

Peter Grimes Britten
–Trosolwg
Tonnau trasiedi yn corddi'r dyfroedd
Stori am unigedd a rhagfarn yw Peter Grimes. Wedi’i gynhyrfu gan sïon ac amheuaeth, mae pysgotwr yn brwydro â chythreuliaid mewnol wrth i'r gymuned leol droi yn ei erbyn. Ond beth wnaeth ddigwydd i'w brentis? Datgelwch storiâu dirgel pentref arfordirol, lle mae’r môr yn sibrwd cyfrinachau a phawb yn credu eu bod yn gwybod eich hanes, wrth i drasiedi ddatblygu yn erbyn cefndir bygythiol o donnau alawol, grymus.
Daw opera eiconig Britten, sy’n fwrlwm o gorysau dramatig, unawdau cyffrous a’r enwog Sea Interludes, yn fyw yn y cynhyrchiad newydd yma gan WNO, lle mae grymoedd natur yn gwrthdaro â llymder ymddygiad dynol. Plymiwch i fôr gwyllt a storm o emosiynau gyda’r perfformiad yma sy’n para yn llawer hirach na’r nodyn olaf.

Archebu rhaglen
Cefnogaeth cynhyrchu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Tymor 2024/2025 wedi'i gefnogi gan Dunard Fund. Wedi'i gefnogi gan Grŵp Britten WNO.

