Newyddion

Archwiliad Cerddorol o Rigoletto

17 Medi 2024

Mae’r opera Rigolettogan Verdi yn drysorfa o ddrama a cherddoriaeth ryfeddol, ingol. Efallai mai La donna è mobile y Dug yw aria enwocaf yr opera, ond tybed a ydych yn gyfarwydd â rhai o bigion cerddorol eraill yr opera hon? Darllenwch ein canllaw isod i ddysgu am ein hoff rannau i wrando amdanynt yn Rigoletto.

Cofiwch fod ein Canllaw i Rigoletto ar gael yma hefyd.


Act 1: Y Dug, Questa o Quella (Y ferch hon neu’r llall)

Yn Rigoletto, fe gafodd Verdi wared ar yr ariâu agoriadol traddodiadol a geir yn ei waith blaenorol, gan newid i ddigwyddiadau cyson o ddechrau’r opera. I agor y digwyddiadau yn Mantua, cynhelir dawns odidog yn y palas, lle mae’r Dug yn byw bywyd llawn gwiriondeb a meddwdod yn hudo merched y llys, p’un a ydynt yn briod ai peidio. Mae ei aria ysgafnfryd Questa o Quella yn sôn am bleserau ei ormodedd a’i fywyd carwriaethol toreithiog.


Act 1: Gilda, Caro nome (Annwyl enw)

Mae Gilda, merch Rigoletto, wedi syrthio mewn cariad gyda myfyriwr tlawd o’r enw Gualtier Maldé (sef, y Dug mewn cuddwisg) ac mae’n canu’n freuddwydiol am ei ‘henw cariadus’, annwyl newydd. Caiff diniweidrwydd ifanc Gilda ei amlygu’n llawn gan Verdi yma, gyda chyfraniadau unigol gan y ffliwtiau a’r ffidl unawdol. Tua diwedd ei haria, daw llyswyr y palas i mewn, gan atal Gilda rhag cael y cadenza traddodiadol ar ddiwedd yr aria - dyfais plot arall gan Verdi er mwyn symud ymlaen â’r ddrama.


Act 2: Deuawd Rigoletto a Gilda, Ah! Piangi, fanciulla / Padre, in voi parla un angiol, gyda Sì vendetta / O mio padre yn dilyn yn ddi-oed

Mae Gilda wedi dioddef ymosodiad ac mae Rigoletto’n gwneud ei orau i’w chysuro, Piangi, fanciulla (Wyla, fy mhlentyn) - mae’n ennyd ingol a thyner o fregusrwydd rhwng y ddau; Gilda’n gwybod ei bod wedi cael ei thwyllo a Rigoletto’n llawn tristwch am nad yw wedi gwneud digon i amddiffyn ei ferch. Mae’n newid yn gyflym i fod yn ddig wedi iddo ddysgu fod Cownt Monterone yn cael ei hebrwng i’r carchar, ac mae’n canu Sì, vendetta (Ie, dial), gan roi sicrwydd i Monterone y bydd dial. Mae’r ddwy ddeuawd hon yn cyfnewid yn esmwyth o un i’r llall, gan adlewyrchu’r arddull newydd yr oedd Verdi’n ei ddatblygu, a oedd yn caniatáu i’r llif ddi-dor o ariâu heb ddiweddgloeon gyfnewid yn esmwyth rhwng emosiynau a thestunau newidiol.


Act 3: Pedwarawd, Bella figlia dell’amore (Merch deg cariad)

Yn Act 3, mae Rigoletto’n penderfynu bod y Dug wedi mynd yn rhy bell ac mae’n mynd â Gilda i gyrion y ddinas i ddangos gwir natur y Dug iddi. Yno, maent yn dod o hyd i’r Dug a Maddalena’n fflyrtio’n ddigydwybod ac mae Gilda’n torri ei chalon. Mae’r pedwar ohonynt yn canu pedwarawd sy’n cynnwys dwy sgwrs ar wahân: y Dug yn hudo Maddalena a hithau’n fflyrtio’n bryfoclyd yn ôl, ac wylo gofidus Gilda gydag addewidion Rigoletto i ddial. Y pedwarawd yw uchafbwynt strwythur dramatig yr opera, gyda Verdi’n cydnabod bod llawer yn ystyried mai dyma’r darn gorau o waith wedi’i gyfansoddi ar gyfer ensemble yn y byd opera cyfan.


Gallwch fwynhau’r pigion cerddorol hyn a rhagor dros eich hunain yng nghynhyrchiad newydd sbon WNO o Rigoletto. Cynhelir y noson agoriadol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 21 Medi 2021, cyn mynd â’r opera ar daith drwy gydol yr hydref i Landudno, Plymouth, Rhydychen a Southampton tan 16 Tachwedd 2024. Archebwch eich tocynnau nawr rhag cael eich siomi.