Newyddion

Alice's Adventures in Wonderland mewn Diwylliant Poblogaidd

7 Gorffennaf 2021

Heb os, mae poblogrwydd y clasur i blant gan Lewis Carroll yn fythol: mwy na 150 o flynyddoedd ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf, yn 1865. Mae Alice wedi cael ei hail-greu mewn oddeutu 60 o fersiynau llenyddol, 40 ffilm a mwy na 30 o addasiadau ar gyfer y llwyfan, gan gynnwys llwyfaniad diweddar Opera Cenedlaethol Cymru o opera Will Todd, Alice’s Adventures in Wonderland, a berfformiwyd yng Ngerddi Dyffryn ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Dangoswyd y ffilm gyntaf, a oedd yn adnabyddus am y defnydd o effeithiau arbennig ynddi, am y tro cyntaf yn 1903. Fodd bynnag, y ffilm Alice in Wonderland mwyaf eiconig oedd animeiddiad cerddorol Disney yn 1951. Mewn addasiad mwy diweddar (2010), ail-grëwyd y ffilm gan y cyfarwyddwr Tim Burton a'i gweddnewidiodd yn ffilm antur ffantasïol tywyllach a gafodd ganmoliaeth am ei sgôr gerddorol, ei harddull weledol a'i gwisgoedd trawiadol. Yn 1985, crëwyd addasiad 5 pennod ar gyfer y teledu. Ysbrydolwyd y fersiwn ysgafn hwn gan y cynyrchiadau cynnar o Alice ac mae hyd yn oed yn cynnwys pypedau ochr yn ochr â pherson go iawn yn chwarae rhan Alice.

Cyn y fersiynau ffilm a theledu hyn o'r stori, bu addasiadau ar gyfer y llwyfan yn boblogaidd. Mor fuan â 1886, gofynnodd Henry Clarke am gymeradwyaeth gan Carroll i addasu Alice’s Adventures in Wonderland i fod yn sioe lwyfan gerddorol. Gosododd hynny gynsail i ysgrifenwyr ail-greu'r stori ar ffurf cynyrchiadau theatr a sioeau cerdd yn ddiweddarach. Yn sicr, fe addasodd Clarke gryn dipyn ar elfen wreiddiol y nofel. Roedd elfen gerddorol yn ei fersiwn ef, gyda rhigymau a thestunau wedi eu newid yn ganeuon a geiriau caneuon, i ddatblygu effaith bantomeim i'r addasiad, a fyddai'n apelio at bob oed.

I barhau â'r thema gerddorol hon, yn fwy diweddar mae Victorian Opera ym Melbourne wedi creu dau ddarn o waith gydag Alice yn serennu. Yr enwau ar y cynyrchiadau creadigol hyn yw Alice’s Adventures in Operaland (2015), ac Alice Through the Opera Glass (2019). Yn y dramâu hyn, mae Alice yn mentro i fyd ffantasïol opera. Mae'r stori wedi'i hail-greu'n wych, gyda'r bwriad o ennyn diddordeb plant a'u cyflwyno i ysblander opera.

Ail-grëwyd stori Alice gan y National Theatre hefyd, y tro hwn i fod yn fyd ffantasïol modern mewn cynhyrchiad o'r enw 'wonder.land', wedi'i ysbrydoli gan y byd digidol sydd ohoni. Yma, mae Alice yn cael ei swyno gan fyd arlein, rhithiol 'wonder.land'. Mae naws ddigidol i ddyluniadau'r setiau, ac mae'r twll cwningen yn fyd rhithiol newydd sbon sy'n gyferbyniad llwyr i osodiad gwreiddiol y clasur o'r 19eg ganrif gan Carrol.

Yn ogystal ag ar y llwyfan ac mewn llyfrau, mae'r stori wedi cael ei dathlu ar ffurfiau eraill. Ym 1959, gosodwyd cerflun o Alice a chymeriadau nodedig, megis y Gwningen Wen, y Cheshire Cat a'r Mad Hatter yn Central Park Efrog Newydd.

O Efrog Newydd i Gymru; yn Llandudno, sef un o leoliadau teithio WNO, ceir llwybr cerfluniau o gymeriadau Alice in Wonderland, i goffáu clasur Carroll. Y sôn yw fod Alice Liddell wedi ymweld â Llandudno. Hi oedd y person a ysbrydolodd gymeriad Alice yn stori Carroll, a ddaeth yn stori arbennig sy'n enwog ledled y byd.