Newyddion

Britten ym myd opera

23 Ebrill 2024

Bu’n gyffrous gweld cynhyrchiad newydd WNO o opera olaf Benjamin Britten Death in Venice, y mae’r perfformiadau ohoni’n brin, yn ennyn adolygiadau beirniadol mor wych ac yn cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd llawn. Ac yn hyd yn oed mwy cyffrous yw’r disgwyliadau o ran cynhyrchiad newydd WNO o Peter Grimes, sef un o’i operâu cynharaf, yn 2025.

Mae’r ddwy opera’n cynnig mewnwelediad i Britten fel cyfansoddwr, ynghyd â’i fywyd, gan eu bod yn nodweddu cychwyn a diwedd ei yrfa faith. Er ei fod wedi cyfansoddi nifer o weithiau, ystyrir mai operâu Britten yw’r rhan bwysicaf a mwyaf sylweddol o’i etifeddiaeth gerddorol.

A hwnnw wedi’i eni yn Suffolk yn Nhachwedd 1913, ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd ei addysg gerddorol gyda gwersi piano pan oedd yn saith oed, gan fynd ymlaen wedyn i’r Royal College of Music yn Llundain, o dan warchodaeth y cyfansoddwr Frank Bridge.

Yn 1937, cyfarfu Britten â’r tenor Peter Pears, a ffurfiodd berthynas glós a phartneriaeth gydweithredol ag ef gydol ei oes. Erbyn 1944, dechreuodd Britten weithio ar ei opera gyntaf ar raddfa fawr, sef Peter Grimes. Wedi’i hysbrydoli gan stori pysgotwr ar arfordir Suffolk, o gerdd epig George Crabbe, The Borough (1810), perfformiwyd Grimes am y tro cyntaf ym 1945 yn Sadler’s Wells, ar gyfer dathlu ei ailagor ar ôl ei gau dros gyfnod y rhyfel, gyda Peter Pears yn rôl teitl yr opera. Yn ystod yr ymarferion, roedd rhai o aelodau Cwmni Sadler’s Wells wedi cwestiynu ‘cacoffoni’ cerddoriaeth Britten, a oedd yn torri tir newydd, ond roedd Peter Grimes yn llwyddiant ysgubol ymhlith cynulleidfaoedd a beirniaid. Roedd cerddoriaeth Britten yn Grimes yn flaengar ac yn newydd, ond nid mor avant-garde ei fod allan o gyrraedd pobl. Roedd bob amser yn diffinio ei genhadaeth syml fel cyfansoddwr fel a ganlyn, ‘to please people as seriously as we can’. Roedd y farn ymhlith ei gyfoeswyr yn amrywio: disgrifiwyd Britten gan Tippet fel ‘simply the most musical person I have ever met’; Roedd Bernstein yn ei ystyried fel ‘a man at odds with the world’. Mae Peter Grimes wedi mynd ymlaen i gael ei pherfformio a’i dehongli’n rheolaidd, ac fe’i hystyrir yn un o’r operâu gorau a ysgrifennwyd erioed yn y Saesneg.

Nodir yn aml mai’r thema a welir dro ar ôl tro yn operâu Britten, o Peter Grimes ymlaen, oedd yr unigolyn unig, a oedd yn aml wedi’i wrthod a’i gamddeall, a hwnnw’n benben â chymdeithas elyniaethus, wedi’i chyfuno â thema diniweidrwydd llygredig. Mae’r mwyafrif yn ystyried bod y themâu hyn yn adlewyrchu brwydrau a bywyd personol Britten ei hun.

Dros y 28 mlynedd rhwng Peter Grimes a’i opera olaf, Death in Venice (1973), cafodd y themâu hyn, oedd yn codi dro ar ôl tro, eu datblygu ymhellach. Roedd arddull gerddorol Britten wedi esblygu hefyd, gan ei fod wedi cyflwyno elfennau o ddigyweiriaeth a dylanwadau cerddorol dwyreiniol, yn enwedig synau tarawol gamelan a harmonïau dwyreiniol. Death in Venice yw un o’r operâu dwysaf o safbwynt seicolegol a ysgrifennwyd erioed, ac mae’n meddu ar amrywiaeth o gerddoriaeth archwiliol, hiraethus ac atgofus. Mae’n hoelio sylw ar fonolog mewnol anniddig yr awdur Aschenbach ac yn enghraifft o ‘opera ddi-dor’ (‘through-composed opera’), lle mae’r gerddoriaeth yn llifo heb ymyriad, o’r dechrau i’r diwedd, heb unrhyw agorawd, a heb ailadrodd unrhyw themâu a motiffau cerddorol, neu ariâu ar gyfer cymeriadau, y corws neu’r gerddorfa.

Gellir dadlau mai Death in Venice oedd magnum opus Britten a, hyd heddiw, Peter Grimes yw ei opera enwocaf, sy’n cael ei pherfformio amlaf. Mae’r ddwy opera’n adlewyrchu storïau rhywun sydd ar y cyrion, sy’n cael ei gamddeall a’i wrthod gan gymdeithas anghyfeillgar, sydd, mewn sawl modd, yn adlewyrchu brwydrau personol Britten ei hun. Mae’r ddwy opera’n cynnig cerddoriaeth arbennig, wahanol a chymhleth, sy’n amlygu esblygiad a datblygiad Britten fel cyfansoddwr operâu, o gychwyn ei yrfa, hyd ei diwedd. Mae’r ddwy opera’n adlewyrchu disgleirdeb un o gewri byd opera’r 20fed ganrif.  

Peidiwch â cholli allan ar eich cyfle olaf i weld Death in Venice ym Mryste ar 27 Ebrill ac yn Birmingham ar 11 Mai. Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer ein cynhyrchiad newydd sbon o Peter Grimes y flwyddyn nesaf, yn agor yng Nghaerdydd ar 5 Ebrill 2025.