Fe wnaeth llofruddiaeth erchyll George Floyd yn Minneapolis y mis diwethaf ein syfrdanu ni i gyd ac, ynghyd â'r protestiadau ers hynny, wedi gwneud i ni adlewyrchu ar ein bywydau ein hunain. Beth allwn ni ei wneud fel unigolion? Beth allwn ni ei wneud fel Cwmni? Gweledigaeth Opera Cenedlaethol Cymru yw byd wedi'i gyfoethogi a'i wneud yn gynhwysol drwy bŵer opera. Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i rannu enghreifftiau penodol o sut ydym yn ceisio gwireddu'r weledigaeth hon.
Ym mis Chwefror 2020, gwnaethom gyhoeddi cynlluniau ar gyfer Migrations, opera newydd uchelgeisiol sy'n gweld chwe awdur o gefndiroedd amrywiol yn dod ynghyd i adrodd cyfres o straeon am ymfudo drwy hanes. Mae'r opera yn cynnwys stori Pero, caethwas Affricanaidd-Caribïaidd dan berchnogaeth teulu o fasnachwyr cyfoethog ym Mryste yn y 18fed ganrif, a phrofiadau dau feddyg sy'n ymfudo i'r DU o India i weithio yn y GIG. Y bwriad gwreiddiol oedd cyflwyno a pherfformio Migrations yn ystod Tymor yr Hydref 2020, ond o ganlyniad i'r Coronafeirws, mae'r opera wedi'i gohirio tan 2021, lle bydd yn ganolbwynt ym mlwyddyn pen-blwydd WNO yn 75 oed. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gyda’r tîm creadigol i greu cynnwys digidol newydd dros y misoedd nesaf.
Mae Adran Ieuenctid a Chymuned WNO yn darparu gwaith sydd, er efallai'n llai amlwg nag ein hoperâu, yr un mor bwysig. Mae ein cysylltiadau hirsefydlog yn Birmingham wedi ein galluogi i weithio â grwpiau cymunedol gan gynnwys Our Roots. Rydym wedi bod yn cynnig grŵp canu mam a phlentyn ar gyfer rhieni sy'n ffoaduriaid yn y ddinas ac mae 80% o aelodau Opera Ieuenctid yn Birmingham o gefndiroedd BAME.
Yng Nghaerdydd, fel rhan o'n Tymor RHYDDID yn 2019 a oedd yn canolbwyntio ar y thema hawliau dynol, fe wnaethom ffurfio partneriaeth pum mlynedd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru. Ers hynny rydym wedi datblygu rhaglen artist preswyl gydag ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr sy'n ffoaduriaid, ac wedi credu darn byr a ddangoswyd yn anffurfiol fel rhan o'r Tymor y llynedd. Bydd y darn hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach a'i raglennu o amgylch lansiad Migrations y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio â Chanolfan Oasis yng Nghaerdydd ar ddau ddarn o waith sydd wedi'i ysgrifennu a'i chyfansoddi gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches leol.
Nid ein gwaith yn unig sydd angen bod yn fwy cynhwysol, ond ein sefydliad cyfan. Yn 2018, sefydlodd WNO Dasglu Cynhwysiant, gyda chynrychiolaeth o bob adran: dyma ein mecanwaith ar gyfer sicrhau newid sefydliadol. Rydym wedi gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Stephen Lawrence, ac mae eu harbenigedd ac anogaeth wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amhrisiadwy. Roedd ein cynllun gweithredu yn cynnwys ymrwymiadau i amrywio ein rhaglen artistig a'n cynulleidfaoedd, ond hefyd sut ydym yn gweithio fel Cwmni, o arferion recriwtio i ddatblygu'r gweithlu i lywodraethu.
Wrth gwrs nid yw hyn yn ddigon, ond mae'n gynnydd. Rydym wedi ymrwymo i newid ein hunain, newid ein Cwmni ac adlewyrchu'r gymuned yr ydym yn byw ynddi, dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Aidan Lang
Cyfarwyddwr Cyffredinol