Newyddion

Cyhoeddi sefydlu Côr Cysur newydd yn Llanelli

21 Awst 2023

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod Côr Cysur WNO newydd yn cael ei sefydlu yn Llanelli, mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gaerfyrddin a Ffwrnes, lle fydd y côr yn cael ei gynnal. Gan ehangu ar ein corau presennol yn Aberdaugleddau a Llandeilo, bydd y gangen newydd yn Llanelli yn ymgais i sicrhau bod Prosiect Cysur yn cyrraedd mwy o gymunedau ledled Cymru.

Mae Corau Cysur WNO ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, eu cyfeillion a’u teuluoedd ac yn anelu i ddarparu sesiynau canu cymunedol cynhwysol pleserus, yn hwyluso cysylltiadau gan geisio anghofio am bryderon a heriau bob dydd. Mae Corau Cysur wedi profi i fod yn ganolbwynt pwysig ar gyfer hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol o fewn y gymuned ac yn annog cyfranogwyr i gamu allan o'u trefn ddyddiol arferol gyda dos o ganu. Mae Corau Cysur yn rhan o’r Prosiect Cysur ehangach gan WNO, sy’n gweithio tuag at godi ymwybyddiaeth o’r afiechyd ymysg plant ysgol trwy gyfrwng amrywiol weithdai.

Bydd y Côr Cysur WNO newydd yn dechrau yn Llanelli ar Ddydd Mawrth 19 Medi 2023, ac yn rhedeg yn y lle cyntaf am wyth wythnos. Arweinir y sesiynau gan yr anhygoel David Fortey (Arweinydd Lleisiol Côr Cysur) a’r pianydd Mark Jones, a byddant yn cynnwys rhychwant amrywiol o gerddoriaeth, o weithiau llwyfan a sgrin, i ganeuon gwerin a cherddoriaeth boblogaidd. Wedi’r sesiynau, bydd lluniaeth ar gael yn ogystal â chyfle i gymdeithasu gydag aelodau eraill o’r côr. 

Ar y cyhoeddiad, dywedodd Jennifer Hill, Cynhyrchydd WNO, Jennifer Hill:

Rydym yn hynod o falch o fedru arbrofi â Chôr Cysur newydd yn Llanelli. Mae aelodau’r corau presennol yn Aberdaugleddau a Llandeilo yn dweud wrthym gymaint y maent yn gwerthfawrogi’r gwmnïaeth a’r hwyl a geir o gyd-ganu yn wythnosol, felly mae medru ehangu’r cynllun i ardal arall, sy’n fwy dinesig ei natur, yn hynod o gyffrous. Rydym wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn cefnogaeth nifer o unigolion gwych a sefydliadau ar lawr gwlad sydd wedi eu mewnosod yn eu cymunedau, a gobeithio y bydd hyn yn ychwanegu at y gwaith gwych a wneir ganddynt.

Gan adfyfyrio ar lwyddiant blaenorol gyda Chôr Cysur Llandeilo, dywedodd Sue Smith, Rheolwr Prosiect Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Mae ymateb y gymuned i ddatblygiad Côr Cysur Llandeilo wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mae wedi gweithio mor dda, nid yn unig oherwydd llwyddiant tref wledig fechan i greu partneriaeth wych ag Opera Cenedlaethol Cymru, ond hefyd oherwydd gallu Grŵp Cymunedol Dementia-Gyfeillgar Llandeilo i ddefnyddio eu sgiliau cymunedol i sicrhau ei gynaliadwyedd. 

Os hoffech ddysgu mwy am ein Prosiect Cysur neu’n awyddus i ymuno ag un o’r corau, e-bostiwch Jennifer Hill jennifer.hill@wno.org.uk