Newyddion

Hoff Ariâu Tenor Adam Gilbert

7 Gorffennaf 2022

Y tenoriaid yw'r gorau am ysgogi dychymyg cynulleidfaoedd. Boed yn brwydro yn erbyn dreigiau neu'n canu serenâd i dywysoges, yn draddodiadol caiff rolau tenor eu perfformio gan ganwr gwrywaidd. Gyda chymaint o ariâu nodedig yn y repertoire, fe wnaethom ofyn i Artist Cyswllt WNO, Adam Gilbert llunio rhestr o'i hoff rolau, ei rolau mwyaf heriol, a'r rolau sydd agosaf at ei galon yn repertoire operatig y tenor.

  • Vesti la giubba o I Pagliacci gan Leoncavallo

A hithau'n cael ei chanu gan Canio - arweinydd grŵp o glowniaid yn teithio - tuag at ddiwedd yr act gyntaf, bydd yr aria eiconig hon bob amser yn cael ei chynnwys ar fy rhestr o hoff ariâu. Mae'r ddrama gignoeth wastad yn llwyddo i'm meddiannu. Ar yr adeg hon yn yr opera, mae Canio newydd ddarganfod bod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo, ond rhaid i'r sioe fynd rhagddi. Mae'n ymgorffori'r clown trasig sy'n chwerthin ar y tu allan ond yn crio ar y tu mewn. Rwy'n cofio clywed yr aria hon ymhell cyn i mi drawsnewid yn denor o fod yn fariton. Rhuthrais at y piano i roi cynnig arni. Erbyn hyn rwy'n ei hystyried yn rôl fy mreuddwydion gydag aria fy mreuddwydion ac rwy'n awyddus i'w chyflawni yn y dyfodol, rhyw bryd, rwy'n gobeithio.

  • Nessun Dorma o Turandot gan Puccini

Nid oes rhestr aria tenor yn gyflawn heb yr aria drawiadol hon. Yn 1990, daeth Pavarotti yn enwog am ganu'r darn arbennig hwn yng Nghwpan y Byd yn yr Eidal, gan gyflwyno opera i'r dorf ar ei ben ei hun. O'i hagoriad llyfn, yr arweiniad cyffrous at yr uchafbwynt (sy'n cynnwys corws oddi ar y llwyfan), i'r uchafbwynt B uchel enwog - mae gan yr aria hon bopeth. Bydd yn gyrru ias i lawr cefn unrhyw ddarpar denor, heb amheuaeth - mae'n gampwaith.

  • Una furtiva lagrima o The Elixir of Love gan Donizetti

Rwyf wrth fy modd â'r aria hon am ei hyfrydwch a'i symlrwydd. Mae'n ddarn hynod o anodd ei ganu, yn bennaf oherwydd ei fod yn ardal berygl y tenor, y passagio a ofnir (y weithred o symud o un rhan o'r cwmpas i'r llall). Caiff yr aria ei chanu gan Nemorino, gŵr ifanc dymunol a syml sy'n ceisio ennill calon Adina gyda diod cariad. Yn ystod yr aria, mae'n credu ei fod yn dwyn perswâd drosti ond mae'r cywair lleiaf troellog yn awgrymu fel arall...

  • E lucevan le stelle o Tosca gan Puccini

Rwyf wastad yn cael fy nhynnu at yr operâu tywyllaf, mwy digalon gan eu bod yn tynnu ar linynnau'r galon, ond does yr un yn curo hon. Mae'r unawd glarinét sy'n agoriad perffaith i'r aria hon yn gosod y cyd-destun. Ac yntau ar fin marw, eistedda Cavaradossi yn ei gell yn breuddwydio ac yn hel atgofion am ei Tosca annwyl. Rwy'n cofio gwylio un o fy athrawon canu cyntaf yn perfformio'r rôl hon, cyn i mi fod yn gwybod rhyw lawer ynghylch y byd opera rhyfeddol. Hyd heddiw, rwy'n dal i allu gweld y datganiad hwnnw o E lucevan le stele - croen gŵydd drosof.

  • Rachel! Quand du seigneur o La Juive gan Fromental Halévy

Mae'r aria hon wedi darganfod fy enaid ac rwy'n ei chanu ym mhob man. Gyda'r nod o oresgyn gwahaniaethau crefyddol, mae'r opera hon yn seiliedig ar y cariad amhosibl rhwng gŵr Cristnogol a merch Iddewig. Ar ôl ymroi ei fywyd yn sicrhau bod ei ferch fabwysiedig, Rachel, yn hapus, yn ystod ei gyfnodau tywyllaf mae'n ystyried y realiti efallai mai ef sy'n ei hanfon at ei marwolaeth. Mae teimlad y nodyn lleiaf araf yn caniatáu'r gŵr hŷn i feddwl am ei gam nesaf.

Mae clasur arall gan Puccini o hoff focs siocled opera bawb yn cwblhau fy rhestr. Yn llawn ariâu hyfryd, caiff y gân drawiadol hon ei chanu gan y bardd Rudolfo i Mimi, ei gariad. Dechreua'r stori gariad drasig â chyffyrddiad llaw eiconig. Rwyf wedi perfformio rôl Marcello sawl gwaith ac rwy'n cofio bob nos; byddai'r cast i gyd yn ymgasglu yn yr esgyll i wrando ar y foment sy'n ddigon i dynnu gwynt o'ch ysgyfaint.