema gerddorol allweddol a hyfryd...

Now the Great Bear and Pleiades 

Mae 'Now the Great Bear and Pleiades' yn un o'r ariâu mawr y gall y rhai sy'n frwd drostynt aros yn eiddgar amdani. Yn y darn hwn, mae Grimes yn cwestiynu a oedd marwolaethau ei brentisiaid y tu hwnt i'w reolaeth ac wedi'u pennu ymlaen llaw gan rywbeth mwy nag ef ei hun. Mae'r aria hon wedi'i gosod mewn rhan heriol o amrediad lleisiol y tenor, sy'n golygu bod angen cryn dipyn o reolaeth arni, cynrychiolaeth briodol o'r rheolaeth y mae Grimes yn ceisio'i chael dros ei dynged. Mae'r alaw yn undonog ar y cyfan gyda chyfeiliant noeth, nes i'r rheolaeth hon ddod i ben yn annisgwyl, ac mae'r alaw yn cyflymu'n wyllt. Ymddengys bod Grimes yn llwyddo i adennill rheolaeth erbyn diwedd yr aria, ac mae'r darn yn rhoi cipolwg ar gyflwr meddyliol Grimes wrth iddo ddechrau colli arno'i hun ymhellach.  

Old Joe has gone fishing 

Mae'r gân werin draddodiadol hon wedi'i hysgrifennu mewn amser 6/8 sy'n rhoi teimlad gwerinol i'r darn, ac mae'n fwy persain na'r rhan fwyaf o gerddoriaeth Britten. Mae Peter Grimes yn ymuno'n feddw gyda'i bennill ei hun- alaw groes sy'n wahanol i'r brif dôn, ond daw'r dyrfa â hi yn ôl yn gyflym i'r gân werin ailadroddus.

Embroidery in Childhood 

Un o'r ychydig arîau gwirioneddol yn Peter Grimes yw Embroidery in Childhood Ellen Orford. Yn yr aria hon, mae Ellen yn brwydro gyda'i theimladau personol tuag at Grimes a'r sïon sy'n dod yn fwy heriol i'w gwadu, ar ôl dod o hyd i siwmper y prentis a ddaeth i'r lan yn y dref. Mae alaw delynegol i'r aria ac mae'n newid rhwng y cywair mwyaf a'r lleiaf, gan gyfleu ei thristwch dros ei chanfyddiad a'i gobeithion parhaus am Grimes a chael plant ei hun.  

Mr. Swallow and Who Holds Himself Apart 

Mae'r olygfa'n enghraifft berffaith o'r ffordd y mae Britten yn mynd ati i ysgrifennu ar gyfer meddylfryd y dorf. Yn y gân Mr Swallow, mae Mrs Sedley yn galw mewn panig am y cymeriad y mae'r gân wedi'i henwi ar ei ôl, a gwelir Auntie a hithau'n dechrau adroddgan gecrus aflafar a gorgyffyrddol. Pan ddaw Mr Swallow i weld yr hyn sy'n achosi'r twrw, mae Britten yn plethu llinellau alaw y tri chymeriad yn feistrolgar i greu ymdeimlad o drefn ymhlith yr anhrefn, yn union wrth i drigolion y dref ddod ynghyd i ymuno yn y sgwrs. Wrth iddynt gyrraedd y llwyfan, mae'r gân Who Holds Himself Apart yn dechrau ac mae pobl y Fwrdeistref yn llafarganu y byddant yn dinistrio Grimes am ei greulondeb. 

Gobeithiwn fod yr ystyriaeth gerddorol hon yn rhoi syniad clir i chi o'r adegau cyffrous, dramatig a difyr y gallwch eu disgwyl yn yr opera wych hon. Gallwch archebu eich tocynnau nawr ar gyfer cynhyrchiad newydd sbon WNO o Peter Grimes, sy'n agor yng Nghaerdydd ar 5 Ebrill cyn mynd ar daith tan 7 Mehefin 2025.