Newyddion

Canllaw i Rigoletto

4 Medi 2024

A hithau'n un o ffefrynnau hirdymor Opera Cenedlaethol Cymru, Rigoletto yw un o'r trasiedïau operatig mwyaf tragwyddol. Bydd cynhyrchiad newydd sbon WNO, a gyfarwyddir gan yr enwog Adele Thomas, sydd hefyd yn ein hymuno yn fuan fel cyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr WNO, yn cyflwyno golwg newydd a thrawiadol ar glasur Verdi. Darllenwch ein canllaw byr isod i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am Rigoletto a'r hyn y gellir ei ddisgwyl y Tymor Hydref hwn.


MaeRigoletto, opera drasig Giuseppe Verdi, yn seiliedig ar ddrama 1832 llawn sgandal Victor Hugo, Le roi s’amuse, a waharddwyd ar ei hunion yn Ffrainc ar ôl ei pherfformiad cyntaf. Gyda libreto gan Francesco Maria Piave (a weithiodd ar y cyd â Verdi ar La traviata a Macbethyn ogystal), perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn theatr La Fenice yn Fenis ym mis Mawrth 1851 ar ôl ei haddasu er mwyn ei hatal rhag cael ei sensora gan awdurdodau Fenis. Roedd yr opera'n llwyddiant ysgubol a lledaenodd ei phoblogrwydd yn gyflym drwy Ewrop gyfan.

Stori am gariad ffôl, dialedd, cenfigen a thrasiedi sy'n digwydd yn llys llygredig Dug Mantua yw Rigoletto. Yng nghanol y parti yn y llys, mae Rigoletto, digrifwas cefngrwm y Dug, yn gwawdio'i westeion cwcwallt, yn cynnwys Iarll Monterone, sy'n melltithio Rigoletto. Gilda, merch Rigoletto, yw’r unig beth sy’n dod â llawenydd iddo. Mae Rigoletto yn ei gwarchod â'i holl nerth ond mae'n tynnu ei lygaid oddi arni am gyfnod sy'n galluogi iddi syrthio mewn cariad â myfyriwr deniadol (sef y Dug wedi newid ei wedd mewn gwirionedd). Y noson honno, caiff Gilda ei herwgipio gan lyswyr y Dug a'i danfon ar ei hunion i ystafell wely'r Dug.

Mae Rigoletto yn addo talu'r pwyth yn ôl ac yn cyflogi Sparafucile yr asasin i ladd y Dug, sydd erbyn hyn wedi symud ymlaen at swyno Maddalena, chwaer Sparafucile. Mae Rigoletto yn mynd â Gilda yn ddirgel i wylio'r Dug gyda Maddalena, sy'n dorcalonnus i Gilda. A hithau wedi gwirioni'n lân ac yn ymwybodol o gynllun Sparafucile i lofruddio'r Dug, mae Gilda yn newid ei gwedd ac yn bwriadu aberthu ei hun yn ei le. Mae Gilda yn marw ym mreichiau ei thad; mae'r Rigoletto trychinebus yn teimlo melltith Monterone arno o'r diwedd.

Yn ôl Verdi, Rigoletto oedd ei waith orau hyd adeg ei ysgrifennu, ac nid oes syndod am hynny - mae'n cynnwys rhai o'r darnau cerddoriaeth enwocaf a chofiadwy yn yr holl repertoire operatig, yn cynnwys aria cellweirus y Dug, La donna è mobile a'r pedwarawd ysblennydd Bella figlia dell’amore. Bydd yr arweinwyr, Pietro Rizzo a Teresa Riverio Böhm, yn arwain Cerddorfa a Chorws WNO yn y clasur poblogaidd, ac yn dod â champwaith Verdi yn fyw. Gyda chefnogaeth Ensemble Actio, bydd cast rhyngwladol gwych yn ymuno â hwy, a bydd nifer ohonynt yn perfformio i Gwmni WNO am y tro cyntaf, yn cynnwys Daniel Luis de Vicente (Rigoletto), Raffaele Abete (Y Dug), Alyona Abramova (Maddalena), Nathanaël Tavernier (Sparafucile) and Zwakele Tshabalala (Borsa).

Bydd tîm hynod fedrus o unigolion creadigol gwadd yn goruchwylio eu gweledigaeth newydd drawiadol ar gyfer y cynhyrchiad: yn ymuno â'r Cyfarwyddwr Adele Thomas mae'r Dylunydd Set a Gwisgoedd Annemarie Woods, y Dylunydd Goleuo Guy Hoare, y Coreograffydd Emma Woods, dychweliad y Cyfarwyddwr Staff Deborah Cohen, y Cydlynydd Agosatrwydd Kevin McCurdy a'r Cyfarwyddwr Ymladd Kate Waters.

Sicrhewch nad ydych yn colli'ch cyfle i weld cynhyrchiad newydd sbon WNO o Rigoletto, sy'n agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 21 Medi, cyn mynd ar daith i Landudno, Plymouth, Rhydychen a Southampton yr Hydref hwn.