Newyddion

Blaze of Glory - Persbectif Cyfansoddwr

10 Ionawr 2023

Cyn Tymor y Gwanwyn 2023 Opera Cenedlaethol Cymru a’r perfformiad cyntaf o’n hopera newydd sbon, Blaze of Glory!, cawsom sgwrs gyda’r cyfansoddwr, David Hackbridge Johnson, i ddysgu mwy am ei ysbrydoliaeth gerddorol ar gyfer yr opera a’i brofiad o weithio ar y cynhyrchiad.

‘Ni wnaf i fyth anghofio'r tro cyntaf y clywais Gôr Meibion Cymreig; nid yng nghysgod bryniau Cymru nag o fewn waliau carreg capel yng Nghymru, ond yn neuadd y dref yn Cheam, Llundain Fwyaf, lle gwelais berfformiad gan Gôr Meibion Cymreig Cheam. O’r nodyn cyntaf teimlais rywbeth yn digwydd yn yr ystafell, a'r tu mewn i mi. Cefais fy chwalu erbyn diwedd y perfformiad. Yr hyn sydd wedi aros yn fy nghof am 35 mlynedd a mwy yw sain y côr a’r ymateb angerddol a ysgogodd.

Pan ddaeth Emma Jenkins ataf i ofyn i mi gydweithio ar opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru, Blaze of Glory!, roeddwn wrth fy modd ac ychydig yn wyliadwrus ar yr un pryd. Wrth i mi edrych dros libreto dyfeisgar, teimladwy a doniol Emma, wedi’i osod ar adeg pan oedd cau pyllau glo'r 1950au yn effeithio ar fywydau cymunedau glofaol Cymru, meddyliais ‘sut ydw i’n mynd i symud o symffonïau i gorau meibion, grwpiau doo-wop a darnau jas?’ - gan fod y libreto yn gofyn am yr holl arddulliau hyn a mwy.

Mae'r opera’n galw am feysydd o ysgrifennu corawl nad oeddwn wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen, ac wrth chwilio am ysbrydoliaeth, cefais fy hun yn cofio emosiwn a sain Côr Meibion Cymreig Cheam yr holl flynyddoedd yn ôl. Ni chrëwyd yr holl gerddoriaeth ar gyfer yr opera o ddim gan fod y libreto yn galw am sawl darn gosod o repertoire traddodiadol Côr Meibion Cymreig, ac o’r herwydd, mae emynau traddodiadol Cymreig yn fframio’r pwyntiau allweddol yn y strwythur. Roeddwn hefyd yn gallu defnyddio gweithiau gan gyfansoddwyr eraill. Yn rhan o’r opereta mae Le Tyrol gan Ambroise Thomas, a The Martyrs of the Arena gan Laurent de Rillé, y ddau i’w clywed pan mae Eisteddfodau o'r 1950au yn cael eu hail-greu ar y llwyfan.

Mae stori Blaze of Glory!wedi caniatáu i mi ddefnyddio llawer o fy arbenigedd cyfansoddi fy hun, ond yn bwysicach na hynny, mae’r stori’n dangos cymuned gythryblus yn dod ynghyd i adfywio eu bywydau diwylliannol ac ysbrydol. Mae’n waith sy’n dathlu profiad cyfunol, lle mae unigolion yn dod at ei gilydd i godi eu hunain o amheuaeth ac anobaith. Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, rwy'n credu bod Blaze of Glory! yn cyfleu sawl ystyr ar sawl lefel ac os gall wneud hynny, hyd yn oed yn rhannol, rwy’n teimlo y bydd fy ymdrechion wedi llwyddo.’ 

Mae Blaze of Glory! yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Iau 23 Chwefror 2023, gyda pherfformiadau dilynol ar 10,13,18 Mawrth. Bydd yr opera wedyn yn mynd ar daith, gan ymweld â Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, a Southampton, hyd at 20 Mai.