Newyddion

Tu Ôl i'r Llen yn Future Inns

22 Hydref 2021

Wedi’i leoli o fewn pellter cerdded i gartref Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, mae Future Inns Bae Caerdydd a’i ystafelloedd gwely mawr, moethus, yn denu amrywiaeth o westeion ac weithiau, ambell i griw ffilmio.

Yn ddiweddar cawsom y pleser o ddefnyddio’r lleoliad 4* fel y lleoliad ar gyfer y bedwaredd fideo yn ein cyfres Aralleirio - y Triawd o Le Comte Ory gan Rossini.

Wrth ddewis lleoliad priodol ar gyfer ffilmio dywedodd Cynhyrchydd WNO, Maris Lyons:

Pan ddywedodd y cyfarwyddwr y byddai’n hoffi ffilmio’r darn hwn mewn gwesty, roeddwn i’n gwybod am y lle perffaith. Mae'r ystafelloedd gwely yn Future Inns yn llawer mwy na'r mwyafrif o westai sy’n help mawr i letya artistiaid, camerâu, a chriw wrth sicrhau'r onglau gorau ar gyfer y prosiect. Cysylltais â’n gwesty partner, Future Inns yn syth ac roeddynt yn agored iawn i’r syniad.


Gosododd y Cyfarwyddwr Daisy Evans driawd ffarsaidd Rossini - a ysgrifennwyd yn 1828 - i barti swyddfa, lle mae’r posibilrwydd o ddrygioni yn ddiddiwedd. I gyd-fynd ag ysgrifennu cerddorfaol lliwgar Rossini, ysgrifennodd Daisy Evans eiriau Saesneg newydd, a chymerodd ysbrydoliaeth weledol o fideos cerddoriaeth gyfoes gan artistiaid fel Lady Gaga a Nicki Minaj.

Fe wnaethom ni fanteisio ar holl gyfleusterau gwych y gwesty a ffilmio yn y bar, lifft, coridorau a heb anghofio'r ystafell wely a'r ystafell ymolchi.


Er gwaethaf bod yn brysur iawn, aeth pawb yn y gwesty allan o’u ffordd i’n helpu. Diolch i’r holl staff gwych yn Future Inns, aeth y broses ffilmio yn esmwyth ac mi oedd yn llwyddiannus iawn. Arhosodd y tîm cyfan yn y gwesty, ac roedd yn galonogol iawn gwybod y byddai pawb yn gyffyrddus ac yn cael gofal da.


Future Inns, Bae Caerdydd yw partner gwesty dewisol Opera Cenedlaethol Cymru. Os nad ydych eto wedi aros yn Future Inns beth am fanteisio ar eu cyfradd arbennig y maent wedi'i hymestyn yn garedig i gynulleidfaoedd Opera Cenedlaethol Cymru - 20% oddi ar bris gwely a brecwast. Os ydych yn byw yng Nghaerdydd gallwch fanteisio ar gynnig arbennig pris Te Prynhawn a chinio tri chwrs.