Newyddion

Ymateb y Gynulleidfa i Ainadamar

13 Medi 2023

Agorodd Tymor yr Hydref Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 9 Medi gyda’r sioe Sbaenaidd arbennig, Ainadamar. Wrth uno flamenco ac opera, mae hanes Federico García Lorca a Margarita Xirgu wedi gwefreiddio ein cynulleidfaoedd. Dyma rai o’r adborth rydym wedi’i gael hyd yn hyn.

Fiercely evocative

The Guardian

Thrumming with intensity and energy

The Times

Tyrodd aelodau’r gynulleidfa’n syth ar Twitter i rannu eu barn gyda ni drwy@WNOtweet neu @OperaCenCym, a thrwy ddefnyddio'r hashnod #WNOainadamar.

Roedd ein tudalen Facebook yn llawn adborth cadarnhaol ar ôl y noson agoriadol.

Jim Fitzgibbon: Profiad anhygoel – y canu, actio, dawnsio a llwyfannu. Wedi fy nghludo i Sbaen yn yr 1930au, yn brofiad gwylio anghyfforddus weithiau, ond ysbrydoledig.

Pauline Woolcock: Roedd yn fendigedig. Cynhyrchiad o safon, hynod arloesol. WNO yn llwyddo eto fyth.

Rowena Gillard: Waw! Dyma un o'r perfformiadau mwyaf gwefreiddiol i mi ei wylio erioed! Delweddau a llwyfannu anhygoel. Perfformiadau arbennig. Wedi cipio hanfod Sbaen ac erchyllterau’r Rhyfel Cartref yn Sbaen yn llwyr. Wedi fy syfrdanu’n llwyr.

Peter Cruickshank: Hollol wych!

Helen McNabb: Ewch i’w weld! Mae’n hyfryd.

Julie Morgan: Perfformiad arbennig, mor wahanol. Ewch i’w weld eto.

Donna Carrington: Roedd hwn yn anhygoel... Cynhyrchiad ardderchog.

Alison Payton: roeddwn yn meddwl ei fod yn wych. Llwyfannu hynod greadigol, a chymysgedd hynod ddifyr o gerddoriaeth, llais, dawns ac animeiddiad. Byddwn yn sicr yn ei argymell!

Gail Stewart: Gwych!!! Mae'n rhagorol

Marigold Oakley: Cynhyrchiad hyfryd, gyda pherfformiadau unigol eithriadol. Da iawn WNO!

Gallwch fwynhau ein hopera newydd, Ainadamar, yng Nghaerdydd tan ddydd Mawrth 26 Medi, cyn i ni fynd â’r cynhyrchiad ar daith i Landudno, Milton Keynes, Bryste, Plymouth, Birmingham a Southampton. Os ydych chi’n bwriadu ymuno â ni i wylio perfformiad, cofiwch rannu eich barn gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol.