Mae bywyd unrhyw weithiwr opera proffesiynol ar y cyfan, yn tueddu i fod yn un crwydrol, ac yn fy achos i mae wedi bod yn fwy crwydrol na'r rhan fwyaf. Aeth fy nhaith gyrfa benodol â mi i New Zealand Opera, lle'r oeddwn yn Gyfarwyddwr Cyffredinol am wyth mlynedd, ac fel y gŵyr pob un sydd wedi bod yn y wlad hardd honno, mae'n un o'r lleoedd pellaf o'r DU y gall dyn deithio cyn troi'n ôl arno'i hun. Pum mlynedd yn ôl, codais fy mhac a symud eto, y tro hwn i Seattle Opera, ac erbyn hyn rwyf wedi dod adref, wedi teithio'r byd yn hynny o beth yn fy hynt operatig.
Rwy'n golygu 'adref' o ran y DU, ond yn fwy penodol i Opera Cenedlaethol Cymru. Dros yr wythnosau diwethaf, mae sylw wedi cael ei roi mewn sawl cyfweliad â'r wasg i fy swydd fel Cyfarwyddwr Staff yma yn yr wythdegau, ac felly mae'n gylch llawn, taclus. Fodd bynnag, pan oeddwn yn dal yn fyfyriwr yn Birmingham y deuthum i wybod am waith y Cwmni, a'i garu gyntaf.
Galwch fi'n od, ond mi oeddwn i'n mynd i weld llawer o opera tra'r oeddwn yn yr ysgol. Wrth fyw yn Llundain, a manteisio ar raglen 'Ieuenctid a Cherddoriaeth' arbennig Syr Robert Mayer, roedd hi'n bosibl mynd i ENO a Covent Garden am bris chwerthinllyd o isel, ac felly dyna a wnes. Es i Birmingham i astudio Saesneg a Drama gyda safbwynt Llundeiniwr o'r hyn a ystyrid yn rhagoriaeth operatig - ac yna des ar draws gynhyrchiad WNO Harry Kupfer o Elektra, Madam Butterfly Joachim Herz a The Magic Flute Göran Järvefelt etc. Mae'r rhestr o gynyrchiadau yn hir ac fe agorodd fy llygaid i ffordd o greu opera nad oeddwn wedi ei phrofi o'r blaen.
Yma, roedd opera yn ddrama rymus, nerthol a dwys, opera a wnâi ddatganiadau pendant am ein cymdeithas yn ogystal â'n dynoliaeth. Roedd yr ethos a'r agwedd hon at opera yn dal yn bresennol yn y cwmni pan ymunais yn llawn amser, a gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon fy mod wedi mynd â'r pethau hyn gyda mi i'r holl leoedd amrywiol yr wyf wedi gweithio ynddynt ar draws y byd, boed hynny fel cyfarwyddwr llwyfan, cyfarwyddwr artistig, neu, yn y blynyddoedd diweddar, fel Cyfarwyddwr Cyffredinol.
Er mai dyma rwy'n credu y dylai sylfaen opera fod o hyd, mae'n deg dweud hefyd fod fy marn ynghylch natur cwmni opera wedi esblygu wrth i'r blynyddoedd fynd heibio a fy ngyrfa ddatblygu. Fel ymarferydd, roedd fy ffocws yn fwy mewnblyg, yn canolbwyntio ar wneud cynyrchiadau mor rymus ag y gallant fod; ond fel Cyfarwyddwr Cyffredinol, rwy'n rhoi fy hunan yn esgidiau'r gynulleidfa'n fwriadol.
Beth sy'n ddifyr i bobl heddiw, am beth maent yn chwilio mewn perfformiad, a sut all WNO fwydo'r chwilfrydedd hwnnw? Rwy'n credu'n gryf mai ein pwrpas craidd, fel sefydliad celfyddydol, yw adlewyrchu bywydau ein cynulleidfaoedd, ac i ddarparu profiadau ystyrlon iddynt sy'n ennyn eu hymateb ymhell ar ôl i'r llenni gau. Fodd bynnag, mae ein diffiniad o'r gair 'cynulleidfa' hyd yn oed, wedi newid rhywfaint.
Heddiw, nid yw'n ddigon meddwl am ein cynyrchiadau mawr ar y prif lwyfan yn unig; mae ein hadran Ieuenctid a Chymuned yn ymgymryd ag ystod eang o waith sy'n gwasanaethu llawer o gymunedau gwahanol, hen ac ifanc. Yn wir, un o'r llu rhesymau pam oeddwn mor falch a breintiedig i gymryd y llyw fel Cyfarwyddwr Cyffredinol oedd y ffordd y mae'r cwmni bellach yn cyrraedd cynulleidfa mor amrywiol. Yn y blynyddoedd i ddod, rwy'n edrych ymlaen at ehangu'r cyrhaeddiad hwnnw, a rhannu gyda chi'r pleser a'r mwynhad unigryw sydd ond yn cael ei gynnig gan berfformiad opera gwych.