Sinderela yw un o’r straeon tylwyth teg mwyaf adnabyddus erioed a ysgrifennwyd gan Charles Perrault ym 1697. Mae hefyd yn adnabyddus fel un o glasuron gwreiddiol Walt Disney. Ymhell cyn y ddewines garedig, y ceffyl a throl bwmpen a’r sliper wydr y mae selogion ffilm yn eu cofio fwyaf am fersiwn Disney, creodd Rossini opera, La Cenerentola, yn seiliedig ar y chwedl.
Fel y clasur Disney, mae ein fersiwn ni o opera Rossini yn llawn gwisgoedd llachar, gwalltiau mawr a cholur lliwgar; yn wir, mae’n sefyll allan fel un o’r cynyrchiadau mwyaf mawreddog ac afieithus i ni ei berfformio yn Opera Cenedlaethol Cymru. Nid oes llofruddiaethau erchyll, na golygfeydd ymladd ac yn bendant nid oes gwaed. Mae’n bosibl mai dyma un o’r operâu prin lle mae’r holl gymeriadau’n goroesi.
Bydd WNO yn adfywio ein cynhyrchiad llwyddiannus iawn o 2007 o La Cenerentola dan gyfarwyddyd Joan Font gyda’r set a’r gwisgoedd gan Joan Guillén, ond peidiwch â phoeni - nid yw’r gwisgoedd wedi dyddio o gwbl, ond ni ellir dweud yr un peth amdanom ni.
Mae dyluniadau Joan Guillen mor lliwgar a dros ben llestri â’r opera ei hun. O Angelina (Sinderela) i’r Chwiorydd Hyll, mae’r gwisgoedd yn adlewyrchu naws y darn.
Nid oes amheuaeth mai gwisgoedd y Chwiorydd Hyll yw’r rhai mwyaf gwallgof a lliwgar; maent yn gwisgo lliwiau gwyrdd, oren, coch a phinc llachar o’u coryn i’w sawdl. Mae cymysgu lliwiau yn elfen greiddiol, ac yn rhywbeth mae’r Chwiorydd Hyll yn ei wneud i’r eithaf. Heb anghofio’r ategolion sy’n sefyll allan fwyaf ymhlith y gwisgoedd, yr wigiau anhygoel.
Os oeddech chi’n meddwl bod y gwisgoedd yn llachar, mae’r wigiau hyd yn oed yn fwy llachar. Pinc, melyn, glas, porffor, enwch y lliw a bydd rhywun yn ei wisgo. Mae lliw a hiwmor y cynhyrchiad hwn yn ei wneud yn opera berffaith i’r teulu cyfan. Ac os nad yw hynny’n eich argyhoeddi ddigon, fe ddylai’r olygfa o chwe llygoden yn llamu ar draws y llwyfan.
O’u cymharu â gwisgoedd y Chwiorydd Hyll, mae gwisgoedd Angelina yn llai lliwgar ac yn sicr yn llai trawiadol. Mae ei rhai hi’n fwy cynnil. Er enghraifft, yng ngolygfa’r ddawns mae Angelina yn gwisgo ffrog glaerwyn ac wig sy’n cyd-fynd, gyda’r masg gwyrdd ar ei hwyneb yn ychwanegu’r unig fflach o liw. Mae hyn yn symbol o burdeb Angelina o’i gymharu â’r Chwiorydd Hyll.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth sy’n eich syfrdanu a’ch rhyfeddu, yna La Cenerentola yw’r opera i chi. Gyda chymysgedd o wisgoedd lliwgar, wigiau rhyfeddol a mymryn o ddychymyg, mae’n sicr o godi eich calon waeth beth fo’r tywydd.