Newyddion

Rhoi bywyd newydd i Alice drwy opera

24 Mehefin 2021

Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru ddychwelyd i berfformiadau byw y mis hwn, gyda chynhyrchiad o Alice's Adventures in Wonderland, dyma ni'n cael rhagor o wybodaeth ynghylch hanes yr opera deuluol hon gan y cyfansoddwr Will Todd.

Cafodd y sioe ei chomisiynu’n wreiddiol gan Opera Holland Park a oedd eisiau opera deuluol ar gyfer eu Tymor 2013. Dechreuodd Will waith ar y cyfansoddiad yn haf 2012, a arweiniodd at weithdy yn seiliedig ar y darn gyda'r cast a'r cyfarwyddwr, lle gwnaethant archwilio'r hyn a oedd yn gweithio ac nad oedd yn gweithio. Eglura Will 'Mae'r theatr gerdd i gyd yn ymwneud ag amseriad pob golygfa. Rydych angen cyfleu cymeriad mewn modd penodol ar amser penodol (weithiau gall hyn olygu ychydig eiliadau). Rydych chi'n canfod a yw golygfa yn gweithio dim ond pan ydych yn dechrau ymarfer y gerddoriaeth.'

O'r gweithdy cychwynnol hwn, goroesodd tua 70% o'r gerddoriaeth a oedd yn bresennol ar y dechrau, gyda'r 30% yn weddill naill ai'n cael ei newid, ei dynnu oddi yno neu ei disodli. Y sgôr derfynol a ddaeth o'r gweithdy yw'r un a aeth i'r cam cynhyrchu.

Dechreuodd proses greadigol Will gyda'r llyfrau gwreiddiol, dywedodd wrthym 'Mae Alice's Adventures in Wonderland yn gyfuniad o storiau hynod adnabyddus, wedi'u torri'n gyfres o gymeriadau gwahanol y mae Alice yn eu hwynebu. Felly, wrth addasu'r stori ar gyfer y llwyfan, roedd y tîm creadigol a minnau yn teimlo bod angen arnom ddrama naratif gref sy'n arwain y cymeriad o'r dechrau drwodd i'r diwedd.  Fe wnaethom benderfynu agor yr opera mewn siop anifeiliaid anwes lle mae Alice a'i theulu yn cysgodi rhag y glaw. Mae Alice yn dechrau siarad â chwningen ac ymhen fawr o dro, mae’n sylweddoli mai dim ond hi sy'n gallu ei glywed. Mae hyn yn ein harwain o olygfa realistig i fyd hudolus lle mae teulu Alice yn encilio o gyflwr ymwybodol, a dilynwn Alice ar ei thaith i Wlad Hud gyda'r gwningen. Drwy gydol y cynhyrchiad, rydym yn arwain y gynulleidfa ar y daith gydag Alice wrth iddi ddatrys problem a chyflwyno hapusrwydd i Wlad Hud. Yn yr olygfa olaf, rydym yn dychwelyd i'r siop anifeiliaid anwes wreiddiol lle'r ydym yn penderfynu ai breuddwyd oedd y cwbl ai peidio?'

Wrth gyfansoddi, roedd Will yn awyddus y byddai gan Alice gân gref a oedd yn peri i'r gynulleidfa wirioni â hi a'i dilyn ar ei thaith wrth iddi wrthsefyll y Frenhines ac arbed Gwlad Hud. Gydag I Flew High in my Dreams, mae'r thema yn un llachar, cadarnhaol ac yn cael ei chynnwys ar wahanol adegau yn yr opera lle mae enaid Alice yn ceisio disgleirio. 

Mae gan y cymeriadau eraill hefyd gerddoriaeth sy'n cynrychioli eu personoliaeth, gan gynnwys y Gath Gaer contralto sydd â miaw perffaith a ddaw o ran uchaf y llais gwrywaidd; potel sy'n canu â llais soprano goloratwra a Lindysyn bas.

Cafodd Will fodd i fyw wrth weithio ar Alice's Adventures in Wonderland - nid yn unig y gwaith cyfansoddi, ond hefyd y cydweithio gyda'r libretydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, cantorion er mwyn cael y darn gorau posibl.