
Mae’n anodd credu bod 20 mlynedd ers i mi a Sian Cameron (Hyfforddwr Llais Opera Ieuenctid) gwrdd â saith person ifanc brwd yn Stryd Tyndall Opera Cenedlaethol Cymru. Yma y sefydlwyd y Clwb Canu, grŵp a fyddai’n datblygu i fod yn Opera Ieuenctid WNO ar gyfer pobl ifanc 10 i 14 mlwydd oed a phobl ifanc 14 i 18 mlwydd oed. Dros y blynyddoedd, cafwyd llawer o uchafbwyntiau, ein cynhyrchiad llwyfan blynyddol wrth gwrs, ond rydym hefyd wedi cymryd premier y byd ar daith, wedi canu ym Mhalas Buckingham, a hyd yn oed wedi perfformio’n fyw ar BBC Radio 3.
I nodi ein dathliad arbennig, comisiynodd Paula Scott, Cynhyrchydd WNO, ddarn i ddod â dau o’n grwpiau Opera Ieuenctid ynghyd, yn ogystal â rhai o’r cyn-aelodau a dau unawdydd gyrfa gynnar. Fe gwrddais ag ysgrifenwyr talentog dros ben, gyda phob un yn gwneud pethau anhygoel, ond roeddem ar ben ein digon pan dderbyniodd Bethan Marlow, a anwyd yng Nghymru, y swydd libretydd, ac felly aethom ati i weithio ar beth a ddatblygodd yn Panig! Attack!!
Mae ein stori yn cynnwys dau grŵp o bobl ifanc (un ychydig yn dalach na’r llall!). Dau grŵp sydd â nodweddion gwahanol iawn: Mae Panig yn bwyllog ac yn chwilfrydig, wrth i Attack fod yn feiddgar ac yn llawn rhyfyg. Maen nhw’n wahanol o ran cerddoriaeth hefyd; Mae Panig yn canu mewn cytgord agos, gyda thueddiad i drugarhau a myfyrio. Mae cerddoriaeth Attack yn wyllt, yn debyg i gartŵn, ac yn eich atgoffa o gêm gyfrifiadur 8-bit.
Yn wahanol i’n grwpiau Opera Ieuenctid, pan mae’r ddau griw yn dod wyneb yn wyneb... nid yw pethau’n mynd yn dda. Yn herio ei gilydd i feddwl yn wahanol a gweld y byd o ogwydd newydd, mae hon yn stori o oroesi mewn argyfwng byd-eang. Yn perfformio i gyfeiliant Cerddorfa WNO, mae hon yn stori galonogol sy’n dangos talent ragorol Opera Ieuenctid WNO.
Mae Bethan wedi rhagori ar gyfuno llawer o syniadau yn uniongyrchol gan ein cyfranogwyr. Gallwch ddisgwyl hiwmor, ambell i beth abswrd ac efallai sombi neu ddau. O dan y cyfan fodd bynnag mae yna stori deimladwy iawn am wrthdaro, a ffolineb y gwrthdaro hwnnw, a sut ydym yn aml iawn yn canolbwyntio’n anghywir ar y pethau sydd yn ein gwahaniaethu ac yn ein dallu, yn hytrach na’r pethau sydd yn gyffredin rhyngom.
Mae Opera Ieuenctid WNO yn grŵp y mae Sian a minnau yn falch iawn o fod yn gysylltiedig ag ef. Nid hyfforddi cantorion opera’r dyfodol yw prif fwriad y grŵp o’r rheidrwydd; wrth gwrs, mae Opera Ieuenctid yn cynnig yr hyfforddiant hwnnw ac mae llawer o’n cyfranogwyr wedi mynd yn eu blaenau i ddod yn nid yn unig cantorion, ond actorion, dylunwyr a rheolwyr llwyfan, ond mae’r rhan fwyaf wedi dilyn bob mathau o lwybrau sy’n amherthnasol i theatr. Byddwn yn fwy na pharod i weithio ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerdd neu ddrama, ac sy’n fodlon aberthu rhan o’u dydd Sadwrn bob wythnos. Byddant yn gwneud ffrindiau newydd, yn dod yn rhan o dîm ac yn magu hyder, a hynny wrth ymgysylltu â ffurf gelfyddyd sy’n bwysig inni gyd. Mae’r ymarferion bob amser yn hwyl, ac rwy’n falch o ba mor groesawgar yw ein grwpiau tuag at aelodau newydd, a pha mor hael a chlên yw ein cyfranogwyr tuag at ei gilydd.