Migrations
Archived: 2022/2023Trosolwg
Beth yw canlyniadau ehangu ein gorwelion?
Mae’r awydd i ehangu ein gorwelion yn un naturiol, ond i lawer, mae’n angenrheidiol i wella ar amgylchiadau. Fodd bynnag, yn aml mae gwneud hyn yn arwain at ganlyniadau anfwriadol.
Drwy gyfres o storiâu cyflinellol, mae opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio’r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o ymfudo: o ymfudiad adar i hwylio'r Mayflower dros 400 mlynedd yn ôl; o hanes caethwas Affricanaidd Caribïaidd ym Mryste i brofiad y meddygon Indiaidd sy'n gweithio yn y Gig.
Mae amlochredd y gerddoriaeth, a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Prydeinig Will Todd(Alice’s Adventures in Wonderland), yn wahanol i unrhyw beth a berfformiwyd o’r blaen yn WNO, ac mae’n addasu i leoliad ac awyrgylch bob naratif, a ysgrifennwyd gan chwe awdur o wahanol gefndiroedd. Yn ymuno â Cherddorfa WNO estynedig mae cast o dros 100 o berfformwyr sy’n cynnwys Corws WNO, Corws Cymund Côr Renewal, dawnswyr Bollywood a chorws plant.
Drama epig ar raddfa enfawr, profiad byw na ellir ei fethu.
#WNOmigrations
The Times
The Stagethought-provoking and profoundly moving
Archwiliwch du ôl i'r llenni
Archebu rhaglen
Cefnogir gan John S Cohen Foundation a Syndicet Comisiwn Newydd WNO. Er cof am Anthony Bunker
Cefnogwr Arweiniol WNO
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Yn cynnwys themâu hiliaeth ac iaith a all beri gofid i rai pobl
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Synopsis
Trwy gyfres o chwe stori cyflinellol, mae opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o ymfudo.
Mayflower
Ysgrifennwyd gan Syr David Pountney
Stori am y rhai cyntaf a hwyliodd i America ar y Mayflower 400 mlynedd yn ôl, yn chwilio am ryddid o erledigaeth grefyddol ym Mhrydain
Treaty 6
Ysgrifennwyd gan Sarah Woods
Hanes cymuned sy'n brwydro i achub y tir y maent yn stiwardiaid ohono rhag dinistr amgylcheddol a'u hymateb i'r profiad o fewnfudo, dadleoli a gwladychu gan ymfudwyr Prydeinig.
Flight, Death or Fog
Ysgrifennwyd gan Edson Burton a Miles Chambers
Caethwas ty v caethwas maes. A oedd y naill yn fwy breintiedig na'r llall? Stori Pero, caethwas Affricanaidd Caribïaidd dan berchnogaeth teulu masnachol cyfoethog ym Mryste yn yr 18fed ganrif.
Birds
Ysgrifennwyd gan Eric Ngalle Charles
I adar mae mudo yn ffordd o fyw. Mae symudiad o'r dwyrain i'r gorllewin ac yn ôl yn digwydd yn naturiol, maent yn croesi tiroedd, yn croesi mynyddoedd ar gyfer mannau bwydo ac yn dychwelyd i'w cartref naturiol pan mae'r amser yn iawn.
The English Lesson
Ysgrifennwyd gan Sarah Woods
Mae grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ymgynnull i ddysgu Saesneg yn y wlad y maent wedi cyrraedd ynddi yn ddiweddar. Ond tra bod y cwestiynau y maent yn dysgu eu gofyn a'u hateb yn ymddangos yn syml, maent yn datgelu realiti anos.
This is the Life!
Ysgrifennwyd gan Shreya Sen-Handley
Golwg ddoniol ar brofiad meddygon Indiaidd yn y GIG. Yn 1968, mae dau ymarferwr ifanc, a wahoddwyd gan Lywodraeth Prydain i adeiladu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol newydd, yn cael eu dilorni a’u gwrthod, er gwaethaf y sicrwydd a roddwyd o’r “bywyd da” sy’n eu disgwyl.