Paris. Oes unrhyw ddinas arall wedi ysbrydoli cymaint o ganeuon serch iddi hi'i hun? O'r Tŵr Eiffel, ar draws y Seine i'r Arc de Triomphe ac i fyny at y Montmartre etheraidd, mae prif ddinas Ffrainc yn hynod gain. Perfformiodd Opera Cenedlaethol Cymru Pelléas et Mélisande gan Debussy yn y Théâtre du Châtelet ym Mharis yn 1992, ond nawr, bydd rhaid i daith gerddorol wneud y tro.
Yn ei nodyn rhaglen ar gyfer perfformiad cyntaf An American in Paris ar 13 Rhagfyr 1928, ysgrifennodd George Gershwin 'Fy mwriad yw portreadu argraff o ymwelydd Americanaidd ym Mharis wrth iddo grwydro'r ddinas a gwrando ar wahanol synau’r stryd ac amsugno'r awyrgylch Ffrengig'. Roedd y perfformiad cyntaf yn y Carnegie Hall, Efrog Newydd, ond trwy gynnwys cyrn tacsi a fewnforiwyd yn arbennig o Baris, sicrhaodd Gershwin fod y gynulleidfa'n teimlo fel pe baent yno.
Ein stop tacsi cyntaf yw Palais Garnier. Wedi'i adeiladu ar gyfer y Paris Opera ar gais Ymerawdwr Napoleon III, hon oedd prif theatr y Cwmni tan 1989, pan agorodd Opéra Bastille. Bellach, defnyddir y Palais Garnier yn bennaf ar gyfer bale. Achosodd Boléro Ravel fwrlwm pan gafodd ei berfformio'n gyntaf yno ar 20 Tachwedd 1928. Ymhlith y gynulleidfa ecstatig, clywyd menyw yn sgrechian 'Au fou, au fou! ' (Y dyn gwyllt! Y dyn gwyllt!). Pan ddywedwyd wrth Ravel am hyn, atebodd, yn ôl pob sôn, 'Y wraig honno... roedd hi'n deall.' Sôn am ddynion gwyllt; defnyddiwyd y tanc dŵr o dan y tŷ opera, y cyfeiriwyd ato fel llyn, fel lleoliad nofel y gohebydd troseddau ac adolygydd theatr ac opera, Gaston Leroux, a ysbrydolodd sioe gerdd boblogaidd Andrew Lloyd Webber The Phantom of the Opera.
Mae’r Suite Symphonique (1930) gan Jacques Ibert yn daith o amgylch Paris yn ystod yr oes jazz. Mae ei symudiad cyntaf Le Métro (rhif 12 i fod yn benodol) yn mynd â ni o Palais Garnier i'r Place Pigalle. Bellach yn gysylltiedig â'r grwpiau dawns benywaidd o ardal bywyd nos ecsgliwsif Paris, mae'r Can-Can yn ddawns mewn amser 2/4 bywiog a gafodd ei dawnsio gyntaf i gerddoriaeth quadrille neu galop. Er gwaethaf y teitl o Infernal Gallop, mae'r ddawns yn Ail Act yr opereta Orpheus in the Underworld gan Jacques Offenbach wedi dod yn gyfystyr â'r arddull cicio uchel ac yn cael ei chyfeirio ati yn aml fel Can-Can Offenbach. Ymddangosodd y ddawns yn ddiweddarach mewn gweithiau fel The Merry Widow gan Lehár a chomedi cerddorol Cole Porter, Can-Can (1953).
Mae La bohème gan Puccini, yn seiliedig ar nofel 1851 Henri Murger, Scènes de la Vie de Bohème, yn dilyn grŵp o fohemiaid ifanc yn byw yn ardal Ladinaidd Paris yn yr 1840au. Er iddi gael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Turin, nid yn unig mae'r opera yn deyrnged fywiog ac anymddiheurol i'r gymuned o artistiaid, mae hefyd yn dal rhamant Paris. Opera arall a ysbrydolwyd gan Paris ond a gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn yr Eidal, y tro yma yn La Fenice yn Venice, yw La traviata. Mae campwaith Verdi yn adrodd hanes Violetta ac Alfredo, cariadon anffortunus, ond mae hefyd yn stori am atyniadau a pheryglon Paris yn yr 19eg ganrif, lle mae'r stori wedi ei gosod. Mae cariadon anffortunus hefyd i'w gweld yn Roméo et Juliette gan Gounod, a gafodd ei pherfformio gyntaf yn y Théâtre-Lyrique yn ystod arddangosfa Byd Paris 1867.
Mae ein stop olaf yn mynd â ni yn ôl i'r man cychwyn - Debussy, a'i Suite Bergamasque. Mae ei thrydydd symudiad, a'r symudiad mwyaf poblogaidd, Clair De Lune, yn cymryd ei ysbrydoliaeth o gerdd o'r un enw gan Paul Verlaine. Y darn hudol hwn ar gyfer unawd biano am noson hyfryd dan olau'r lleuad yw'r lle perffaith i ddod â'n taith i ben wrth inni ddychmygu golau'r lleuad yn disgleirio ar y Seine o'r Pont des Arts.