Newyddion

Y tu ôl i'r llen gyda Phodlediad Opera Cenedlaethol Cymru

13 Awst 2020

Ym mis Mehefin, lansiodd Opera Cenedlaethol Cymru ddwy gyfres newydd o bodlediadau; The O Word sy'n cael ei chyflwyno gan Gareth Jones, a Cipolwg wedi'i chyflwyno gan Lorna Prichard yn Gymraeg. Buom yn sgwrsio â Gareth, i ddysgu mwy amdano, sut y daeth ynghlwm â'i waith a beth allwch chi ei ddisgwyl gan The O Word.

Dywedwch wrthym am eich cefndir a sut y daethoch yn rhan o bodlediad Opera Cenedlaethol Cymru.

Rwyf wedi bod yn newyddiadurwr yn gweithio ym myd darlledu ers bron i 40 mlynedd. Mae wedi bod yn wych, ond nid wyf erioed wedi cael digon o amser i ymdrin â'r celfyddydau, rhywbeth sy'n agos at fy nghalon. Nawr, ar ôl gadael y BBC, mae gennyf fwy o reolaeth dros yr hyn yr wyf yn ei wneud, ac un o'r pethau cyntaf yr oeddwn yn awyddus i'w weithredu oedd podlediad ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Mae opera wedi bod o ddiddordeb mawr i mi, a allai fod yn gysylltiedig â'm nain Eileen. Roedd hi'n aelod o Gorws Opera Cenedlaethol Cymru yng nghanol y pumdegau, o fewn 'adran Abertawe', a oedd yn ei geiriau hi yn llawer gwell nag 'adran Caerdydd'.

Dywedwch wrthym am gynhyrchiad opera sydd wedi serennu o'ch safbwynt chi.

Otello o waith Peter Stein, a welais yn ôl yn 1986 yng Nghaerdydd. Os ydych erioed wedi bod eisiau enghraifft o'r hyn y gall y ffurf gelfyddydol ei wneud ar ei gorau, hon yw'r enghraifft. Mae agoriad Verdi yn ffrwydrol beth bynnag, yn gerddorol ac o ran drama, ond mae Stein yn ei ddwysáu ymhellach gydag effeithiau arbennig eithriadol, llwyfannu a gwisgoedd. Roedd y canu'n wych ac wrth gwrs, cafodd Corws a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru eu defnyddio i'w potensial llawn o fewn y pymtheg munud cyntaf hynny. Fe'm syfrdanodd yn llwyr.

Yn eich barn chi, beth fydd cefnogwyr opera yn ei fwynhau am ein podlediad?

Mae podlediad fel radio, gallwch ddefnyddio nifer o'r un sgiliau ond mae podlediad llwyddiannus yn adeiladu perthynas fwy cyfeillgar â'r gynulleidfa. Gobeithiaf y gallaf gael cydbwysedd da yn achos The O Word. Rwyf yn awyddus i arddangos y ddawn a'r creadigrwydd rhyfeddol sy'n mynd i greu opera ond hefyd sut y gall estyn i gyrraedd bob math o bobl ym mhobman. O'm safbwynt i, mae Opera yn beth arbennig, ac weithiau braidd yn chwilfrydig, yn egsotig ac yn ein cludo i fyd arall. Rwyf yn awyddus iawn i ddathlu hynny. Gobeithiaf y bydd y gynulleidfa'n teimlo fy mod yn westeiwr y gallant ymddiried ynddo, sy'n eu hebrwng o amgylch cerddoriaeth, syniadau a phersonoliaethau byd opera.

Pa bennod hyd yma oedd eich uchafbwynt?

Mae pob pennod hyd yn hyn wedi cynnwys o leiaf un uchafbwynt i mi – Rwyf wedi mwynhau pob un ohonynt yn arw. Cefais y fraint o gyfweld perfformwyr talentog a phobl greadigol, a hefyd unigolion sy'n gwerthfawrogi'r hyn mae opera ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ei wneud ar eu cyfer. Ond credaf mai'r gwir uchafbwynt hyd yma oedd cyfweld y tîm y tu ôl i waith newydd Opera Cenedlaethol Cymru Migrations yn y drydedd a'r bedwaredd bennod. Wrth wrando ar y cyfansoddwr Will Todd ar y piano, yn f'arwain drwy ddetholiad o'i gerddoriaeth; mae adegau fel hyn, gydag artist gwirioneddol yn dangos ei waith i chi, yn brin ac yn hudol.

I wrando ar yr uchafbwyntiau hyn a mwy, gwrandewch ar The O Word  sy'n rhyddhau penodau newydd yn wythnosol.