Newyddion

Cyflwyno opera i bawb

30 Gorffennaf 2025

Y llynedd, cyrhaeddodd Opera Tutti, sef cyngerdd trochol aml-synhwyraidd Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer rhai ag Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDLl), bron i 500 o bobl ifanc ledled Cymru, De-orllewin Lloegr a Dwyrain Canolbarth Lloegr. Cynlluniwyd Opera Tutti i deithio i ysgolion ADDLl oherwydd y rhwystrau y mae’r bobl ifanc hyn yn eu hwynebu wrth fynychu cyngherddau confensiynol, gan gynnwys teithio, y lleoliad a hyd y perfformiad. 

Cynlluniwyd y cyngerdd awr o hyd ar gyfer grŵp bychan o bobl ifanc sydd ag ADDLl a’u staff cefnogi. Yn eistedd mewn cylch, mae’r cantorion yn symud o gwmpas yr ystafell, gan ryngweithio â’r gynulleidfa’n gyson. Ar adegau, mae’r offerynwyr hefyd yn codi ar eu traed i berfformio’n agos at y bobl ifanc. Mae pob cyngerdd yn cychwyn â chân ‘Helô’. Mae’n ennyd teimladwy lle mae’r cerddorion yn cyfarch pawb wrth eu henw, gan osod y naws ar gyfer perfformiad rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar y person. 

Mae’r repertoire, gan gynnwys gweithiau Verdi, Mozart a Schubert, yn rhoi profiad cerddorol eang i bobl ifanc, gan gynnwys y cyfle i glywed yr ensemble llawn o naw canwr a cherddor, yn ogystal â lleisiau ac offerynnau unigol. Mae propiau synhwyraidd, gwisgoedd, goleuadau, ac aroglau yn ategu’r perfformiad, gan gynorthwyo pobl ifanc i ddehongli naratif y gerddoriaeth. Y thema yw’r tymhorau. Mae’r cyngerdd yn cychwyn gyda’r gwanwyn yn deffro’n araf, gan adeiladu i haf gorfoleddus, sy’n cael ei ddilyn gan anghydfod stormus yr hydref, ac yn olaf, gaeaf gorffwysol. Mae’r thema hon yn fecanwaith bwriadol er mwyn sicrhau bod amseriad a dwyster y perfformiad yn raddol, gan osgoi cynhyrfu’r rhai sy’n sensitif i synau a symudiadau annisgwyl.  

Mae’r adborth gan y staff sy’n cefnogi’r bobl ifanc sydd ag ADDLl yn hynod deimladwy a phositif, yn nodi eu bod yn eu gweld yn ymateb mewn ffyrdd na welsant erioed o’r blaen. Dyma rai pigion:

Lefelau mor anhygoel o fwynhad a chyfathrebu gan ein pobl ifanc. Roedd un myfyriwr sy’n cyfathrebu drwy wneud synau parhaus yn dawel gan ei fod wedi llwyr ymgolli yn yr opera. Rhyfeddol.

Roedd hwn yn gyfle prin a gwerthfawr i’n dysgwyr gael mynediad at brofiad diwylliannol o ansawdd mewn modd a deimlai’n ddiogel a phleserus. Profiad synhwyraidd gwych a oedd yn hynod ysgogol neu leddfol, yn dibynnu ar y darn.

Hwn oedd un o’r diwrnodau mwyaf emosiynol i mi ei gael fel athro ac roedd yn fraint cael bod yn rhan ohono.

Oherwydd effaith gadarnhaol Opera Tutti a’r galw am fwy o brofiadau cerddoriaeth fyw i bobl ifanc anabl, rydym wedi datblygu fersiwn stiwdio ar gyfer Grŵp Anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol ehangach. Rydym wrth ein bodd yn parhau i gyrraedd unigolion sydd ag ADDLl a chyrraedd mwy o bobl ifanc o ran eu hanghenion a’u lleoliad daearyddol, rhywbeth na allem ei wneud heb gyfraniadau arbennig cefnogwyr WNO, sy’n cynorthwyo i gyllido ein gwaith ymgysylltu.

Am ragor o wybodaeth am Opera Tutti, cysylltwch â chynhyrchydd y rhaglen, Sandra Taylor, ar sandra.taylor@wno.org.uk