Defnyddiol i wybod
Hyd y perfformiad tua thair awr gan gynnwys dwy egwyl
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Synopsis
Prolog
Y tu mewn i Neuadd y Llys, y Fwrdeistref
Mae cwest yn cael ei gynnal i farwolaeth bachgen ifanc oedd yn brentis i Peter Grimes, un o'r pysgotwyr lleol. Mae llawer o bobl y dref yn bresennol. Ar ôl ymchwilio i ddigwyddiadau marwolaeth y bachgen, mae'r crwner (Mr Swallow) yn dod i'r casgliad bod hyn yn farwolaeth drwy ddamwain. Mae Grimes yn cwyno nad yw hyn yn achub ei enw da, oherwydd bydd yr achos yn parhau i gyniwair ym meddyliau pobl. Ar ôl i bawb adael, mae Ellen Orford, ysgolfeistres y Fwrdeistref, yn dweud wrth Grimes y bydd hi'n gweithio gydag ef i adfer ei enw da, ac yn addo ei chyfeillgarwch.
Act Un
Golygfa I
Stryd ger y môr, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach
Mae Peter Grimes yn ei chael hi'n anodd trin ei gwch pysgota ar ei ben ei hun. Mae Ned Keene, yr apothecari, yn dweud wrtho ei fod wedi dod o hyd i brentis newydd. Mae Ellen yn cytuno i nôl y bachgen yng nghert Hobson y cartwr, er bod pobl y dref yn feirniadol o hyn. Yn fuan ar ôl iddi adael, daw storm, ond mae’n fwy bygythiol byth oherwydd y llanw mawr. Mae’r cychod wedi'u clymu’n dynn, y rhwydi’n cael eu casglu a’r ffenestri’n cael eu cau. Mae Capten Balstrode, capten llong fasnach, yn dweud wrth Grimes y dylai ystyried gadael y Fwrdeistref ac yn ei annog i briodi Ellen. Hebddi hi a chyda phrentis newydd, mae Balstrode yn dychmygu y bydd trasiedi debyg yn cael ei hailadrodd.
Golygfa II
Tafarn y Boar y noson honno.
Er bod amser cau wedi pasio, mae'r dafarn yn llawn, ac mae pobl yn dal i ymochel rhag y storm. Mae newyddion yn cyrraedd bod llifogydd ar draws ffordd yr arfordir, ac mae rhan o'r clogwyn ger cwt Grimes wedi’i hysgubo ymaith gan dirlithriad. Mae dadlau ymysg yr yfwyr. Pan mae Ellen yn cyrraedd gyda'r bachgen, mae Grimes yn mynnu mynd ag ef yn ôl i'w gwt drwy'r storm.
Act Dau
Golygfa I
Stryd ger y môr, fore Sul ychydig wythnosau yn ddiweddarach.
Mae Ellen a'r prentis newydd yn eistedd ar y traeth yn yr heulwen wrth i’r gwasanaeth boreol gael ei gynnal yn eglwys y plwyf gerllaw. Mae Ellen yn darganfod bod dillad y bachgen wedi'u rhwygo a'i wddf wedi’i gleisio. Pan ddaw Grimes i’r golwg, ar ôl sylwi ar haig o bysgod, mae Ellen yn ei geryddu am gam-drin y bachgen. Maen nhw'n ffraeo ac mae Grimes yn ei tharo. Mae rhai o'r cymdogion yn eu gweld. Pan fydd gwasanaeth yr eglwys ar ben, mae'r newyddion wedi lledu bod 'Grimes yn mynd drwy’i bethau'. Mae Swallow yn anfon Hobson gyda'i ddrwm i alw criw at ei gilydd i fynd i gwt Grimes. Mae Anti, (y dafarnwraig) y nithoedd ac Ellen yn aros ar ôl.
Golygfa II
Cwt Grimes ar ben y clogwyn
Mae Grimes a'r bachgen yn cyrraedd y cwt. Mae Grimes yn casglu ei offer pysgota, ond mae'r bachgen yn ei ddagrau gan ofn. Mae Grimes yn ceisio tawelu'r bachgen ond wedyn yn clywed pobl y dref yn dod i fyny'r bryn. Mae'n ceisio gadael ar frys, gan daflu’r offer allan drwy'r drws ac yn anfon y bachgen i lawr wyneb y clogwyn. Mae'r bachgen yn llithro ac yn syrthio i'w farwolaeth. Mae Grimes yn dringo lawr ar ei ôl. Mae pobl y dref yn cyrraedd i ddarganfod bod y cwt yn wag a dim arwydd o Grimes na'r bachgen.
Act Tri
Golygfa I
Stryd ger y môr, ychydig nosweithiau'n ddiweddarach
Mae dawns yn cael ei chynnal yn y Neuadd ac mae llawer o fynd a dod rhwng y neuadd a'r dafarn. Nid yw Grimes na'i brentis wedi cael eu gweld, ac mae pobl yn tybio eu bod wedi mynd i bysgota. Mae Mrs Sedley yn clywed Ellen yn dweud wrth Balstrode fod y siwmper a frodiodd hi i'r bachgen wedi cael ei olchi i’r lan ar y traeth. Wrth weld bod cwch pysgota Grimes yn ôl, mae Mrs Sedley yn dweud wrth Swallow yr hyn mae hi'n ei amau. Mae Swallow, fel Maer y Fwrdeistref, yn arwain ei griw i arestio Grimes.
Golygfa II
Ychydig oriau’n ddiweddarach
Mae'r ddawns ar ben. Mae niwl wedi codi o'r môr. Mae gweiddi gan y criw sy’n chwilio am Grimes a sŵn y corn niwl yn tarfu ar y distawrwydd. Mae Grimes yn mynd yn ôl i'w gwch yn llechwraidd. Mae Ellen a Balstrode yn ei ganfod yno, yn newynog, gwlyb, wedi blino ac yn ofidus ei feddwl. Mae Balstrode yn cynnig ffordd allan: rhaid i Grimes fynd â'i gwch allan i'r môr, ei suddo gydag ef ar ei fwrdd. Yn rhy ofidus i feddwl, mae Grimes yn gwneud yr hyn y dywedir wrtho am wneud. Wrth i'r wawr dorri, daw bywyd yn ôl i’r fwrdeistref. Mae gwylwyr y glannau yn dweud bod cwch yn suddo ymhell allan i'r môr, ond mae pobl y dref yn diystyru'r newyddion fel sïon yn unig. Mae pobl y Fwrdeistref yn mynd i’r afael â’u gwaith. Mae'n ddechrau diwrnod arall.