Cyfres o ffilmiau byr yw Aralleirio, a gomisiynwyd i osod ariâu operatig hŷn, adnabyddus yn y byd sydd ohoni ac i ddangos sut mae’r themâu a adleisir yn y storiau yn parhau i fod yn berthnasol hyd heddiw. Gwahoddodd WNO bedwar cyfarwyddwr – Rebbecca Hemmings, Daisy Evans, Mathilde Lopez ac Abdul Dhavek – i gymryd darn o opera o’u dewis a rhoi tro cyfoes arno ar gyfer y byd modern.
Mathilde Lopez
Mae Mathilde Lopez yn cymryd ‘Tu Se Morta’ o waith Monteverdi, Orfeo, fel ysbrydoliaeth ac yn archwilio tristwch, diffyg grym a’r modd yr ydym yn ceisio ailafael yn yr hyn rydym wedi ei golli.
Matthilde Lopez, CyfarwyddwrMae wedi bod yn bleser ymchwilio i mewn i Orfeo gan Monteverdi. Fel Orfeo, rydyn ni i gyd wedi ein syfrdanu'n ddwfn, wedi ein taro gan lefel anghredadwy o dristwch, wedi ein cythruddo gan ein diffyg pŵer ac rydyn ni hefyd wedi ceisio unrhyw beth i ddal ati. Ac rydym yn dal i'w wneud.
Abdul Shayek
Wedi'i ysbrydoli gan 'O mio babbino caro' pwerus Puccini o'r opera Gianni Schicchi, mae'r cyfarwyddwr Abdul Shayek yn edrych i weld a all cariad fyth bontio'r rhaniadau a achosir gan ddosbarth.
Rebbecca Hemmings
Wedi'i ysbrydoli gan 'Nessun Dorma' hynod gyfarwydd Puccini, mae dehongliad Rebbecca Hemmings, Y Paradocs, yn dilyn dyn sy'n llywio realiti dyddiol hiliaeth wrth iddo deithio i’r gwaith.
Daisy Evans
Mae'r cyfarwyddwr Daisy Evans yn gosod Triawd Rossini o Le Comte Ory mewn parti swyddfa lle tri chydweithiwr yn llithro i ffwrdd ar ddiwedd y noson ac yn cael noson i'w chofio